Robin Gwyndaf

[delwedd: Robin Gwyndaf a T W Thomas]

Cofnodwyd y storiau gwerin hyn gan Dr Robin Gwyndaf, Curadur Llên Gwerin, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Fe'i maged ef ar aelwyd fferm fynyddig Yr Hafod, Llangwm, yn yr hen Sir Ddinbych yng ngogledd Cymru, aelwyd a chymdogaeth lle roedd traddodiad byw o adrodd storïau, barddoni a chanu.

Ym mis Hydref 1964 fe'i penodwyd yn aelod o staff Sain Ffagan. Bu hefyd rhwng 1982 ac 1999 yn Ddarlithydd Anrhydeddus mewn Llên Gwerin yn ei hen goleg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Yn 1993 fe'i penodwyd yn Gymrawd Llên Gwerin cydwladol, ac yn 1995 yn aelod o Fwrdd Cydwladol Canolfan Diwylliant Gwerin Ewrop o dan nawdd UNESCO.

Fel rhan o weithgarwch Dr Robin Gwyndaf yn Sain Ffagan rhoes sylw arbennig i waith maes, ac y mae'r casgliadau helaeth yn archifau'r Amgueddfa bellach yn cynnwys rhai miloedd o eitemau ym maes llên gwerin ar bynciau megis hwiangerddi a rhigymau, posau, emynau llafar gwlad a llên gwerin byd natur. Bu'n cyfweld dros dair mil o bersonau hwnt ac yma yng Nghymru a recordiwyd dros 450 ohonynt ar dâp (cyfanswm o 700 awr o recordiadau). Prif gynnwys y recordiadau sain hyn yw storïau, traddodiadau a choelion gwerin (oddeutu 20,000 o eitemau).

[delwedd: Archif Sain Amgueddfa Werin Cymru]

Cyhoeddwyd eisoes gyfres o gasetiau sain gan yr Amgueddfa sy'n cyflwyno peth o'r deunydd hwn. Cyhoeddodd yr awdur hefyd nifer o gyfrolau a chyfresi helaeth o erthyglau sy'n ymwneud â diwylliant gwerin Cymru. Ceir cyflwyniad pellach i draddodiad maith a chyfoethog y stori werin yng Nghymru yn benodol yn y ddwy gyfrol Straeon Gwerin Cymru (Cyfres Llyfrau Llafar Gwlad, rhif 10, Gwasg Carreg Gwalch, 1988) a'r cyfrol ddwyieithog a gyhoeddwyd gan yr Amgueddfa ym 1989 (ailargraffwyd ym 1999) Chwedlau Gwerin Cymru: Welsh Folk Tales

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.