Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Llogi Cyfleusterau

[delwedd: Castell Sain Fagan]

Castell Sain Fagan

[delwedd: Sefydliad y Gweithwyr Oakdale]

Sefydliad y Gweithwyr Oakdale

[delwedd: Gerddi Sain Fagan]

Gerddi Sain Fagan

Gall Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru gynnig sawl lleoliad unigryw heb eu hail ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a phreifat mawr a bach.

Mae'n gartref i dros ddeugain o adeiladau hanesyddol a symudwyd garreg wrth garreg o wahanol rannau o Gymru ac yn dangos i ni sut roedd y Cymry'n byw ac yn gweithio drwy'r oesoedd.

Saif yr amgueddfa mewn 100 erw o dir gwledig prydferth ar gyrion Caerdydd ar dir Castell godidog Sain Ffagan, maenordy o ddiwedd yr 16eg ganrif oedd yn rhodd gan Iarll Plymouth.

Am wybodaeth am seremonïau priodas a derbyniadau, partneriaethau sifil, ffotograffiaeth a llawer mwy, ewch i adran Priodasau.

Nifer Cyfyngedig: Pecynnau Priodas Pabell - Gwanwyn/Haf 2014

Mae sawl lleoliad ar gael ar gyfer amryw ddigwyddiadau o dderbyniadau diodydd, ciniawau mawreddog a seremonÎau gwobrwyo i ddiwrnodau hyfforddi, seminarau a chyfarfodydd.

Gweler yr adran Digwyddiadau Corfforaethol a Priefat am fwy o wybodaeth.

Am wybodaeth bellach lawrlwythwch ein llyfryn a'n bwydlen isod, neu gwnewch apwyntiad i ymweld â'r lleoliad gyda aelod o'n tîm Priodasau neu Llogi Cyfleusterau.

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Sain Ffagan
Caerdydd
CF5 6XB

Ffôn: (029) 2057 3500
Ffacs: (029) 2057 3490

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.