Rydych chi yn:  >   >   > 
English
 
 
Nesaf:
Ffermdy Abernodwydd

Cyflwyniad


William Llewellyn a'i deulu yn eu car y tu allan i siop y Gwalia, tua 1912
William Llewellyn gyda'i deulu a gyrrwr yn ei Austin 15 Tourer y tu allan i Siop y Gwalia, tua 1912.
Ffermdy Abernodwydd - Llangadfan, 1937
Ffermdy Abernodwydd yn Llangadfan, 1937
Golwg ar du allan siop Gwalia
Golwg ar du allan siop Gwalia yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
Golwg ar du allan Ffermdy Abernodwydd
Golwg ar du allan Ffermdy Abernodwydd yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Adeiladau Hanesyddol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sefydlwyd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1947. Roedd yn rhan o fudiad a ysbrydolwyd gan waith a gychwynnwyd yn Sgandinafia i gasglu a gwarchod enghreifftiau o ffordd o fyw, wledig yn bennaf, a oedd ar fin diflannu. Roedd technoleg, diwydiant a threfoli yn cael eu cyfrif yn fygythiadau difrifol i ffordd o fyw a oedd wedi para ers yr Oesoedd Canol, gan ddibynnu ar y tir a'r môr.

Yng Nghymru, roedd pwyslais ar achub, ailadeiladu ac arddangos cartrefi a gweithleoedd pobl gyffredin, o wahanol gefndiroedd cymdeithasol a gwahanol gyfnodau, yn ganolog i ddatblygiad Sain Ffagan.

Yr adeiladau cyntaf i'w symud i Sain Ffagan oedd Stryd Lydan — ysgubor ffrâm bren o Lannerch Banna (1950) — ffermdai Abernodwydd (1951), Kennixton (1952), Hendre'r-ywydd Uchaf (1954), a Chilewent (1955), ac, i gynrychioli'r elfen ddiwylliannol, Capel yr Undodiaid, Pen-rhiw, a godwyd yn y ddeunawfed ganrif yn Dre-fach Felindre (1953).

Adeiladau gwledig oedd y rhain i gyd. Yn wir, gellir dweud mai adeiladau gwledig oedd yr 19 adeilad cyntaf a ailgodwyd yn yr Amgueddfa. Yr unig adeilad a ddaeth o dref oedd y talwrn ymladd ceiliogod o dref farchnad Dinbych ond roedd hwnnw'n cynrychioli gweithgaredd hamdden a oedd yr un mor boblogaidd yng nghefn gwlad ag yr oedd mewn pentrefi a threfi. Roedd hyd yn oed y tolldy, o Benparcau ar gyrion deheuol Aberystwyth, yn nodweddiadol o ugeiniau o adeiladau tebyg, bron bob un ohonynt wedi'u codi yng nghefn gwlad.

Am dros dri degawd, dyma oedd y patrwm a ddilynwyd wrth ddewis adeiladau. Roedd yr holl adeiladau a ddewiswyd, ac eithrio'r tai, yn adeiladau amaethyddol, yn weithdai crefftwyr neu'n ddiwydiannau bychain gwledig yn hytrach na rhai trefol. Mae'n siŵr mai'r tanerdy oedd y peth agosaf at safle diwydiannol ond, hyd yn oed yma, roedd y peiriant malu rhisgl yn cael ei yrru gan olwyn ddŵr ac, er ei fod yn dod o dref farchnad fechan Rhaeadr Gwy, roedd y safle y tu allan i'r dref ei hunan.

Ar ôl 1980, cafwyd newid bwriadol a sylfaenol yn y pwyslais a dechreuwyd dewis adeiladau oedd yn rhoi darlun mwy crwn o fywyd Cymru. Er enghraifft, ychwanegwyd ysgol (1981), becws (1982), gweithdy'r teiliwr (1988) a swyddfa bost (1992). Roedd adeiladau fel y rhain, rhai'n fwy a rhai'n llai, i'w cael yn y rhan fwyaf o gymunedau — gwledig, trefol neu ddiwydiannol.

Cafwyd datblygiad arloesol ym 1987 pan ailgodwyd rhes o chwe thŷ o Ryd-y-car, Merthyr Tudful. Er bod y rhain yn ein hatgoffa o'r traddodiad gwerinol, maent eto yn ddiwydiannol, os nad yn drefol, o ran eu harddull, eu natur a'u cymeriad. Dilynwyd y rhain ym 1991 gan Siop Gwalia a godwyd i wasanaethu cymdeithas lofaol yng Nghwm Ogwr. Pan ychwanegwyd Sefydliad y Gweithwyr Oakdale (1995), cafwyd golwg fwy cyflawn ar agwedd arall ar fywyd y cymoedd, sef y defnydd o gyfleusterau addysg a hamdden.

Felly, er 1980, bu'r pwyslais ar ddehongliad mwy realistig, cynrychioliadol a pherthnasol o fywyd pobl ym mhob rhan o Gymru yn y gorffennol ac yn awr.