Rydych chi yn:  >   >   >   >   > 
English

Caerllion - Caer yr Ail Leng Awgwstaidd

Staff: Richard J Brewer [gyda Dr Andrew Gardner (Coleg Prifysgol Llundain)]
Cynllun caer Rufeinig Caerllion.
Cynllun caer Rufeinig Caerllion.

Yn 74/75 OC symudwyd yr Ail Leng Awgwstaidd ymlaen i Gaerllion - Isca - yn ystod y cyrchoedd i oresgyn y Silures. Isca, y gaer fwyaf gorllewinol yn Ymerodraeth Rhufain, fyddai canolfan legio II am dros 200 mlynedd. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd Caerllion o ran y cyfleoedd ar gyfer astudio caer lleng. Bu cloddfeydd yng Nghaerllion a'r cyffiniau ers 1908. Mae'r swm aruthrol o dystiolaeth a gasglwyd o'r cloddfeydd hyn yn caniatáu i'r awduron archwilio'n fanwl ddatblygiad strwythurol a hanes y gaer, y lleng a'r gymuned ehangach.

Mae'n rhaid fod adeiladwaith y gaer gyntaf, yn bennaf o bren, a'r ddarpariaeth ar gyfer ei gwarchodlu, wedi cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd a phoblogaeth leol. Serch hynny, roedd gan yr Ail Leng Awgwstaidd nifer o ymrwymiadau tu hwnt i dde Cymru, ac fe fyddai cyfnodau hir pan fyddai'r gaer yn cael ei chynnal gan warchodlu gwarchodol yn unig. Yn wir, mae hyn yn codi cwestiwn pam fod y lleng wedi cadw ei chanolfan yng Nghaerllion pan mai prif ardal ei hymgyrch oedd gogledd Prydain. Dengys tystiolaeth archeolegol bod niferoedd y lleng yn isel yn barhaus, mor gynnar â diwedd yr ail ganrif, gyda sawl mintai yn gwasanaethu mewn llefydd eraill.

Erbyn diwedd y drydedd ganrif, daeth caer o faint Caerllion yn ddiangen. Serch hynny, er i rai adeiladau gael eu dymchwel yn sicr o ddiwedd yr ail ganrif ymlaen, mae tystiolaeth bod meddiannaeth barhaus hyd at ddiwedd y bedwaredd ganrif. Er bod yr arwyddion yn cyfeirio'n gynyddol at bresenoldeb milwrol parhaus, mae cymaint o dystiolaeth fel na ellir diystyru presenoldeb rhannol neu gyfan gwbl dinasyddion cyffredin. Dyma fydd adroddiad manylaf yr esblygiad strwythurol a chymeriad y gaer ers Isca George Boon, a gyhoeddwyd yn 1972.