Rydych chi yn:  >   >   >   > 
English
Blaenorol:
Ffermdy Kennixton
Nesaf:
Fferm Llwyn yr eos

Trosolwg

Golwg o du allan Llainfadyn
Golwg ar du allan Llainfadyn yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan

Bwthyn Llainfadyn

Cafodd y bwthyn hwn o Eryri ei godi ym 1762, yn ôl y dyddiad a gerfiwyd ar ochr dde linter y lle tân. Mae'n adeilad solet o gerrig mawr o'r mynydd ac mae pâr o gyplau derw cadarn yn cynnal y to o lechi bychan lleol. Yn wahanol i ffermdai, roedd bythynnod fel hyn yn gartrefi i bobl nad oedd ganddynt ddigon o dir i roi bywoliaeth iddynt. Fel rheol, gweision ffermydd neu grefftwyr oeddynt neu, fel yn achos y bwthyn hwn, chwarelwyr a'u teuluoedd.

Byddai'r trigolion yn gosod dodrefn i rannu'r bwthyn i wneud ystafelloedd gwely a thaflod ar gyfer y plant - patrwm a oedd yn gyffredin yng ngorllewin Cymru. Roedd y chwarelwyr yn gwneud gwaith peryglus ond yn cael eu talu'n eithaf da, fel y dengys ansawdd y dodrefn o tua 1870. Mae'r ddresel dderw, a wnaed yn Sir Gaernarfon yn hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, yn eithaf nodweddiadol o ddreselydd y gogledd, gyda'r rhan isaf wedi cau a rhesel estyllog. Dodrefnyn arall oedd yn gyffredin yng ngogledd-orllewin Cymru oedd y cwpwrdd bara caws. Daw'r dodrefnyn hwn, a grëwyd tua diwedd y 18fed ganrif, yn wreiddiol o Lainfadyn. Roedd y rhan fwyaf o deuluoedd o'r math yma yn cadw moch, buwch neu ddwy ac ieir ac felly roedd ganddynt feudy a thwlc gerllaw gan amlaf. Trwy ychwanegu beudy o'r Waunfawr (gweler 40), llwyddwyd i greu darlun cywirach o dyddyn traddodiadol. Cafodd y bwthyn ei dynnu i lawr a'i symud ym 1956.

Llanfadain Map Plot

Ffeithiau Adeilad: