Nodiadau, teipiau a motifau

Nodiadau'r stori 'Gŵr o Ysbyty Ystwyth yn Gweld 'Gole Corff''

Adroddodd Mary Thomas yr hanesion uchod fel rhan o sgwrs rhyngddi hi, William Thomas, ei phriod, a'r holwr, am ragarwyddion angau yn ardal Ffair-rhos a'r cylch. Y mae'r hanesion yn dilyn yr hanesyn: 'Gweld angladd ar yr Hewl o Bontrhydfendigaid i Ystrad-fflur' a'r sylwadau a ganlyn gan William Thomas a Mary Thomas am goel arbennig ynglŷn â'r gannwyll gorff, neu 'ole corff', fel y galwent hwy y rhagarwydd.

WT: Ond, ch'mbod, odd gole corff 'da nhw ers blynydde nôl yn mynd ar hyd 'rhewl, ôch chi'n gweld gole bach yn dod, chwel. A hen Ddoctor Rowlands yn byw yn Bont 'ma, chwel. A gwedwch chi bod e yn gweld gole'n dod, odd e'n dod lawr o gefen 'i geffyl - odd e amser 'ny, i chi'n gwbod, yn mynd lawr ar hyd y wlad 'ma at bobol sâl, a rhywbeth felny, â cyffyle ôn nhw'n mynd - beth odd e'n gwneud, tynnu'i hat, chwel, os gwele fe bwll o ddŵr, rhoi'i hat ar bwys y dŵr. Odd e'n nabod y dyn odd yn mynd i farw, wrth bod y gole'n mynd trw'r hat.
MT: Os fyddech chi'n hapno gweld gole corff a bo chi'n paso trwy ddŵr ar yr hewl, fydde chi'n sbio yn y dŵr pan bydde'r angladd yn mynd trw'r dŵr ôch chi'n nabod y person fydde yn y coffin [chwerthin].
WT: Gobeithio cysgith e heno! Gobeithio cysgwch chi heno [gan gyfeirio at yr holwr a chwerthin]!
MT: O, dier annwl!
RG: ... A pwy oedd yn dweud yr hanes yma wrthoch chi?
WT: Wel, clywed yn mam-gu yn gweud. Odd yn mam-gu i yn whâr i'w thad hi [MT].
MT: Clywed yr hen bobol yn siarad, chwel, yr hen bobol yn trafod, i chi'n gweld. Yr hen fobol odd â'r hanesion 'na i gyd.
RG: Ac odd hi'n gred, bod modd gweld pwy fydde'n marw os ôch chi'n edrych yn y dŵr?
WT: Wel, ôch chi'n rhoi'ch hat fan hyn ar bwys y dŵr, cesech chi weld y gole, a wedyn fe nabyddech chi'r dyn yn yr hat, i chi'n gwbod, wrth bod y gole'n paso. 'Na beth ôn nhw'n weud.

Wedi i Mary Thomas adrodd am brofiadau ei thad-cu, Thomas Jones, Ysbyty Ystwyth, dyma ei hateb i'r cwestiwn: 'Pa fath ole oedd hwn?' 'Wel, gallwn i feddwl bod e'n amrywio yn 'i seis yn ôl oedran y dyn. Wi'n credu mai cannwyll go fach os bydde plentyn; odd hi'n fwy o seis os bydde dyn mewn ôd.' A dyma sylwadau pellach ganddi am gredöau ei thad-cu a'i ddylanwad arni hithau (tâp AWC 6450).

Odd e'n gymeriad arbennig iawn ... yn gymeriad ar 'i ben 'i hunan. Odd e'n gweld ysbryd a gole corff ymhob man.
Ydech chi'n credu mewn pethe felne?
Wel, odw.
Ydech chi?
Odw, wi yn credu, waeth odd yn nhad-cu yn credu ac odd e'n 'u gweld nhw, ac un peth dwi'n siŵr nag odd ddim o nhad-cu yn gweud anwiredd. Odd yn nhad-cu yn gweud y gwir.

Am hanesion eraill a adroddwyd gan Mary Thomas yn ymwneud â phrofiadau goruwchnaturiol, gw. eitemau:

  1. Clywed Canu Emyn am Dri o'r Gloch y Bore.
  2. Llanc Ifanc yn Dod Adre o Garu ac yn Gweld Ysbryd ei Bartner.
  3. Enoc Ysguboriau a Phegi, ei 'Ferch Fach', yn Gweld Angladd ar yr Hewl.

Teipiau

ML 4002 (C)Profiadau goruwchnaturiol.
ML 4040 (C) Rhagarwyddion angau.
ML 4040 (C) (b) Y gannwyll gorff.
ML 4040 (C) (c) Y toili (angladd ymrithiol).

Motifau

D 1825. 7Profiad goruwchnaturiol o ragweld digwyddiad.
E 272Ysbrydion ffyrdd.
E 421. 1.1Ysbryd yn weladwy i un person yn unig.
E 530.1Goleuadau goruwchnaturiol.
E 530. 1.6Goleuadau goruwchnaturiol yn rhagarwydd o farwolaeth.
E 723.2Gweld drychiolaeth ohonoch eich hun (cannwyll gorff) yn rhagarwydd fod y person hwnnw yn mynd i farw'n fuan.


  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.