Amgueddfa Cymru

Bioamrywiaeth Morol

[delwedd: Casgliad Seffalopodau W. Evans Hoyle]

Casgliad Seffalopodau W. Evans Hoyle
Deunydd o'i astudiaethau pwysicaf rhwng 1883 ac 1912 sy'n ffurfio asgwrn cefn casgliad pwysig yr Amgueddfa o seffalopodau.

Mae hanes hir i astudiaeth anifeiliaid morol yn y sefydliad hwn. Er i'r adran Bioamrywiaeth Morol gael ei sefydlu'n ffurfiol yn y 1990au, mae ein casgliadau infertebratau yn dyddio yn ôl i ddyddiau cynharaf yr Amgueddfa ym Mharc Cathays. Roedd y Cyfarwyddwr cyntaf (1909-1924), W.E. Hoyle, yn arbenigwr byd-eang yn astudiaeth molysgiaid cephalopod (octopws, ystyfflog a môr gyllell). Roedd casgliadau cynnar o greaduriaid heb fod yn folysgiaid yn fach, ac yn ddyledus i gaffaeliadau J.J. Simpson, Ceidwad Sŵoleg (1919-1925). Mae'r casgliadau yn cynnwys Cramenogion morol pwysig o'r Iwerddon a thu hwnt (casgliad W.M. Tattersall) a chynrychiolwyr o infertebratau eraill, gan gynnwys mwydod polychaete, o ymchwiliadau R.D. Purchon oddi ar arfordir de Cymru yn y 1950au.

Parhaodd yr astudiaeth o folysgiaid o gyfnod Hoyle hyd heddiw gyda chaffaeliadau yn cynnwys deunydd morol wedi'i dadogi i L.W. Dillwyn (1778-1855), G.W. Chaster (1863-1910) a R.H.F.Rippon (1816-1917). Rhoddwyd statws gwirioneddol rhyngwladol i'r casgliadau molysgiaid gan gasgliadau J.C. Melvill (1845-1929) a R. le B. Tomlin (1864-1954). Mae casgliad Melvill-Tomlin yn cynnwys dros 1,000,000 o sbesimenau, gan gynnwys tua 5,000 math a chragen rhifoledig.

Gwnaed casgliadau helaeth o infertebratau morol yn y 35-40 blynedd diwethaf gan staff yr Amgueddfa, gan ganolbwyntio'n tacsonomaidd ar fwydod polychaete a molysgiaid dwyfalfog. Mae llawer o'r deunydd hwn wedi ei gasglu fel rhan o'n hymchwiliadau i fywyd gwely'r môr yn Môr Hafren a Môr Iwerddon, yn ogystal â chyfranogaeth mewn archwiliadau a gweithdai rhyngwladol yng Ngogledd y Môr Iwerydd, Môr y Canoldir, Môr India, a Môr De China.

Online Resources: