Nodiadau, teipiau a motifau

Nodiadau'r stori 'Ewyllys y Ffermwr a'i Dri Chyngor i'w Fab'

Dyma un o hoff storïau Thomas Davies. Clywodd hi gan John Griffiths, y Teiliwr, Waun Gilwern, Plwyf Pen-boyr, ar yr aelwyd gartref yn Nhreale. Cofiai am yr ymweliadau hynny yn dda:

'Odd e'n dod i'n tŷ ni ... yn arbennig yn y gaea ... o leia beder gwaith y flwyddyn, oherwydd ôn ni'n naw o blant, pump o fechgyn, a fo odd yn gwneud dillad i ni. Ac odd e'n dod hefyd am dro hyd yn oed pe bai dim neges ganddo weithie. Oedd. Ac yn aros, wrth gwrs, hyd hanner nos, yn adrodd storïe ... Cerdded tair milltir bob ffordd. Dyn tal, cerdded fel milwr ...

Tua faint oedd 'i oed o rwan pan oeddech chi'n wyth i naw oed?

Wel, tebyg iawn 'i fod e, dwedwch, yn ddeugen, pump a deugen oed. Rhwbeth felly. Ie. Ond oeddwn i'n falch pan yn blentyn i'w weld e'n dod i fyny at y tŷ.

Fedrwch chi roi disgrifiad rwan o sut bydde fo'n siarad? Beth odd 'i ddull o o'ch cyfarch chi, wedi dod i'r tŷ?

Wel, fydde Griffiths yn dod fewn trw'r drws. Fydde fe ddim yn cnocio'r drws. Ond doedd pobol ddim yn cnocio llawer o'r dryse yn yn ardal ni yr amser hynny. Cerdded i fewn: 'Hylo, shwd ych chi 'ma i gyd'. Odd e'n câl wedyn 'i wawdd mlaen at y tân i eistedd a câl pryd o fwyd yn fuan iawn wedi dod. Pawb mor falch i'w weld yn dod. Ac os fydde mrodyr wedi meddwl mynd i rywle'r noson honno, doedden nhw ddim yn mynd. Aros adre i glywed Griffiths. Odd e'n well na chyngerdd ...'

A dyma yn awr ragor o atgofion Tom Davies am y teiliwr difyr o Blwyf Pen-boyr, ei ddull o adrodd ei storïau, a disgrifiad o'r aelwyd yn Nhreale pan oedd Tom Davies yn hogyn.

'Oeddech chi'n dweud 'tha i mai un waith glywsoch chi'r stori 'ne'n câl 'i hadrodd.

Wel, weda'i 'thoch chi, fi gâl gweud yn onest. Unwaith ôn i 'di chlywed hi amser ôn i'n weddol ifanc, gwedwch pan ôn i rhyw bymtheg, un ar bymtheg oed. A wedyn, mewn blynyddoedd wedyn, fe gwrddes i â'r teiliwr rywle a cymydog i fi gyda fi. A fe ofynnes i'r teiliwr i adrodd y stori wrth y cymydog. Dwywaith clywes i ddi.

Ond yr hyn sy'n rhyfeddol ydi bo chi 'di cofio'r stori.

Dyw im yn rhyfeddol ym byd i gofio storïe John Griffiths, achos fydde run peth am bawb ... Odd e'n dweud yn y fath fodd fel byddech chi'n cofio rhan fwya o'r pethe wedi clywed nhw unwaith gydag e ... Odd dag e shwt ddawn i adrodd stori. Alle neb 'i anghofio hi. Weles i im neb run fath ag e erioed. Mae'n drueni na fydden fyw heddi i gâl ricordio y pethe odd e'n ddweud.

'Na chi. Ymhle rodd o wedi etifeddu'r ddawn lafar yma, dech chi'n meddwl?

Sa'i - alla'i im dweud. Dwy braidd bo'n siwr na chafodd e im addysg eilradd. A ma rhaid bod e ynddo fe'n naturiol. Ac oedd e'n ddarllenwr mawr amser hynny, Cymraeg a Saesneg, peth lled anghyffredin yn yr amser oeddwn i'n byw, chi'n gweld ...

'Na chi. A beth oedd 'i ddull o adrodd y storïe 'ma?

O, doedd mo Griffiths yn mynd i aros run man. Fydde fe wedi cerdded nôl ac ymlaen ac aros; chi'n gwybod, actio run pryd ... Alle fe im bod yn llonydd. Odd raid iddo godi ar 'i draed a cherdded ...

Oedden i'n ame hynny. Roeddech chithe yn ceisio ymlacio a codi o'r gader, yn doeddech chi? Oedd o'n adrodd y stori yma run ffordd â gwneud 'i waith?

O, fe adrodde stori amser odd e'n neud 'i waith, ond fe gode ar hanner neud 'i waith i gerdded o gwmpas ac actio ...

Oedd o ... â gwen fawr ar 'i wyneb, neu -

O, oedd - dipendo - dibynnu ar y stori, wrth gwrs. Oedd. Gwên ar 'i wyneb e. Ôch chi'n gweld bod e'n mwynhau. Oedd. O, oedd. Oedd hi'n noson allan iddo fe. Odd e'n mwynhau'i hunan yn well na ta fe - er bod ffordd bell dag e - na ta fe wedi pido dod, 'te ...

Ôch chi'n deud bod o'n dramadeiddio, pa ddefnydd odd o'n 'i neud o'i lais?

O, odd e'n neud digon o ddefnydd o'i lais. Odd e'n amrywio. Odd llais mynd i fyny ac i lawr, run peth â ta fe yn cystadlu mewn steddfod yn amal iawn.

Oedd o'n disgwyl i chi ymateb drwy ddweud ryw ebychiad neu amenio?

O, oedden ni'n gneud hynny, a wy'n credu bod e'n ddigon balch. Ond oedd e'n mwynhau'r cwmni, chweld. Wy'n credu nawr, dyna ddyn pe bai e'n ddarlithiwr mewn coleg hyfforddi, Coleg y Drindod - jiw annwl! trueni na fase rhai tebyg iddo heddi, faswn i'n dweud ...

Ie. Pwy oedd yn bresennol ar yr aelwyd pan oedd o'n adrodd y stori yma [Ewyllys y Ffermwr a'i Dri Chyngor i'w Fab]?

Wel, lled debyg bo'n nhad a mam, ac oedden ni'n naw o blant. Odd rhan fwyaf ohonon ni yno, beth bynnag. A alle fod cymydog ne ddau hefyd. Fe fydde lawer tro ...

Dech chi'n cofio'r noson arbennig pan adroddodd o'r stori yne?

Alla'i im cofio'r noson arbennig, ond rwy'n gwybod bod y rhyfel ymlaen [Rhyfel Byd Cyntaf]. Roedd y rhyfel ymlaen oherwydd oedd Griffiths pan fydde fe'n dod yn dweud tipyn o hanesion y rhyfel wrthon ni - rhywbeth - dod â newyddion. Achos odd mo bobol gyffredin yn derbyn papur newydd 'ramser hynny. Dim ond papur bob wythnos, falle ...

'Na chi. Sut byddech chi yn 'i brofocio fo, neu yn 'i arwain o i ddweud rha o'r storïe yma?

O, fysen i, neu rai o mrodyr, yn gweud: 'Griffiths, sach chi ddim stori newydd i gâl heno'? A falle na ddele'r stori ddim ar unwaith, ond fe fydde siwr o ddod ...

Fydde gynno fo stori newydd yn amal?

O, fydde, lled amal. Fydde.

Fydde fo weithie'n ailadrodd hen stori?

O, bydde. Fydde'n gneud hynny hefyd. Bydde ... A weda'i 'thoch chi beth arall odd e'n neud. Odd e'n ganwr da, ych chi'n gweld. Fydde'n mynd allan i ganu. Ma 'na ryw gân leddf 'Hen Feibil Mawr Mam-gu'. A fyse mam a rhyw wragedd 'se yn y tŷ, O, fyse'r dagre'n rhedeg lawr 'da nhw. Odd e'n gofalu wedyn canu cân ysgafn, ysgafn, strêt ar 'i hôl hi ...

Odd o ddim yn gneud 'i waith yn ych tŷ chi?

O, nagoedd, mond dod i'n mesur ni odd e'n neud, chi'n gweld - os bydde isie mesur i gâl pâr o ddillad ...

Ond pan oedd o yn ych tŷ chi rwan, ble fydde fo'n iste?

Wel, odd 'na sgiw i gâl, sgiw bren ... Fyswn i'n dweud bo nhad a John Griffiths a falle un o'm brodyr yn ishte ar y sgiw 'na. Odd hi'n sgiw go fawr ...

Hynny ydi, ar yr ochor dde wrth edrych at y tân.

... Fel rheol ar y sgiw bren yma. Ie, yn ymyl y tân ac yn smocio yn amal iawn ... Wel, wedyn, ar yr ochor arall odd 'na beth ôn nhw'n galw 'sgiw fach', ych weld, le ôch chi'n cadw dillad - dillad isha. Odd sgiw fach man 'ny. Alle rhyw dri ishte man 'na, ar ochor 'na, wedyn. A fydde'r lleill ar gadeirie. Odd 'na dân mawr i gael. Wel, doedd hi ddim yn oer yna ...

Beth fydde'ch sgwrs chi wedi i John Griffiths fadel o'r tŷ?

Wel, odd hi'n dod fel hyn, odd hi'n bryd i bawb i fynd i'r gwely, achos fydde John Griffiths ddim yn mynd cyn hanner nos, a falle mhell wedi hynny ...

Oeddech chi'n cael caniatâd rwan gan ych rhieni i aros lawr cyhyd?

Oeddwn yr oedran hynny. A, wyddoch chi, lle oedden ni? Odd hen simne fawr gyda ni, ac ôn ni'm cadw lle neb arall. Ôn i ar ben pentan a rhyw stôl fach gyda fi. A mrawd 'rochor arall i fi ar ben pentan. Ôn ni'm cadw lle neb, ych chi'n gweld. Odd hynny reit tu ôl [i fantell y simddai] - chi'n diall i? Hen simne fawr agored, a ôch chi'n galler gweld y lleuad allan trwyddi.'


Teipiau

AT 911Cyngor tad ar ei wely angau. Profiad yn datgelu mor ddoeth yw'r cyngor.

Motifau

J 21.4'Paid â phriodi merch o bell.' Profiad yn datgelu mor ddoeth yw'r cyngor.
J 21.9'Paid ag ymweld â'th gyfeillion yn rhy aml.' Profiad yn datgelu mor ddoeth yw'r cyngor.
J 21.26 'Paid â bod yn rhy farus wrth brynu a gwerthu.'Profiad yn datgelu mor ddoeth yw'r cyngor.
Z 10Fframwaith fformiwläig ar gyfer storïau gwerin.
Z 71.1Rhif tri fformiwläig.


  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.