Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Safle Mesolithig Cynnar a Chynhanesyddol diweddarach Burry Holms, Gŵyr

Staff: Elizabeth Walker
Microlithau
Microlithau o Burry Holms, Gŵyr. Mae pob microlith a bortreadir yma yn llai na 50mm (2 modfedd) o hyd. Defnyddiwyd microlithau ledled Ewrop yn ystod y cyfnod Mesolithig. Mae'r cyfnod hwn yn dyddio o ddiwedd Oes yr Iâ (tua 9200CC) hyd nes y cafodd arferion amaethyddol eu cyflwyno i Gymru (4000CC).

Cofnodwyd safle Mesolithig yn Burry Holms am y tro cyntaf yn 1923 gan H.E. David a T.C. Lethbridge, a ymgymerodd ag ymchwiliad ar raddfa fechan o ardal lle'r oedd fflintiau yn erydu ar ochr orllewinol ynys Burry Holms. Arweiniodd astudiaeth o'r canfyddiadau at brosiect ymchwil maes yn 1998–2001 i geisio cadarnhau a oedd unrhyw waddodion Mesolithig heb eu cyffwrdd ar yr ynys ac, os felly, a fyddai'n bosibl cael tystiolaeth bellach o ddefnydd yr ardal, dyddiad y defnydd a'r amodau amgylcheddol cyfoes yn y maes.

Dangosodd ymchwil archaeolegol nad oedd yr asgwrn, paill nac olion organig eraill wedi cael eu cadw, ac eithrio'r plisgyn cnau a siarcol cadarnaf. Fodd bynnag, canfuwyd nifer o offer carreg a naddion o gyfres o waddolion, gan gynnwys haenen Fesolithig gynnar gyda chasgliad o ficrolithau, microdenticwlatau, crafellau, craidd llafn, llafnau a naddion. Datgelodd cloddfa o'r tywod uchaf a chwythwyd gan y gwynt, sydd dros y gwaddolion Mesolithig, yr olwg gyntaf ar weithgaredd Cynhanesyddol diweddarach ar y rhan hon o'r ynys, tŷ crwn Cynhanesyddol diweddarach.

Argymhellir gwneud dadansoddiad llawn o'r canfyddiadau a'r samplau a gafwyd yn ystod y gloddfa, gan ddefnyddio mewnbwn arbenigol o amrywiaeth o sefydliadau. Bydd y gwaith hwn yn arwain at gyhoeddiad llawn o'r casgliadau arteffactau cyfredol a newydd, yn ogystal â dadansoddiad ac astudiaeth o'r archeoleg diweddarach.