Arfau ac Arfwisgoedd!

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Dewch i gael blas ar fywyd milwr yn y fyddin Rufeinig. Yn y sesiwn hon yn ein hailgread o Ystafell Farics, bydd hwylusydd mewn gwisg yn dangos yr arfau ac arfwisgoedd y Rhufeiniaid i ymladd y Celtiaid. Caiff disgyblion hefyd wisgo atgynyrchiadau o arfwisg plentyn.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Pecyn Archwilio: yr Amffitheatr a’r Barics

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Mae’r atgynhyrchiad hwn o fag ysgol Rhufeinig yn cynnwys cyfarwyddiadau, gwybodaeth a gwrthrychau er mwyn helpu eich grŵ i ddeall sut oedd y Rhufeiniaid yn defnyddio’r amffitheatr a’r barics. Mae’r gwrthrychau’n cynnwys ceiniogau Rhufeinig, caltrops a byngau ar brennau.

Nid oes angen blaendal ond mae'n rhaid i'r bag gael ei lofnodi am gan arweiniad y grŵp

Gallwch lawrlwytho y cyfarwyddiadau cyn eich ymweliad. 

Hyd: 1 awr

Cerdded gyda’r Rhufeiniaid

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Blas ar yr amffitheatr ar barics gyda’ch tywysydd Rhufeinig eich hun. Dysgwch am fywyd yn y gaer bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

 

Dyddiadau: 6-10 Mehefin 2016
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £100 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Am ddimYn yr ysgol

Cynllun Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn arwain prosiect i gynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel rhan o’r prosiect hwn rydyn ni'n defnyddio deunyddiau o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu digidol ar gyfer Hwb.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.