Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Tafodiaith Llannerch-y-medd, Môn

Nodweddion cyffredinol

[delwedd: sosbennad o stwns rwdan]

sosbennad o stwns rwdan

Y mae'r nodweddion a gysylltir yn reddfol ? iaith y Gogledd yn amlwg yn y darn hwn gan Mrs Edith May Hughes:

  1. Defnyddia eiriau nodweddiadol ogleddol fel allan, efo, fo, iau, nain a rwan.
  2. Ceir u mewn geiriau fel poeth, pys, tu a wedyn.
  3. chw sydd yn chwara 'chwarae' a chwys;
  4. Ffurf negyddol nodweddiadol o'r Gogledd yw tydwi'm yn cofio.

Un o'r nodweddion sydd yn ein galluogi i gyfyngu ar yr ardal y gallai Mrs Hughes hanu ohoni yw'r ffaith ei bod yn siarad tafodiaith-a: a sydd ganddi yn y sillaf olaf mewn geiriau fel bydda 'byddai', padall 'padell' a tamad 'tamaid'.

Y recordiad

Edith-May-Hughes.mp3
Enghraifft o dafodiaith sir Fôn. Ganed Mrs Edith May Hughes yn Llannerch-y-medd ym 1904. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Y ...Ol rwan 'te, at amsar te, mi fydda 'na sosbennad o stwns rwdan, ne stwns carainsh, ne stwns rhacs, fydda'r hen bobl yn galw nw. A beth odd y stwns racs 'ma on' stwns cabatshan,'lwch. Ia. A wedyn, byddan nw 'di berwi'r gabatshan a wedyn fyddan nw'm yn rhoid y dail mawr sy ar tu allan, 'mond y rhei mwya' tendar,'te. Wedyn mi fydda rhini wedi cal 'u mhalu, ag wedi berwi. Wedyn, y, fydda'r tatws 'di cal 'u roid efo nw wedyn, rhini 'di cal 'u stwnsho, 'te. Wel, wddoch chi be? Mi odd o'n dda! Mi fysach chi'n deud bod 'na damad o gabatshan wedi mynd efo bob tatan. Odd o yn neis.

Wedyn mi fydda yr iau. Padall huarn fawr fydda gin Mam, ar ben y pentan,'te. A mi fydda wedi gneud yr iau yn ara' deg. Fydda gynni hi flawd wrth law bob amsar. Wedyn, – a board 'te – wedyn, pen fydda hi'n mynd i dorri'r iau, fydda blawd ar y board, a 'dda'r iau yn cal 'i roid yn fanno. A'i sglisho wedyn, a'i dipio fo'n y blawd, cyn 'i ffrio fo, 'te. Wedi ny mi fydda nionod yn cal 'u ffrio, hefo yr iau 'ma, yn ara' deg. Wedyn mi fydda 'na lond y badall, ar ôl i'r iau neud. Fydda'n codi'r iau, a wedyn mi fydda 'na lond y badell o refi da wedi neud — efo'r nionod 'ma i gyd, te. Wedyn 'dda'r iau yn cal 'i roid i fiewn yno fo. Wedyn od o'n cadw yn dendar neis, ag yn boeth. Erbyn dôn ni o'r ysgol gyda'r nos, ylwch. Ag amsar swpar, 'te, chips Nan Ŵan fydda hi. Fydda reid deud y gwir wedyn 'te, powlan, ag am y shop chips Nan Ŵan.

O, odd Nan Ŵan yn gwerth... Tydwi'm yn cofio neb yn gwneud chips ond Nan Ŵan. Y hi odd y ...yr original, chadal nhwtha 'te. Ag yn un dda. Ag yn un wŷllt! Ol, am ... am chips bendigedig odd gin Nan Ŵan! A pys – pys wedi'u mhwydo, a rhini ...tân bach odanyn nw, wn i'm sut odd 'i'n medru gneud y ffashwn bentwr ag odd 'i, wir...

A ...fydda rei yn lecio bara llaeth. Ond mi gymwn i dipyn o fara llaeth os gawn i shwgwr yno fo, ne fyddwn i 'mo'i lecio fo. A digon o hwnnw, 'te. A mi dduda i wtha chi beth arall... yn yr ha' pen 'ddan ni wedi bod yn chwara ag yn chwys, fydda Mam bob amsar... digon o laeth. Pot pridd ylwch. A'r llaeth yn ffresh o'r ffarm, 'te. Lle bydda Nain yn cael y menyn, 'lwch. A ma 'na'i isho sôn am fenyn arall wthach chi hefyd, oddan ni'n gâl o'r ffermydd. Menyn pot. Ond efo'r llaeth rwan 'te. Mi fydda fy mam bob amsar pen 'ddan ni bod yn chwys yn y ...chwara 'te, yn galw anan ni i'r tŷ, a fyddan ni'n câl diod o laeth. Jwg fawr ar ganol y bwrdd. Jwg enaml, 'te. A wedyn fydda 'na jwg arall yn llawn... o'r llefrith 'ddan ni... 'llaeth' 'dach chi'n ddeud am hwnnw 'fyd 'te? Ond 'llefrith' 'ddan ni. A fydda 'na... y...powlan i bob un onan ni, llaeth wedi roi yno fo a wedyn rwbath yn debig o'r llefrith 'ma. Achos fydda'r hen bobol yn deud, os yfach chi y llefrith 'i hun, ag wedi chwysu a rhedag, y bydda fo'n corddi, ag wedyn y bydda fo'n berig, efo'r stumog, 'te.

Nodiadau

[delwedd: sosbennad o stwns rwdan]

sosbennad o stwns rwdan

stwns 'tatws a llysiau eraill (maip fel rheol) wedi eu briwio gyda'i gilydd'
Gair y Gogledd-orllewin yw stwns(h), un o'r lliaws o dermau lleol am y cymysgedd hwn. Enwau ardaloedd eraill yw ponsh (y Gogledd-ddwyrain), mwtrin (Llŷn), stwmp (y Canolbarth), bwts (rhwng Aeron a Theifi), ponjin (de Morgannwg) a potsh (y De).

rwdan 'meipen'
Fel y tystia'r ffurf luosog, rwdins, mae'n fwy na thebyg mai o ffurf Saesneg fel rootings y daeth y gair hwn i Gymraeg y Gogledd yn wreiddiol. Wrth i ffurf unigol ddatblygu ar lafar mae'n rhaid bod pobl wedi ystyried mai terfyniad lluosog oedd yr -ins ar ddiwedd y gair ac felly fe'i cyfnewidiwyd am y terfyniad Cymraeg unigol, -an (fel yn creithan a merlan).

Gair arall a ddatblygodd yn yr un modd yng Ngwynedd yw cwsberins 'eirin Mair', y ceir iddo'r ffurf unigol cwsberan. Ym Maldwyn y gair am eirin Mair yw ffebrins (benthyciad o'r Saesneg feaberries); lluniwyd y ffurf unigol, ffebren drwy'r un broses, ac eithrio mai -en yw'r terfyniad am mai tafodiaith -e a siaredir yno.

Pâr brodorol sydd yn ymbatrymu'n debyg mewn rhai ardaloedd gogleddol yw tegan 'tegan' a tegins 'teganau'.

Annisgwyl, braidd, yw'r ffurfiau stwns rwdan a stwns cabatshan (stwnsh rwdis a stwnsh cabaitsh yw'r ffurfiau a gofnodir yn llyfr Fynes-Clinton The Welsh Vocabulary of the Bangor District): y ffurfiau lluosog neu gynnull a ddisgwylid yn y cyd-destun hwn, fel yn achos stwns carainsh a stwns rhacs. Mae'n wir, fodd bynnag, mai at un fresychen y cyfeirir yn y darn hwn, ac mae'n bosibl hefyd na ddefnyddid mwy nag un rwdan i wneud stwns.

Posibilrwydd arall yw mai dylanwad y Saesneg sydd yn cyfrif am yr ymadroddion hyn. Ffurfiau tebyg, a glywir – ac a welir - yn gyffredin yn iaith pobl o bob rhan o'r wlad yw teisen afal, llyfr siec a cadair olwyn yn hytrach na teisen (a)falau, llyfr sieciau a cadair olwynion (ar ddelw ymadroddion fel teisen gwsberis, llyfr cofnodion, a cadair freichiau). Ffurf arall, a glywir ar raglenni chwaraeon ar y radio a'r teledu, yw Y Cae Ras (yn Wrecsam) yn hytrach na Y Cae Rasio neu Y Cae Rasys).

lcarainsh <S carrots
Er mai gair benthyg yw carainsh, fe'i newidiwyd gryn dipyn ar lafar y Cymro. Un o'r nodweddion diddorol yn y ffurf ogleddol hon yw'r n ordyfol. Tyfodd n yn gwbl naturiol yn y Gymraeg o flaen rhai cytseiniaid, ac o flaen s, sh a j yn arbennig. Mae hon yn nodwedd hefyd ar Saesneg tafodieithol Lloegr ac felly yn achos geiriau benthyg nid hawdd bob amser yw penderfynu i ba iaith y dylid priodoli'r datblygiad. Geiriau eraill sydd yn arddangos y nodwedd yw:

clainsh 'clais'(Dyfed)
hwnda 'hwde' (Y Gogledd-orllewin)
yndw 'ydwyf' (Y Gogledd)

closhwns <S goloshes (Dyfed)
cwsberins <S gooseberries (Y Gogledd-orllewin)
sosinjyrs <S tafodieithol (Y Gogledd-orllewin a'r De-ddwyrain)

'lwch
Datlbygodd y ffurf hon drwy golli sillaf gyntaf gwelwch. Ffurf arall ar yr un gair, ac sydd yr un mor gyffredin yn y Gogledd yw 'ylwch, y ceir enghreifftiau ohoni yn y darn. Talfyrrir y ffurf unigol, gweli, yn yr un modd yn 'yli a 'li.

'u mhalu
Ar yr olwg gyntaf ymddengys fod m ddechreuol malu wedi ei threiglo yma. Ond nid treiglad cyffredin sydd gennym: ni fyddai dweud — nac ysgrifennu — eu mhalu yn dderbyniol mewn arddulliau ffurfiol. Ceir enghraifft arall o'r un treiglad tua diwedd y recordiad, lle y ceir pys wedi'u mhwydo. Dyma enghraifft o dreiglo estynedig yn y tafodieithoedd gogleddol hyn nad ydyw'n digwydd yn yr iaith safonol.

blawd
Gair y Gogledd yw hwn. Yn y De-ddwyrain y gair arferol yw can ac yn y De-orllewin ceir y gair fflŵr.

nionod
Nionyn yw'r ffurf a arferir yn y Gogledd am un o'r llysiau hyn; ffurfiau lluosog gogleddol eraill yw winwin a winwins. Yn Llanfair Caereinion arferir niontsen ar gyfer yr unigol a winiwns neu wniwns ar gyfer y lluosog. Y ffurfiau arferol yn y De yw'r winwnsyn (unigol) a winwns (lluosog). Adlewyrchu amrywiadau Saesneg y mae'r ffurfiau hyn yn y bôn am mai o wahanol ffurfiau Saesneg ar onion y tarddant i gyd.

Ceir defnydd trosiadol gogleisiol i nionyn yn y Gogledd mewn ymadrodd fel 'Cer o' 'ma'r hen nionyn', a ddefnyddir wrth siarsio rhywun yn ddireidus.

o refi
Sylwer ar y treiglad meddal yma. Tuedd rhai geiriau benthyg (a grefi yn eu plith), sydd yn dechrau gydag g- yw gwrthsefyll treiglo'n feddal mewn llawer o ardaloedd. Geiriau tebyg eraill yw gêr, golff, gêm, gapo/gepio. Bydd digrifwyr — ac athrawon ail iaith! — yn manteisio ar y gwrthsefyll yma weithiau er mwyn doniolwch e.e.'Rwy'n hoff o êm o olff'!

ldôn 'deuem'

chadal nhwtha 'ys dywedant'
Ffurf ogleddol ar 'chwedl'. Ffurfiau fel ys gwetan nw, ys gwed(s)on nw, neu fel man nw'n gweud a ddywedai'r deheuwr o dan yr un amodau; clywir hefyd mynten nw mewn rhannau o Geredigion.
Defnyddir chadal mewn rhannau o'r Gogledd hefyd i olygu 'mewn cymhariaeth â' e.e. Dach chi wedi mewndio'n arw chadal oeddech chi ddoe.

Yn y De datblygodd ffurf y gair a'i ddefnydd yn wahanol: w(h)eddel neu weddal yw'r ffurfiau arferol ac fe'u clywir amlaf yn yr ymadrodd hen weddel, sef 'hen stori, hen hanes, hen draddodiad.' Defnyddir y gair hefyd mewn ymadroddion fel

  1. Wyddwn i wheddel a na whiddil na wheddel 'cyn imi sylweddoli, yn sydyn', e.e. Wyddwn i wheddel cyn iddo 'nharo i, a
  2. na chlust na wheddel 'sylw', e.e. Neith e na chlust na wheddel ohana i 'Mae'n gwrthod gwrando ar ddim a ddywedaf '.

'Adrodd chwedl neu stori' yw ystyr ymddangosiadol y berfenw chwedleua i'r rhan fwyaf ohonom heddiw, ond dyma air arferol llenyddiaeth Cymraeg Canol am 'siarad'. Fe'i ceid, hefyd ym Meibl 1588, e.e. yn Genesis 45.15 dywedir am frodyr Joseff 'ei frodyr a chwedleuasant ag ef'. Mae'n amlwg nad oedd 'chwedleua' yn gwbl dderbyniol yn y cyd-destun hwn oherwydd newidiwyd yr adnod i 'Ei frodyr a ymddiddanasant ag ef' ar gyfer y fersiwn diwygiedig. Erbyn y cyfieithiad newydd aethai 'ymddiddan' hefyd yn annerbyniol a'r hyn a gawn yn awr yw 'cafod ei frodyr sgwrs ag ef.' Er gwaethaf y newid yn statws cymharol 'chwedleua' yn yr iaith safonol, cedwir ffurfiau arno yn fyw yn y tafodieithoedd: wilia yw ffurf Morgannwg a loia a ddywedir yng Ngheredigion.

mwydo
Mae nifer o eiriau Cymraeg lleol am 'roi rhywbeth i wlychu mewn hylif am gyfnod nes bo'r hylif wedi treiddio drwyddo': mwydo (ym Môn a'r rhan fwyaf o'r ardal i'r gogledd i afonydd Dyfrdwy a Chlwyd ac eithrio Llŷn), rhoi yn wlych (Llŷn a'r rhan fwyaf o'r De), trochi (yn achlysurol yn y De-orllewin), a stwytho (gorllewin y Canolbarth). Er gwaethaf y cyfoeth cymharol hwn, mae soc(i)an a soc(i)o hefyd yn gyffredin ar draws y wlad sy'n awgrymu fod y ffurfiau brodorol o dan fygythiad.

11.27 llaeth
Y mae cred gyffredinol mai 'gair y Gogledd' yw llefrith ac mai 'gair y De' yw llaeth. Ond, fel y tystia Mrs Hughes yn eglur ddigon, y mae'r ddau air i'w cael yn y Gogledd. Ceir y ddau hefyd mewn rhai ardaloedd deheuol, yn enwedig yn nwyrain Morgannwg . Ond er bod y ddau air gan Mrs Hughes, nid yw'n eu defnyddio yn ddiwahân oblegid y mae gwahaniaeth ystyr iddynt.

Yr hylif sydd weddill wrth wneud ymenyn yw llaeth yn yr ardal hon. Y term llawn (y gellir ei ddefnyddio drwy'r wlad) yw llaeth enwyn ond yn y Gogledd tueddir i'w dalfyrru yn llaeth; mae'r De, ar y llaw arall, yn debycach o alw enwyn arno.

Y mae i llaeth ystyron eraill sydd hwythau yn amrywio o ardal i ardal. Yn y Gogledd yr hylif ffres, cyfan, heb ei drin, yw llaeth; ar ôl ei drin mewn rhyw ffordd neu ei gilydd (fel rheol drwy dynnu'r hufen) yr enw yw llefrith. (Y gwrthwyneb a geir yn nwyrain Morgannwg!) Y mae, felly, wahaniaeth i ogleddwr rhwng yr hyn a gludir gan lori laeth (cerbyd sydd yn casglu'r hylif o'r fferm) a fan lefrith (a yrrir gan y sawl a ddaw â'r poteleidi i gartrefi unigolion).

Mewn rhai mannau yng Ngheredigion yr enw ar laeth y Gogleddwr yw llaeth llefrith neu llaeth efrith; mewn mannau eraill yn Nyfed, fodd bynnag, gall llaeth efrith gyfeirio at yr hylif ar ôl i'r hufen gael ei godi oddi arno.

ma 'na i isho
Ffurf lafar ar 'y mae arnaf eisiau', cystrawen sydd yn ildio mewn llawer man — o dan bwysau'r Saesneg, y mae'n debyg — i dwy isho . Er gwaethaf y newid yn y gystrawen hon wrth fynegi gosodiad neu wrth holi, y mae ateb i gwestiwn fel petai ryw gam ar ôl gosodiadau a chwestiynau yn y datblygiad: digon cyffredin yw clywed Oes yn ateb i gwestiwn fel Ydych chi eisiau (y peth a'r peth) . Mewn olyniadau o'r fath y mae'r atebwr yn ymateb fel pe bai'r cwestiwn yn cynnwys oes, sef y ffurf a geid yn y gystrawen wreiddiol Oes arnoch chi eisiau?

Dyddiad yr erthygl: 10 Mai 2010

0 sylw

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: