Storïau

Ewyllys y Ffermwr a'i Dri Chyngor i'w Fab

Thomas Davies (1901-82)

Sain:

» Lawrlwytho y recordiad sain


Wel, roedd [John] Griffiths, [y Teiliwr], yn sôn am ryw ffermwr cefnog iawn, allwn i feddwl - beth ôn nhw'n alw ers blynydde nôl yn gentleman farmer. Ac odd e wedi neud ewyllys i'w fab. Mond 'i fab odd ar ôl. Odd y wraig wedi marw. Ac yn y wyllys rodd e'n rhoi tri chyngor i'r mab. Yn un peth, os oedd e'n mynd â cheffyl i'r ffair i'w werthu, am ofalu peidio â dod adre heb 'i werthu e. A'r cyngor arall wedyn, gweud wrtho fe am beidio â mynd yn rhy aml at 'i berthnase. A'r trydydd cyngor, peidio â mynd yn rhy bell oddi cartre i garu.

Wel, mewn tipyn o amser, bu farw'r tad. A rhyw ddydd ffair, dyma'r mab yn mynd â cheffyl i'w werthu, meddwl câl pris da amdano. Ond chafodd e ddim cynnig digon ac aeth ag e nôl a'i droi e allan i'r cae. Ac, fel mae'n digwydd, ar y ffarm, fe aeth y gwartheg i mewn i'r cae yma, ac fe darawyd y ceffyl gan gorn un o'r gwartheg, ac fe gollodd ei waed i gyd, ac fe fu farw. Wel, nawr, beth wnaeth y mab ond blingo'r ceffyl ac mae e'n taflu'r croen i fyny i ben wal lydan odd yn ymyl y sgubor, fel odd e yn y golwg bob amser - y croen 'ma.

Wel, nawrte, mewn tipyn bach o amser, gan 'i fod e'n 'i theimlo hi dipyn yn unig gartre, 'ma fe'n dechre ymweld â'i berthnase, ac oedden nhw i gyd yn falch i weld e, ac yn gwneud ffys ofnadw ohono ac yn paratoi gwledd iddo fe. Ond, fel bod yr amser yn mynd ymlaen, dodd e ddim yn câl cymint o groeso. Dodd y bwyd ddim cystel. A cyn bo hir odd y gwledda 'ma wedi gorffen, a falle cawse fe ddim ond - ddim byd ond te a darn o fara menyn. A rhyw ddwyrnod fe gafodd fara a llwydni arno. Ath adre. Ath i'r tŷ i mofyn torth, a taflodd hi i fyny i ben y wal yn ymyl y sgubor gyda'r croen.

Wel, ymhen amser, mi ath i garu. Aeth dipyn o ffordd oddi cartre, filltirodd o gartre i garu. Ac yn y lle 'ma, odd 'na adeilad wrth y tŷ, rhyw fath o storws, a odd hi'n bosibl i chi fynd o'r storws yma i mewn i'r tŷ, i'r llofft. Ac odd e yn mynd i weld y tad a'r fam yn amal iawn. Mynd yn y dydd weithie. Ôn nhw yn 'i nabod e a gwybod 'i fod e yn caru'r ferch. Wel, fel odd yr amser yn mynd ymlaen, gwedodd y ferch wrtho: 'Peidiwch â dod yma nos Iau, dewch nos Sadwrn', neu 'Peidiwch â dod nos Lun, dewch nos Fawrth'. A beth wnaeth e odd mynd ar y noson odd hi'n dweud wrtho am beidio dod. A 'ma fe'n mynd yn hwyr iawn. Dim gole yn unman. I fyny i'r storws yma, ac yn ddistaw bach i mewn i'r llofft. Ac odd e'n gwybod ble rodd y ferch yn cysgu. Ac wrth ddrws yr ystafell wely, rodd 'na drowser rib. Mae e'n cydio yn y trowser rib 'ma. Mae e'n mynd adre a mae e'n taflu'r trowser i fyny at y croen a'r dorth ar ben y wal sgubor. A dyna ddiwedd ar garu'r ferch yna.

Wel, ymhen tua hanner blwyddyn, fe ddâth gŵr bonheddig mewn trap a phoni, fel odd hi'r amser 'ny, ato fe. Tad y ferch yma. Ac fe roddodd bob croeso iddo. Fuodd e'n dangos yr adeilade i gyd iddo fe ar y fferm, mynd ag e fewn i'r tŷ, a rhoi croeso iddo i faint a fynno o fwyd a phopeth. Wel, pan odd y gŵr bonheddig ma'n 'madel, fe ddwedodd wrth y bachgen ar yr iard:

'Ôn i wedi meddwl byse merch i yn wraig yma rhyw ddwyrnod. O, hanner munud', medde fe, 'beth yw'r trowser rib 'co sy ar ben y wal fancw? Weles i drowser rib 'da John, yn gwas ni, 'run fath yn union â hwnna'.

'O', medde'r mab, 'onibai am y trowser rib yna fyddech merch chi'n wraig yma heddiw'. A dyna'r stori.


  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.