Rydych chi yn:  >   > 
Katheryn o Behrain

Cathryn o Ferain, 'Mam Cymru' (1534–1591)
Adriaen van Cronenburgh (tua 1520/25–tua 1604)

Sir Thomas Mansel a'i wraig, Jane

Syr Thomas Mansel a'i wraig, Jane
Yr Ysgol Brydeinig

Coliar Cymreig

Coliar Cymreig (1936)
Evan Walters (1893-1951)

Gwen John

Gwen John (1876-1939)
Ambrose McEvoy (1878-1927)

Wynebau Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
6 Mehefin – 24 Medi 2006

Mae Wynebau Cymru'n cyflwyno lluniau a ffotograffau o bobl sydd wedi cyfrannu at fywyd diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd Cymru dros y 400 mlynedd diwethaf. Mae'r wynebau'n cynnwys Cathryn o Ferain, "Mam Cymru” y Tuduriaid, y bardd eiconig, Dylan Thomas, yr actor, canwr ac ymgyrchydd hawliau sifil o America, Paul Robeson, a thad pensaernïaeth fodern, Frank Lloyd Wright. Bydd yr arddangosfa'n dangos Comisiwn Portreadau Ffotograffig cyntaf AXA Art, sef portreadau o ddau ffigur Cymreig blaenllaw, Archesgob Caergaint, Dr Rowan Williams a'r awdures, Sarah Waters. At hynny, dyma'ch cyfle cyntaf i weld portread diweddar Rolf Harris o'r gantores Gymreig, Katherine Jenkins.