Eich basged

Is-gyfanswm: £0

[delwedd: Llwyau caru Cymraeg ]

Llwyau caru Cymraeg - 4

Pris: £46
Argaeledd: Mewn stoc

Yn draddodiadol, byddai cariadon yn cyfnewid Llwyau Caru wedi’u cerfio o bren fel arwydd o’u cariad. Gellid cynnwys nifer o symbolau personol i wneud y Llwy Garu yn un arbennig hefyd, gyda chlychau yn dynodi priodas, cadwyn yn dynodi undod neu ddraig hyd yn oed i ddynodi cariad at Gymru. Mae’r Llwy Garu Gymreig gynharaf y gwyddom amdani i’w gweld yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ac yn dyddio o 1667. Mae nifer o bobl yn casglu Llwyau Caru heddiw ac mae iddynt yr un arwyddocâd ag a fu 300 mlynedd yn ôl.

Wedi’i gerfio â llaw. Pren tywyll.

17.5cm x 9cm

* Please select a date and time.