Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Tafodiaith Pen-caer, Sir Benfro

Nodweddion cyffredinol

[delwedd: shimle fowr we'da ni]

shimle fowr we'da ni

Geirfa

At ei gilydd, geirfa nodweddiadol ddeheuol a gawn yn y darn hwn, e.e. bant, bord, lan, a mâs. Mwy lleol yw caran 'cariad', lŵeth 'eilwaith' a teie mâs 'adeiladau'r fferm'.

Acen

O ran acen, mae yn y dafodiaith nifer o nodweddion unigryw a gysylltir â'r hen Sir Benfro:

  • Un o nodweddion hynotaf y dafodiaith yw'r deuseiniaid mewn ffurfiau fel dwâd 'dyfod', cewn 'cefn', cwêd 'coed', a wedd 'oedd'. Arbennig i'r cyffiniau hefyd yw'r duedd i beidio a defnyddio y dywyll; yn ei lie ceir:
    • i yn ami, e.e. cifan 'cyfan', finy '(i) fyny', i mochyn 'y mochyn', ac in dwâd 'yn dyfod'.
    • w yn achlysurol, e.e. cwmeryd 'cymryd', cwmwdog 'cymydog'.
  • Colli'r dd yn perfe 'perfedd' a we 'oedd', ond ceir hefyd wedd.

Nodweddion eraill o ddiddordeb, ond sydd yn ymestyn dros gryn diriogaeth yn y De-orllewin yw:

  • e yn y sillaf olaf mewn geiriau fel padell, ac ochre 'ochrau'.
  • Cael ow yn hytrach nag aw mewn geiriau fel mowr a nowr.
  • Nodwedd ar iaith y De-orllewin yw'r e a'r o agored (fel yn pen a llong, ond weithiau'n hwy) a glywir mewn geiriau fel wedyn a mochyn. Yn y De-ddwyrain byddai'r rhain lawer yn 'feinach' ac yn debycach i'r seiniau a glywir yn hen a llo yn y De. Pan ddaw i neu w yn y sillaf olaf y ceir yr e a'r o agored; fe'u clywir, felly, yn eddi 'heddiw', gwedwch 'dywedwch' a fory, ond nid yn cese 'câi' na moron 'mawrion'.

    Yn y De-orllewin, felly, ceir llafariaid agored o flaen i neu w, a llafariaid 'main' fel arall. Ceir cydberthynas rhwng ansawdd llafariaid y goben a'r sillaf olaf yn y Rhos hefyd. Y patrwm yno yw cael llafariaid 'main' pan fo i, u, neu w yn eu dilyn, a llafariaid agored mewn cyd-destunau eraill.

  • Ansefydlogrwydd h: at ei gilydd y mae'n bresennol yn y cyd-destunau disgwyliedig, e.e. halen, hongian, a hwnnw, eithr y mae hefyd wedi ei cholli mewn nifer o enghreifftiau, fel alltu, eddi 'heddiw', ongian, a efyd.

Y recordiad

Elizabeth-John.mp3
Enghraifft o dafodiaith Sir Benfro. Ganed Mrs Elizabeth John o Ben-caer ym 1891. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Wel, chimod oen ni'n lladd i mochyn 'eddi nowr. We'r badell bres 'da ni pyrny a'r tan... cwêd, 'te. Wel wedyn fory we' dyn, we'r bwtshwr in dwâd i dorri'r mochyn finy. Och chi'n gal e'n bishys wedyn, hams a'r palfeshi a'r ochre. A wedyn we' bar mowr o halen 'da ni a och chi'n 'ffod neud yr halen in fân wedyn a we'r... och chi'n roi'r mochyn, ir ham ar ford, gwedwch. Wel och chi'n roi'r saltpetre arno ginta, a tamed o shwgwr brown amell un, a chi'n rwbio fe miwn manna 'sbod e eitha glyb. Wedyn och chi'n rwbio fe â halen wedyn, a wedyn och chi'n troi fe wedyn a roi tam bach o salypetre rownd i'r esgyrn a halen ar hwnnw. Wel wedyn och chi'n drichid arno fory lŵeth a'i au 'alltu fe, a wedd e myn' mlân am dair wthnos fel 'na.

Ble och chi'n gadel nw amser och chi'n neud hyn, 'te?

In twbeie moron.

O beth? O bren?

Ie, pren. A wedyn och chi'n... odd e'n cal 'i godi wedyn. Och chi'n golchi'r halen bant a och chi'n 'ongian e lan. Shimle fowr we' 'da ni, chwel. Chi 'di clŵed sôn am shimle fowr? /Ydw, ydw./ Wel och chi'n hongian nw lan manna wedyn, i nw gal sychu.

le. Am faint on nw'n aros?

O, wedd e'n cwmeryd sbel i sychu, chwmod, yntê fe sbwyle, 'chod, rownd i'r asgwrn.

Shwt och chi'n paratoi i ladd y mochyn? Odd...?

Bwtshwr in dwâd.

le.

A we'r... we'r dŵr 'da ni'n berwi erbyn dese fe. A wedyn wên nw'n dala'r mochyn, a we'r bwtshwr yn 'i waedu fe, a chwedyn ôn nw'n cario'r dŵr berw 'ma mâs a clau'r mochyn... Wedyn on nw'n hongian e lan wedyn, hongian i mochyn lan.

le. Ar beth?

Wel, we' fel haearn 'da nw, chimod, i ddala fe.

Ie.

A wedyn on nw'n roi fe lan wrth ryw bîm in un o'r teie mâs. Wel wedyn 'rail dwyrnod we'r dyn in dwâd i dorri e Imny fel don i'n gweu' 'thdoch chi.

Och chi'n neud rhwbeth â'r pen a'r perfedd?

O, oen. Wel, oen. Buon ni'n golchi'r perfe' 'efyd, ond anan ni'n neud lot a 'wnnw in yng amser i. Naddo. Wel, 'nan ni'n lico fe, chwaith.

Och chi'n neud brawn ne rwbeth â'r pen?

O, oen, yn gweitho'r pen a pethe, gweitho brawn, basneidi o'no. We' hwnnw'n lovely.

Beth och chi'n roi yn y brawn gyda'r...?

Wel, i pen a'r tafod a... we' rhei'n roi'r cluste, on' enan ni'n roi'r cluste. Enan ni am reina. A chwedyn we', chimbod, we'r esgym 'da chi wedyn, och chi'n bwrw rina miwn a'i berwi nw 'sbod y cifan in ifflon. Wel, wedyn wêch chi'n... in tshopo fe lan wedyn a roi'r... wedd e'n seto in i jeli 'ma wedyn.... A wedyn gwedwch, we' amell un in shario. We'r llefydd bach, fel, gwedwch... dim ond tŷ ni nawr. Wel we' Mam, 'rengaran, we' mochyn bach 'da ni 'efyd. Anan ni ry dlawd i gâl mochyn. Wedd 'i'n magu mochyn bach 'i 'unan. /Ie./ Wel wedyn wedd hi'n roi tamed i... i ryw gwmwdog wedyn, fel pam bisen nwy'n lladd mochyn oen ni'n gâl e nôl.

'Na fe. Pa bart o'r mochyn bysech chi'n roi felna?

Iddyn nwy? /Ie./ O, tamed bach o'r stêc a falle cese 'i asgwrn cewn, a'r asenne, chimod, i ribs. O, on nw'n shario nw mâs in neis wedyn, ychwel. Wath on nw'n shŵ'r cal e nôl, ychwel.

Nodiadau

[delwedd: shimle fowr we'da ni]

shimle fowr we'da ni

dwâd 'dyfod'
Trafodir datblygiad y ffurf yn llawn uchod.

torri'r mochyn finy
Sylwer ar y defnydd o finy yn y cyd-destun hwn yn hytrach na Ian; ci. hongian lan. Dylanwad y Saesneg cut up a hang up,sy'n cyfrif am ddefnyddio adferfau yn y cyd-destunau hyn: mae torri a hongian, ar eu pen eu hunain yn ddigonol yn Gymraeg. Ceir y math hwn o ymyrraeth yn gyffredin ar lafar: cymharer gwisgo fyny, cwmpo lawr, a cymysgu lan.

palfeshi 'palfeisi'
Ysgwydd creadur yw palfais.

tam 'darn'
Mwy cyfarwydd yw tamaid, sef tam + -aid, ond digwydd tam hefyd yn gyffredin trwy'r De.

drichid 'edrych'

lŵeth 'eilwaith, drachefn'

twbeie moron
Ffurf luosog ddwbl i twba a luniwyd drwy ychwanegu'r terfyniad Iluosog -e at twbâu, a oedd eisoes yn Iluosog. Ffurfiau tebyg a geir yn y De-orllewin yw esgideie, a teie, y ceir enghraifft ohoni yn y darn hwn.

Cyffredin yw ffurfiau Iluosog dwbl a luniwyd drwy ychwanegu'r terfyniad Saesneg
-s at ffurfiau Cymraeg yn -wyr, e.e. baswyrs a (py)sgotwyrs. Gall ychwanegu terfyniadau yn y modd hwn arwain at gynhyrchu ambell ffurf annisgwyl fel sersys, a geir mewn rhannau o'r Gogledd, ac sydd yn cynnwys dau derfyniad lluosog Saesneg yn ogystal â'r ffurf luosog frdorol, hynny yw, sêr + -s + -ys!

Ffurf luosog hynod ar yr ansoddair mawr yw moron; ceir enghraifft ohoni yn y darn o Flaenpennal.

bant 'i ffwrdd'

shimle 'simnai'

Shimle a shwmle yw ffurfiau arferol y De; yn y Gogledd simdda, simdde neu
shimdda, shimdde a geir amlaf. Amrywiadau pellach yw sifne, shifne yn y Gogledd-ddwyrain a rhannau o'r Canolbarth, a sifne, shifne mewn rhannau o Geredigion.

dese 'deuai'

dala 'dal'
Mae'r [furl hon yn gyffredin trwy'r De; dal a glywir yn y Gogledd. Geiriau sydd yn patrymu'n debyg yw bola y De, a bol y Gogledd. Pâr tebyg yw hela a hel, ond tra bo hela yn gyffredin trwy'r wlad, yn y Gogledd yn unig y ceir hel. (Tueddir i ddefnyddio hel yn y Gogledd lIe y defnyddir casglu neu clasgu yn y De.)

clau 'glanhau'
Ceir sawl amrywiad ar y berfenw hwn yn y tafodieithoedd. Ffurfiau mwyaf cyffredin y De yw clau a cnau tra bo'r Gogledd yn ffafrio llnau.

teie mâs 'adeiladau'r Iferm'
Mae tai mâs yn gyffredin trwy'r De-orllewin hyd at Gwm Nedd; y ffurfiau mwyaf cyffredin yn y gweddill o'r wlad yw bydái yn y Gogledd-orllewin a bildin(g)s yn y Dwyrain. Yn y De-orllewin eithaf yn unig y nodwyd teie mâs. Am y ffurf teie, gweler twbeie uchod.

anan ni 'nid oeddem'
Ceir nifer o enghreifftiau o'r ffurfiau negyddol hyn yn y darn:

nan ni'n lico 'nid oeddem yn hoffi'
enan ni'n roi 'nid oeddem yn rhoi'
anan ni ry dlawd 'nid oeddem yn rhy dlawd'

gweitho 'gweithio'
Yr ystyr yn y cyd-destun hwn yw 'gwneud'; gweitho te, gweitho bara.

brawn
Cofnodwyd cosyn pen, yr enw Cymraeg ar y bwyd hwn, yn y Gogledd (gweler llyfr S Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin), ac yn y De-ddwyrain. Ymddengys, fodd bynnag, fod y term yn ildio i'r gair Saesneg.

rhei 'rhai'

a chwedyn 'ac wedyn' Ffurf lafar gyffredin drwy'r wlad.

rengaran 'yr hen garan; yr hen gariad'
'Druan' neu 'pŵr dab' a ddywedid mewn rhai ardaloedd i gyfleu hyn.

nwy 'hwy'
Ffurf nodweddiadol Penfro ar y rhagenw hwn. O hwy y tarddodd nwy a'r n(h)w mwy cyffredin. A chymryd gwelant hwy yn enghraifft, y cam cyntaf yn y datblygiad oedd:

gwelant wy > gwelan nhwy
Hynny yw, aeth nt h yn n nh mewn modd digon tebyg i'r hyn a geir o dan amodau'r treiglad trwynol mewn cyfuniad fel yn Tywyn > yn Nhywyn. Y ffurf nhwy hon (heb yr h) a welwn ym Mhenfro.

Tuedd wy mewn sillafau diacen yw mynd yn w: gwelir y datblygiad yn glir yn eglws, sef y f[furf lafar gyffredin ar 'eglwys'. Gan fod nhwy — fel y rhagenwau eraill — yn digwydd yn ddiacen yn aml troes yr wy yn y ffurf hon hefyd yn w yn y rhan fwyaf o'r tafodieithoedd. Cafwyd, felly, ail gam yn y datblygiad, sef:

gwelan n(h)wy > gwelan n(h)w

Ni ddigwyddodd yr ail gam yn y De-orllewin eithaf.

cewn 'cefn'

Un o ffurfiau nodweddiadol yr ardal hon.

wath 'oherwydd'

Dyddiad yr erthygl: 6 Mai 2010

0 sylw

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: