Rydych chi yn:  >   >   > 
English

Adfeilion Rufeinig Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Adfeilion

Roedd Caerllïon , neu Isca i’r Rhufeiniaid, yn un o dair Caer barhaol a godwyd ym Mhrydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

Roedd y gaer ei hun ar ffurf cerdyn chwarae, ac yn defnyddio 50 erw o dir sydd bellach yn safle i’r Amgueddfa.

Ychydig funudau o gerdded o’r orielau fe welwch yr Amffitheatr mwyaf cyflawn ym Mhrydain, Baddondai prydferth y Gaer, a’r unig olion o Farics Lleng Rufeinig ar ddangos unrhyw le yn Ewrop.

Roedd cynllunio trefnus a manwl yn hanfodol wrth adeiladu barics ar gyfer dros 5,000 o bobl. Mae bloc y barics yn adeiladau hir, cul siâp-L. Gellir gweld deuddeng pâr o ystafelloedd yng Nghaerllion, a ferandas o’u blaen, ac ystafelloedd mwy ar un pen ar gyfer y Canwriad.

Roedd baddondai’r gaer yn arbennig o uchelgeisiol gyda’u pensaernïaeth anarferol a’u bwâu anferth. O dan gysgod modern, gallwch weld ail-greadau, model manwl o’r adeilad a gwrando ar sylwebaethau llafar.

Mae’r cloddiadau trawiadol yn cynnwys pwll nofio awyr agored (natatio) a swît o faddondai oer (frigidarium), sy’n enghraifft o gyfran yn unig o’r strwythur anferth gwreiddiol.

Adfeilion

Cychwynnwyd adeiladu’r amffitheatr yn 90 OC y tu allan i furiau’r gaer, ac mae’n parhau i fod yn olygfa drawiadol hyd heddiw.

Byddai eisteddle pren wedi eistedd tua 6,000 o bobl, ac, wrth sefyll yn ei ganol, gallwch ddychmygu’r golygfeydd a synau’r torfeydd yn bloeddio. Gallai fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol gemau, gwyliau milwrol a chrefyddol, neu fel maes ymarfer neu barêd.

Yr amffitheatr yw canolbwynt ail-gread blynyddol yr Amgueddfa yn ystod misoedd yr haf, y Sioe Filwrol ysblenydd.

Rheolir Caer Rufeinig Caerllion ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a CADW, sy’n cyflawni cyfrifoldebau statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwarchod, cadw a hyrwyddo henebion ac adeiladau hanesyddol yng Nghymru.