Amgueddfa Cymru

Arolwg a chloddfa Mynydd Rhiw

Staff: Steve Burrow a Heather Jackson

Yn 1958 a 1959 cloddiodd y diweddar Christopher Houlder nifer o chwareli Neolithig yn Mynydd Rhiw, ar benrhyn Llŷn. Dehonglodd y rhain fel tystiolaeth am ddiwydiant cartref bychan yn darparu bwyelli carreg i gymunedau yng Nghymru a'r Gororau. Yn 2004, ail-ymwelodd yr Amgueddfa gyda'r safle, gan gychwyn rhaglen o arolwg a chloddio daearegol a thopograffaidd ledled y mynydd.

Mae'r canlyniadau, hyd yma, wedi dangos bod y chwareli yn llawer helaethach na'r hyn a sylweddolwyd yn flaenorol, yn cwmpasu rhai cannoedd o fetrau ac yn golygu cloddio hyd at ddyfnder o ddau fetr o leiaf mewn ambell le. Dyddiwyd y gweithgaredd hwn rhwng 3700 - 3000 CC, gyda defnydd diweddarach o'r bryn yn cael ei arddangos yn sgil presenoldeb siarcol yn dyddio i'r Oes Efydd Gynnar a Hwyr, darganfod botwm muchudd, a phresenoldeb carneddau claddu uwchben y chwareli. Yr un mor bwysig, mae'r gwaith wedi dangos nad oedd y chwareli yn canolbwyntio ar rwydweithiau cyfnewid dros bellter mawr, ond yn hytrach yn darparu ffynhonnell o graig o safon uchel ar gyfer cynhyrchu offer carreg a ddefnyddiwyd yn lleol.