Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion

Ysgol Gynradd Eutun, Wrecsam

Gwyddoniaeth amgylcheddol ar dir eich ysgol

Professor Plant

Gadewch y dosbarth ac ymuno â'r miloedd o wyddonwyr ysgol sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth gyffrous hon! Tyfwch eich bylbiau gwanwyn eich hun i helpu Athro'r Ardd i ddeall sut mae newid yn ein tymhorau yn effeithio blodau'r gwanwyn.

Ers Hydref 2005 mae gwyddonwyr ysgol o bob cwr o Gymru wedi bod yn cadw cofnodion tywydd ac yn nodi pryd mae eu planhigion yn blodeuo fel rhan o astudiaeth hirdymor sy'n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.

Rydyn ni’n dal i gydweithio ag Ymddiriedolaeth Edina sy’n noddi’r potiau a’r bylbiau ac yn ehangu cyrhaeddiad y project! Eleni, bydd 150 o ysgolion yn cymryd rhan – 72 yng Nghymru, 21 yn yr Alban a 57 yn Lloegr.

Project Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Sut i ymgeisio

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.