Mae ein gwefan yn newid. Rydym ni’n treialu tudalennau newydd: beth ydych chi’n feddwl amdanynt? Mwy

Partneriaethau Busnes

Mae Amgueddfa Cymru'n fyd-enwog am gyfoeth ein casgliadau amlddisgyblaeth. Mewn saith amgueddfa ledled Cymru mae'r amrywiaeth eang o bynciau a gweithgareddau yn denu dros 1.2 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn unig.

Rydyn ni'n gweithio gyda chwmniau o bob maint i feithrin partneriaethau cadarn a hirhoedlog sydd yr un mor fanteisiol i'r naill ochr a'r llall. Gallwn eich helpu chi i:

  • wneud brandiau'n fwy adnabyddus
  • gynyddu gwerthiant
  • gynnig anogaeth a chyfleoedd unigryw i'ch staff a'ch cwsmeriaid
  • ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau
  • ddarparu croeso unigryw a dethol.

Yr un pryd, gallwch elwa o gysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol drwy roi cymorth i sefydliad sy'n enwog drwy'r byd i gyd.

Mae amrywiaeth ac amryfalwch ein casgliadau'n cynnig amrediad o gyfleoedd heb eu hail ar gyfer eich busnes, gan gynnwys:

  • arddangosfeydd dros dro
  • gweithgareddau addysg
  • rhaglenni yn y gymuned
  • arddangosfeydd parhaol
  • datblygiadau cyfalaf
  • caffael gweithiau newydd.

Mae ein Tîm Datblygu yn hynod brofiadol wrth adnabod cyfleoedd sy'n cyfateb i anghenion busnesau ac wrth lunio rhaglenni creadigol i'ch cynorthwyo i gyflawni amcanion eich busnes.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Claire Davies ar (029) 2057 3184, neu ebostiwch Claire Davies