Trosolwg

Y Tolldy
Tolldy Gât ddeheuol Aberystwyth.

Tolldy

Codwyd y tolldy hwn ar gyrion deheuol Aberystwyth ym 1771 pan oedd boneddigion lleol yn dechrau adeiladu ffyrdd preifat neu ffyrdd tyrpeg a chodi tollau am eu defnyddio. Codwyd yr adeilad a'i gatiau am £40, bron bedair gwaith cost codi bwthyn clom to gwellt fel Nant Wallter [rhif 34]. Fe'i codwyd o lechfaen lleol a'i doi â llechi o Sir Benfro. David Jones o Ddihewyd oedd ceidwad cyntaf y tollborth. Cafodd ei benodi ym mis Tachwedd 1771 a dechreuwyd codi tollau ar 23 Mawrth 1772.

Un ystafell sydd yn yr adeilad ac roedd un pen yn cael ei ddefnyddio i gasglu tollau. Roedd lle tân ym mhen arall yr ystafell yn ei gwresogi ac yn cael ei ddefnyddio i goginio. Dodrefnwyd y tŷ yn null 1843, sef cyfnod Terfysgoedd Beca pan ddinistriwyd llawer o dollbyrth. Roedd pobl mewn ardaloedd gwledig yn gwarafun gorfod talu i deithio ar hyd y ffyrdd a chafwyd terfysgoedd yn erbyn y tollbyrth. O ganlyniad i hynny, diddymwyd y rhan fwyaf o'r cwmnïau tyrpeg ym 1864 a daeth y cynghorau sir yn gyfrifol am adeiladu a chynnal y ffyrdd. Symudwyd yr adeilad i'r Amgueddfa ym 1962.

Tollhouse Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Penparcau, Aberystwyth, Ceredigion (Cardiganshire)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1771
  • Dodrefnwyd: 1843
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1962
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1968
  • Y degfed adeilad a agorwyd i'r cyhoedd yn yr Amgueddfa
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld