Adnabod Pobl Cymru yn y Canol Oesoedd cynnar

Staff: Mark Redknap [gyda Dr Alice Roberts (Prifysgol Bryste)]

Amcangyfrifir bod 61,000 o olion dynol dan ofal 150 amgueddfa yn Lloegr, ond mae'r olion dynol dan ein gofal ni yn ganran fach (ond sylweddol - dros 4,000 cofnod CMS) o'n casgliadau cyffredinol. Datgelodd dadansoddiad diweddar gan Dr Louise Loe (Prifysgol Bournemouth) o fwy na 800 claddedigaeth o Landochau, ddata pwysig am broffil demograffig ac iechyd y boblogaeth ganoloesol gynnar yn ne ddwyrain Cymru.

Mae'r gwaith hwn yn ceisio sefydlu cyd-destun hanesyddol a dyddio clir ar gyfer deunyddiau cymharol o ardaloedd eraill yng Nghymru. Mae Accelerator Mass Spectrometry (AMS) eisoes wedi darparu dyddiadau newydd, sydd wedi caniatáu i nifer o feddrodau i gael eu hail asesu. Bellach gwyddom fod dau benglog o Dal-y-bont ger y Trallwng, yn honedig o Frwydr Tal-y-bont (OC 893), yn ôl-ganol oesol. Yn fwyaf arwyddocaol, cadarnhawyd bod beddau a ganfuwyd yn ystod cloddfeydd 1888 a 1938-48 yn fila Rufeinig Cae'r Mead, Llanilltud Fawr, yn rhan o fynwent ganoloesol gynnar uwch adfeilion y fila (tua OC 640-70 a tua OC 790-990). Mae'r canlyniadau hyn wedi agor trywydd newydd o ymchwil o ran hanes dyddiad yr olion dynol hyn ac arwyddocâd eu ysgerbydeg. Mae data ar olion dynol o grannog Llan-gors, Powys, a Llanbedrgoch, Sir Fôn, yn cael eu hintegreiddio i'r rhaglen, er y bydd y cyhoeddiad cyntaf yn canolbwyntio ar ddata Tal-y-bont, Llanilltud Fawr a Benllech.