Nodiadau, teipiau a motifau

Nodiadau'r stori 'Croesi'r Terfynau ar Ddydd Nadolig, a'r Teulu Bach wrth Ogof Pitar Graen'

Yn y fersiwn brintiedig dywed Ifan Gruffydd ei fod tua saith i wyth mlwydd oed pan welodd y teulu bach ar ddydd Nadolig gyntaf, a'r 'Ogof Fawr' yw'r enw a roddir ganddo ar yr ogof. Yn ei atgofion ar dâp, fodd bynnag, dyma'i sylw pan holwyd ef ymhellach am yr ogof:

'Ogof Pitar Graen 'dan ni'n 'i galw hi. Fuo 'na ryw hen fachgan o'r enw Pitar Graen, ne Peter Green, yn byw yno, dach chi'n gweld. Wel, odd 'rhen ogo wedi bod yn gyrchfan llawar o bobol tebyg i rheina dwi 'di sïn amdanyn nhw wrthoch chi. Amball i hen grwydryn, dach chi'n gweld, yn gneud 'i gartre yn yr ogo am ryw wythnos, dudwch, ne bythefnos, ne weithia am dymor Gaea. Codi allan i hel 'i damad hyd y wlad... ac amball un yn grefftwr yn medru mynd o gwmpas y ffermydd i ofyn oeddan nhw eishio hogi arfau, neu drwshio llestri – llestri coed dwi'n feddwl rŵan... Hen deiliwr, falla, ar grwydr, yntê. Wel, neb yn gwbod sut y bydda fo wedi mynd i'r stad honno... Llawer i hen deulu felly welish i hefyd, wedi gweld amsar gwell.'

A dyma sylw pellach gan Ifan Gruffydd am arwyddocâd 'un dydd a blwyddyn':

'Odd 'na rwbath mewn un dydd a blwyddyn, yntoes. Ers dalwm, fydda pob ryw beth pwysig iawn, dudwch rywun wedi gneud 'i wyllys, 'tê, rywun wedi gadal rwbath ichi, chaech chi mono fo am un dydd a blwyddyn, na chaech?'

Fel ateb i'r cwestiwn: 'Glywsoch chi rywun arall ar wahân i'ch mam yn sïn am y Tylwyth Teg', meddai Ifan Gruffydd:

'O, diar mi, do, yr hen bobol. 'Rhen bobol yn deud haneshion Tylwyth Teg, dach chi'n gweld, ar yr aelwyd, yntê. Welish i Mam yn mynd – fel bydda'r hen gymdogion amsar honno'n mynd i weld 'i gilydd gyda'r nosa, 'tê. Treulio dwy awr neu dair yn nhŷ cymydog rŵan. Ryw hannar dwshin wedi dŵad at 'i gilydd a finna, wrth gwrs, yn blentyn bach yn ista ar y stïl huarn wrth tân, felna. Stïl huarn a ffendar, 'tê, wrth gwrs, o flaen yr hen danna, yntoedd. A fydda'r hefal dân a'r procar melyn, melyn, fel aur bron. Deyn! odd gynnyn nhw waith llnau. Wol, ar y stïl huarn bydda'r plentyn bach i ista bob amsar, a'r hen deulu yn 'u cadeiria ac ar y setl ac yn y blaen, ac yn câl sgwrsus. Wol, er mwyn diddordeb i'r plentyn, weithia deud stori Tylwyth Teg wrtho fo, 'tê. A glywish i lawar stori Tylwyth Teg, 'u bod nhw wedi dal plentyn bach rywun ac wedi mynd â fo, ac wedi'i gâl o'n ïl pen un dydd a blwyddyn, felna o hyd...

Fyddech Mam yn adrodd rhai o'r straeon 'ma wrthoch chi?

O bydda, straeon tebyg. Bydda, tad.

'Dech chi'n cofio un ohonyn nhw?

Wel, na fedra i 'm cofio dim mwy na dwi 'di ddeud wrthach chi rŵan. Rwbath felna. Sïn am lle byddan nhw'n byw, 'ntê. Dan y ddaear ac yn yr ogofâu. Ac odd gynnyn nhw leoedd hardd, bendigedig, a phetha fyddan nhw 'di gasglu, dach chi'n gweld... yn ddodrefn, yn lestri, yn deganau ac yn ddarluniau. A bod nhw'n fedrus iawn ar lunio a gwneud peth 'u hunain hefyd. Mond ryw streuon felly. Wedyn oddna ryw ddirgelwch mawr ynglŷn â'r Tylwyth Teg.'

Adroddir rhagor o hanesion am y Tylwyth Teg gan Ifan Gruffydd ar dâp AWC 1636.

Mae'r eitem uchod yn enghraifft ddiddorol o naratif bersonol – 'stori wir' – yn cael ei hadrodd yn sgîl trafodaeth am y Tylwyth Teg.


Teipiau

ML 4075Ymweld â gwlad y Tylwyth Teg.
ML 4077 (C) Cael eich cadw yng ngwlad y Tylwyth Teg.
ML 5080 Bwyd gan y Tylwyth Teg.
ML 6072 (C) Profiadau yn ymwneud â'r Tylwyth Teg.

Motifau

C211.1Tabŵ: bwyta yng ngwlad y Tylwyth Teg.
F 211.3 Tylwyth Teg yn byw o dan ddaear.
F 216 Tylwyth Teg yn byw yn y goedwig.
F 217 Mannau cyfarfod y Tylwyth Teg.
F 221.1 Tŷ'r Tylwyth Teg yn diflannu gyda'r wawr.
F 222.1 Palas tanddaearol y Tylwyth Teg.
F 234.2 Tylwythen Deg ar ffurf person.
F 234.2.5 Tylwythen Deg ar ffurf merch ifanc hardd.
F 239.4.1 Tylwyth Teg yr un maint ag oedolion.
F 240 Eiddo'r Tylwyth Teg.
F 241.8 Dofednod gan y Tylwyth Teg.
F 243.3 Tylwyth Teg yn bwyta cig.
F 310 Tylwyth Teg a phlant meidrolion.
F 320 Tylwyth Teg yn cario pobl i wlad hud a lledrith.
F 328 Tylwyth Teg yn denu pobl i'w gwlad.
F 388 Tylwyth Teg yn ymadael.
F 393.5 Tylwyth Teg i'w gweld ar adegau neilltuol.
P 715 Cenhedloedd penodedig.
P 715.2* Cenhedloedd: Sipsiwn.
P 715.2.1* Priodas gyda merch o Sipsi.
P 715.2.3* Plant Sipsiwn.
T 110 Priodas anarferol
Z 72.1 Blwyddyn a diwrnod


  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.