Trosolwg

Troethfa

[delwedd: wrinal]

Wrinal o haearn bwrw o Llanwrtyd Wells, Powys. Rhoddwyd i’r Amgueddfa gan Gyngor Bwrdeistref Brycheiniog ym 1978. Cafodd ei wneud gan Walter MacFarlane Ltd o Glasgow a oedd ymhlith y goreuon yn y byd am greu gwaith haearn bwrw at ddibenion pensaernïol. Roeddent yn gwneud pyst lampiau, relings, bandstandiau, ferandas, ffynhonnau yfed ac adeiladau parod yn ogystal ag wrinalau.

[delwedd: Unrial Map Plot]

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Llanwrtyd Wells, Powys (Sir Frycheiniog)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: diwedd 19eg ganrif
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1978
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 2010
  • 43fed adeilad a agorwyd i'r cyhoedd yn yr Amgueddfa
  • Gwybodaeth ymweld