Nodiadau, teipiau a motifau

Nodiadau'r stori 'Gwas Fferm yn Gweld Ysbryd John Morris, Pen-crug'

Clywodd Thomas Davies yr hanes hwn gyntaf gan rieni John Harris, y gwas fferm:

'Odd hi'n amser rhyfel. Ôn i tua un ar bymtheg, deudwch, rhywbeth felly. A nawr, fues i'n galw gyda brawd John Harris ryw dri mis yn ôl, a fues i'n cael cinio gydag e 'na, Tom. A fuon yn sôn ambiti hyn. A wedodd:

'Ma hynna'n hollol wir. Ych chi'n iawn. Odi, odi, mae'n hollol wir.' '

Roedd yr hen ŵr yn cerdded o'r ffordd, mewn trw'r giât, i'r tŷ' pan welodd y gwas fferm ef. Roedd rhieni Thomas Davies yn 'meddwl bod e'n beth rhyfedd iawn. Ac ôn nhw'n 'i gredu e. Dodd dim dadl. Odd hwnna - odd e'n wir. Odd y bachgen wedi 'i weld e 'i hun. Odd e wedi'i weld e. Ac odd e'n fachgen allech chi ddibynnu arno.'


Teipiau

ML 4002 (C)Profiadau goruwchnaturiol.
ML 4031 (C) Ysbrydion ar ffurf ddynol.
ML 4040 (C) Rhagarwyddion angau.

Motifau

D 1825.7Profiad goruwchnaturiol o ragweld digwyddiad.
E 279 Ysbryd ar ffurf ddynol yn cyniwair allan yn y nos.
E 421.1.1.1 Ysbryd yn weladwy i un person yn unig.
E 425.2 Ysbryd y marw ar ffurf dyn.
E 723.6 Person yn gweld drychiolaeth ohono'i hun yn rhagarwydd o'i farwolaeth.


  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.