Mae ein gwefan yn newid. Rydym ni’n treialu tudalennau newydd: beth ydych chi’n feddwl amdanynt? Mwy
Dewislen

Cyfnod Allweddol 2

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Addysg Oedolion, Cymunedau, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16

Pecyn Archwilio: yr Amffitheatr a’r Barics

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

 

Mae’r atgynhyrchiad hwn o fag ysgol Rhufeinig yn cynnwys cyfarwyddiadau, gwybodaeth a gwrthrychau er mwyn helpu eich grŵ i ddeall sut oedd y Rhufeiniaid yn defnyddio’r amffitheatr a’r barics. Mae’r gwrthrychau’n cynnwys ceiniogau Rhufeinig, caltrops a byngau ar brennau.

Gofynnwch yn y Dderbynfa wrth gyrraedd. Rhaid rhoi ernes os am fenthyg y bag (cerdyn credyd/siec/£30 o arian parod).

 

Hyd: 1 awr
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16

Cerdded gyda’r Rhufeiniaid

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Blas ar yr Amffitheatr, y Barics a’r Baddonau gyda’ch tywysydd Rhufeinig eich hun. Dysgwch am fywyd yn y gaer bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

 

Dyddiadau: 8-12 Mehefin 2015
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £47 am hyd at 15 disgybl, £77 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cyfnod Allweddol 2

Grammaticus – ystafell ddosbarth Rufeinig

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Sesiwn chwarwe rôl sy’n rhoi cyfle i chi ddysgu sut oedd y Rhufeiniaid yn addysgu eu plant. Trwy gyfrwng iaith, rhifedd a llythrennedd, bydd disgyblion yn cael cyfle i ddysgu am y gymdeithas Rufeinig dan lygaid barcud athro Rhufeinig. Dan arweiniad hwylusydd mewn gwisg.

Hefyd bydd cyfle i wisgo atgynhyrchiad o arfwisg plentyn a dysgu am fywyd milwr Rhufeinig yn ein ailgread o ystafell farics. Mae angen i'r rhan hon cael ei arwain gan yr athro neu'r arweinydd grŵp - a fydd yn derbyn cyfarwyddiadau byr gan yr hwylusydd ar y diwrnod.

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Maw 16-27 a Meh 15-26 2015.
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £27 am hyd at 15 disgybl, £42 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cyfnod Allweddol 2

Medicus – meddyginiaeth Rufeinig

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Meddyginiaethau llysieuol, trychu coes neu fraich i ffwrdd, pwythau blew ceffyl – dyna rai o driniaethau’r meddyg Rhufeinig. Dewch i ddysgu mwy am feddygaeth Rufeinig a chyfraniad y duwiau at wella cleifion, mewn sesiwn chwarae rôl. Dan arweiniad hwylusydd mewn gwisg.

Hefyd bydd cyfle i wisgo atgynhyrchiad o arfwisg plentyn a dysgu am fywyd milwr Rhufeinig yn ein ailgread o ystafell farics. Mae angen i'r rhan hon cael ei arwain gan yr athro neu'r arweinydd grŵp - a fydd yn derbyn cyfarwyddiadau byr gan yr hwylusydd ar y diwrnod.

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Chwe 2 - Maw 13, Mai 11 - Meh 5 201
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £27 am hyd at 15 disgybl, £42 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cyfnod Allweddol 2

Meistri a chaethweision

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymennydd paun, pathewod wedi’u llenwi ac wystrys –dyna rai o’r seigiau sydd ar y fwydlen mewn gwledd Rufeinig. Bydd disgyblion yn chwarae rôl y meistr cyfoethog neu’r caethwas tlawd, ac yn cael blas ar ddau begwn eithaf cymdeithas. Dan arweiniad hwylusydd mewn gwisg.

Hefyd bydd cyfle i wisgo atgynhyrchiad o arfwisg plentyn a dysgu am fywyd milwr Rhufeinig yn ein ailgread o ystafell farics. Mae angen i'r rhan hon cael ei arwain gan yr athro neu'r arweinydd grŵp - a fydd yn derbyn cyfarwyddiadau byr gan yr hwylusydd ar y diwrnod.

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Ion 5-30, Ebr 13-Mai 8 and Meh 29 - Gorff 17 2015.
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £27 am hyd at 15 disgybl, £42 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cyfnod Allweddol 2

Saturnalia: Nadolig Rhufeinig?

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Teithiwch yn ôl mewn amser i ymweld â Rhufeiniwr sy’n paratoi ar gyfer gŵl ganol gaeaf Saturnalia. Dysgwch am yr ŵl Rufeinig a rhannu traddodiadau canol gaeaf heddiw.

Hefyd bydd cyfle i wisgo atgynhyrchiad o arfwisg plentyn a dysgu am fywyd milwr Rhufeinig yn ein ailgread o ystafell farics. Mae angen i'r rhan hon cael ei arwain gan yr athro neu'r arweinydd grŵp - a fydd yn derbyn cyfarwyddiadau byr gan yr hwylusydd ar y diwrnod.

 

 

 

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Rhagfyr 1-11
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £27 am hyd at 15 disgybl, £42 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Teuluoedd, Y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2
Am ddimDan arweiniad athro

Milwr Rhufeinig

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Rhowch yr arfau a'r dillad cywir i'r milwyr gan ddefnyddio'r modelau yn yr oriel i'ch helpu.

Hyd: 30 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Teuluoedd, Y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2
Am ddimDan arweiniad athro

Taflenni lliwio

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Astudiwch mosaigau ac anifeiliaid Rhufeinig i greu dyluniadau eich hun.

Hyd: 30 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.