Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16

Creu Hanes

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Sut mae Sain Ffagan yn newid i ddiwallu anghenion ein hymwelwyr.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Addysg Oedolion, Y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16
Am ddimSesiwn beilot

Arddangosiadau crefft

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Gall ysgolion hefyd archebu sesiwn lle bydd y gof, y melinydd, y gwehyddwr neu’r clocsiwr yn arddangos eu crefftau traddodiadol, yn dibynnu ar ddiwrnod eich ymweliad.

Hyd: 30 munud
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16, Athrawon
Am ddimYn yr ysgol

Cynllun Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn arwain prosiect i gynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel rhan o’r prosiect hwn rydyn ni'n defnyddio deunyddiau o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu digidol ar gyfer Hwb.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.