Arddangosfeydd ac Arteffactau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

[delwedd: Arddangosfa]

Mae ein casgliad cyfareddol o arteffactau’n adrodd sut yr oedd y Rhufeiniaid yn byw, ymladd, addoli a marw. Dysgwch beth a wnaeth y Rhufeiniaid yn rym aruthrol a sut fyddai bywyd wedi bod yn wahanol iawn hebddynt.

Craffwch ar y darn ysgrifenedig hynaf yng Nghymru, wedi’i arysgrifio mewn inc ar dabled pren. Mae’r arteffact hwn o’r ganrif gyntaf, a ddarganfuwyd mewn ffynnon ar safle’r Amgueddfa, yn adrodd hanes gardiau a anfonwyd i gasglu’r cyflogau a minteion casglu pren adeiladu.

Mae gan yr Amgueddfa hon un o’r casgliadau mwyaf o emfeini a ganfuwyd yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Darganfuwyd y gemau cerfiedig cain hyn o dan olion baddondai’r gaer. Fe’u collwyd gan ymdrochwyr rhwng 80 a 230 OC.

[delwedd: Arddangosfa]

Dewch i’r oriel i edmygu prydferthwch y gemau a fu’n gorwedd o’r golwg mewn draen am 1,700 o flynyddoedd. Mae pob un yn waith crefftwyr medrus, a ddefnyddiwyd gan eu perchnogion amser maith yn ôl fel inseiliau, swynoglau, a thalismonau.

Rhowch gipolwg ar gynnwys rhyfeddol Arch Carreg Caerfaddon i ganfod esgyrn dyn o’r 2il/ddechrau’r 3ydd ganrif, a gladdwyd gyda photel gwydr o eli persawrus a chwpan siâl.

Yn ogystal â nifer o uchafbwyntiau unigol, mae yna ddigon o grochenwaith Rhufeinig dilys a thaclau eraill ar ddangos yn yr oriel, yn cynnwys padell ffrio haearn â dolen blygedig i ffitio mewn pac milwr. Defnyddir atgynhyrchiad o’r badell yn aml mewn archeoleg arbrofol wrth goginio rysetiau Rhufeinig traddodiadol yn yr Amgueddfa.

Mae’r ail-gread o’r Barics yn dangos sut y gallai’r tu mewn i flociau barics y gaer fod wedi edrych (gweler Adfeilion Rhufeinig), gan roi syniad o amodau byw'r milwyr Rhufeinig.

Ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol (galwch ymlaen am dyddiadau penodol), gall plant gamu’n ôl mewn amser mewn ystafell barics maint iawn, rhoi cynnig ar wisgo replica o arfwisg a phrofi bywyd milwr Rhufeinig!

Gwybodaeth

Caerllion
Ar agor 10am–5pm Llun–Sadwrn, 2pm–5pm Sul.

Ffôn:
(029) 2057 3550

Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.