Rydych chi yn:  >   > 
English

Uchafbwyntiau Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Gweithredu Diwydiannol: Ar Agor fel Arfer

Ar ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Awst, bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar agor fel arfer. Bydd Ymerodraeth: Sioe Rufeinig yn parhau yn ôl y trefniadau. Am ragor o fanylion ac i archebu tocynnau, ewch i hafan y digwyddiad.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Yr ardd
Arddangosfa

Camwch nôl mewn amser yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac archwiliwch fywyd yn un o allorsafoedd pellennig yr Ymerodraeth Rufeinig.

Cymru oedd ei cadarnle pellaf yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd.

Adeiladwyd yr amgueddfa ym 1850, ac ym 1930 daeth yn rhan o Amgueddfa Cymru. Heddiw yn Caerllion byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni. Gallwch weld Arddangosfeydd ac Arteffactau yn ddangos sut roeddent yn byw, brwydro, addoli a marw.

Mwynhewch olygfeydd, synau ac arogleuon ein Gardd Rufeinig brydferth. Yn ystod gwyliau'r ysgol gall plant wisgo gwisg Rhufeinig a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau. Sut deimlad oedd bod yn filwr Rhufeinig? Rydym yn falch iawn o'n cyfleusterau addysgiadol ac ardal hwyl i'r teulu arobryn.

Roedd Caerllion yn un o dair Caer barhaol a godwyd yn y Brydain Rhufeinig. Saif yr Amgueddfa oddi mewn i olion y gaer. Mae'r Adfeilion yn cynnwys yr Amffitheatr mwyaf cyflawn ym Mhrydain a'r unig olion o Farics Lleng Rufeinig ar ddangos unrhyw le yn Ewrop.

Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymry yn ymchwilio, cadw ac arddangos hanner miliwn o wrthrychau o geiri Rhufeinig Caerllion (Isca), Brynbuga (Burrium) a'r cyffiniau. Mae'n gasgliad o bwys rhyngwladol sy'n cynnig tystiolaeth am fywyd mewn dau safle milwrol Rhufeinig, yn ogystal â bywyd yn yr aneddiadau sifil a dyfodd o'u hamgylch.

Mae Caerllion yn agos at Gasnewydd, o fewn cyrraedd hwylus i Gaerdydd, Bryste a Phont Hafren.

Gweld ein Digwyddiadau yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru