Rydych chi yn:  >   > 
English

Siop Amgueddfa Cymru

Nid oes eitemau yn eich basged

Catalog Artes Mundi 5

Pris: £9
Argaeledd: Mewn stoc

Mae Artes Mundi, sioe celf weledol gyfoes fwyaf Cymru yn ôl ar gyfer ei 5ed arddangosfa, ac mae ganddi gartref newydd – yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol aruthrol ar lawr uchaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys gwaith saith artist cyfoes arloesol y mae eu cyfraniad rhyngwladol yn dod yn fwyfwy amlwg - dyma gyfle prin i gynulleidfaoedd y DU gael trosolwg o’r sîn gelf ryngwladol.

Mae gan waith yr artistiaid ar y rhestr fer, a ddewiswyd o blith 750 a mwy o enwebiadau o bob cwr o’r byd, un thema sy’n eu cysylltu sef archwilio themâu cymdeithasol, gan adrodd straeon profiadau byw a chynnig sylwadau ar y byd o’n cwmpas.

Caiff y gwaith ei fynegi trwy amryw gyfryngau gan gynnwys paentio, cerflunwaith, gosodiadau, ffotograffiaeth, ffilm a pherfformiad.

Mae'r llyfr hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

* Please select a date and time.
Categorïau: Llyfrau, Celf, Arddangosfeydd