Nid oes eitemau yn eich basged Desg dalu

Argraffu yn ôl y Galw

Gallwch chithau hefyd fod yn berchen ar brint neu gynfas prydferth wedi’i atgynhyrchu o’ch hoff waith o’r casgliad Cenedlaethol, a gallwn ei ddosbarthu i’ch cartref

Mae’r gweithiau a welir yma yn rhai o uchafbwyntiau ein casgliad helaeth. Methu gweld eich hoff ddelwedd? Cysylltwch â ni ac fe wnawn ni’n gorau i chwilio drosoch chi (kay.kays@amgueddfacymru.ac.uk).

Sylwer: os ydych yn archebu cynfas bydd yn cael ei dosbarthu wedi’i rolio ac nid wedi’i ymestyn dros ffrâm. Dyfynnir meintiau’r papur ac nid maint y ddelwedd.

Cynfasau ar gael heb ffrâm wedi’u rholio, neu wedi’u hymestyn ar ffrâm bren (lled 35mm, dyfnder 38mm) ag ymylon beflog.

Amcan amser dosbarthu archebion Argraffu yn ôl y Galw yw 7-10 diwrnod gwaith i’r DU a 14 diwrnod gwaith dramor.