Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Ail-gadw bowlen Caergwrle

Staff:Mary Davis
tharianau crynion, rhwyfau a thonnau
Mae'r bowlen yn cynrychioli cwch ar y mör gyda tharianau crynion, rhwyfau a thonnau wedi'u cynnwys yn y cynllun.

Mae bowlen Caergwrle yn wrthrych addunedol unigryw, yn dyddio i ganol yr Oes Efydd, ac wedi'i gynhyrchu yn wreiddiol o siâl, tin ac aur. Meddylir ei fod yn cynrychioli cwch, gyda'i addurn aur yn arwydd o dariannau, rhwyfau a thonnau. Canfuwyd y bowlen doredig anghyflawn yn 1823 gan weithiwr a oedd yn cloddio ffos mewn cae o dan Gastell Caergwrle, yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei gyfrannu i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1912, a'i anfon i Lundain i'w adfer gan staff yr Amgueddfa Brydeinig, lle cafodd ei ail greu o gŵyr yn bennaf, gyda gwahanol ludyddion i ail gysylltu'r addurn. Ers hynny, er bod yr adnewyddiad hwn wedi goroesi mewn nifer o ffyrdd, bu problemau cynyddol gyda'i sefydlogrwydd; roedd yr addurn ffoil aur wedi rhwygo a phlygu, ac weithiau yn dod yn gwbl rydd o'r cwyr; roedd gor-osod y cwyr hefyd wedi cuddio rhai manylion pwysig.

Yn ddiweddar mae'r bowlen wedi cael ei ail-drin i'w arddangos yn yr arddangosfa archeoleg newydd 'Gwreiddiau: chwilio am Gymru gynnar' yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Tynnwyd yr hen atgyweiriad lle bo'n bosibl, ac ail archwiliwyd technoleg hynafol a thechnegau llunio gwreiddiol: er enghraifft lapiwyd ffoil aur o amgylch tin a'i osod mewn cilfachau wedi'u torri i'r siâl. Defnyddiwyd SEM, FTIR a XRD i adnabod deunyddiau modern a hynafol. Mae'r bowlen bellach wedi'i hail greu a'i hadfer gan ddefnyddio deunyddiau modern; cadwyd siâp y llestr cyfan er mwyn cynorthwyo gyda'r dehongli a chadw golwg cyffredinol y gwrthrych.

Powlen Caergwrle
Mae symbolaeth y cwch yn ein hatgoffa ni o bwysigrwydd cysylltiadau masnach pellennig dros y môr yn ystod yr Oes Efydd Ewropeaidd.