Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Tafodiaith Carno, Maldwyn

Nodweddion cyffredinol

[delwedd: credu'n gry mewn crinjar]

credu'n gry mewn crinjar

Tafodiaith arbennig o ddiddorol yw hon, gan ei bod yn ardal trawsnewid nifer fawr o nodweddion gogleddol a deheuol. At hynny, y mae ynddi nodweddion sydd yn hynodi’r Canolbarth yn unig.

O ran geirfa, cawn mai:

  1. Gogleddol yw allan, coelio, gyrru 'anfon', llidiart, a mam wen 'llysfam'.
  2. Deheuol, ar y llaw arall, yw bisi 'prysur', moyn, trigo ‘marw’.
  3. Nodweddu’r Canolbarth yn unig y mae’r ffurf ffalt ‘buarth’.

Pan greffir ar acen Mr Thomas, ceir darlun brith iawn:

  1. Nid yw’r u ogleddol yn amlwg yn ei iaith: i ddeheuol sydd ganddo mewn geiriau fel dyn a ; deheuol, hefyd, yw’r ffurf ishe ‘eisiau’.
  2. Gogleddol yw’r duedd i golli f ar ddiwedd geiriau fel cry ‘cryf’, a go ‘gof’; nodwedd ogleddol, hefyd, yw cynnwys yr i yn nherfyniad geiriau fel ffindia, a licio.
  3. Perthyn i’r Canolbarth (a’r De-ddwyrain) y mae’r æ yn glæs, plæs, a tæd; ac yn yr un ardal y ceir ci a gi mewn geiriau fel ciæ, ciæl ‘cael’, a gielwydd (ffurf dreigledig ar ‘celwydd’).
  4. Yn nwyrain y Canolbarth (fel yn Llanymawddwy), y byddir yn swnio’r e mewn geiriau fel clŵes ‘clywais’, ffrindie, a potel.
  5. Amlygir y trawsnewid rhwng Gogledd a De nid yn unig yn y nodweddion uchod, sydd yn gymharol sefydlog yn y dafodiaith, ond hefyd mewn nodweddion sydd yn amrywiol. Enghraifft yn y darn hwn yw fo a fe: y ffurf ogleddol sydd yn dwi’n cofio fo a i lofft o, ond y ffurf ddeheuol a gawn yn glŵes e ac âth e.

    Y recordiad

    Francis-Thomas.mp3
    Enghraifft o dafodiaith Sir Drefaldwyn. Ganed Mr Francis Thomas, Carno ym 1912. Fe'i recordiwyd gan yr Uned Ymchwil Ieithyddol Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

    Odd Nhæd yn credu’n gry’ iawn mewn crinjar. Odd ’i dæd ynte’n credu’n gry’ yn crinja[r]. Crinjar yn byw yn Llangurig, dau onyn nw. Jæms Tŷ Morris, odd hwnnw’n go’ lawr yn Gwmbela[n], a’r hen Ifan Griffis i fyny yn Pant y Benni. Odd Ifan Griffis a Nhæd yn ffrindie alswn i feddwl. Ag mi... dwi’n cofio fo’n deud odd y ceffyle yn trigo yn Creigfryn, pedwar o geffyle wedi trigo yn Creigfryn, rip rap ar ôl ei gilydd. A... John Tomos Creigfryn yn gyrru, gynno fo(?) ddau gymydog yr un un enw, un yn Creigfryn,llâll yn Bron ’Au[l]. John Tomos Creigfryn yn gyrru Nhæd, John Tomos Bron ’Aul, at y crinjar yma i Langurig. Ag yn ciæl rhyw, fel rhyw weddi Lladin a rhoi hi mewn potel a rhoi honno yn ’i lofft o, uwchben y lle odd o’n gysgu, a drigodd ’na’r un, ’r un ceffyl wedyn.

    A glŵes e’n deud stori arall, dew, mae’n anodd ’i choelio ’i, on’ ma ’i, ’dwi ’im credu dde tŷ a fa gielwydd, achos odd e wedi deud hon wtha’ i lawar gwaith. Oedd ’i fem wen o yn ferch Plæs Pennant Llanbryn-mair. Ag oedd Plæs Pennant, fyny yn Cwm Pennant, ar hanner ffor’ o dreflan Llanbryn-mair i Staylittle. Ag oedd ’na rhyw un yn byw mewn rhyw ben tŷ yn uwch fyny o’r enw Dot, Dot y Ceulan. A mi ddoth Dot y Ceula[nj lawr i ofyn i rieni ’i fem wen o, eise ’i lawr i station Llanbryn-mair i moyn glo.

    — Duw, duw, dwi rhy fisi, medde fo, dwi yn y gwair, dwi ry fisi. Ffindia rywun arall i fynd. Ag mi... Reit, mewn ryw dair wythnos o ’na gaseg læs wedi trigo yn ganol y ciæu. A mi æth yr hen, yr hen foi, yr hen ŵr, Plæs Pennant (glŵes i Nhæd ’n adrodd hon lawar gwaith) i Llangurig at y crinjar. A medde’r cr... ddudodd y crinjar, æth e fiwn i tŷ a rhyw lyfre mawr a troi drosodd o pæij i pæij ag mi, mi... gofnodd o fel ’na.

    — Duw, fyswn i’n licio, crinjar, fyswn i’n licio, Mr Griffis (Ifan Griffis o’ enw Pant y Benni), fyswn licio, Mr Griffis, tasach chi’n gallu deu’ ’tha i pwy sy wedi, wedi fy witsho i.

    — O, alla i ddeud ’ynny wthoch chi. Ewch adre a tynnwch calon y gaseg ’ma allan a rhowch hi ar blât mawr o flaen tæn. Reit o flæin tæn. A fel fydd y galon ’ma’n cnesu yn gwres yr tæn, mi fydd y perch... yr un sy wedi neud, wedi’ch witsho chi’n dŵad yn nes at y tŷ, yn nes at y tŷ o ’yd.

    Ag os dach chi’n gwbod am Plæs Pennan, ma y tŷ ar draws ffor’ a wedyn mei llidiart, tŷ ar draws top y ffalt, ag yn gwaelod y ffalt mei llidiart myn’ allan i ffor’. A edrych allan drwy’r ffenest, diawl yn union dyma’r Dot ’ma o Ceulan lawr yn pasho llidiart. Pasho ’i wedyn, pasho ’i wedyn, a fel odd y galon yn cnesu. Ag dyma, o’r diwedd dyma ’i’n mentro drwy llidiat a hanner fyny’r ffalt. A medde yr hen ddyn,

    — Duw, duw, ma fo felna, tynna’r galon nôl, dwi ’im ishe gweld y cythral tu fiwn i’r drws tŷ ’ma.

    Nodiadau

    [delwedd: Geiriau tafodieithol am rwystr sy'n cau bwlch]

    Map yn dangos dosbarthiad geiriau tafodieithol am rwystr sydd yn cau bwlch

    crinjar ‘dyn hysbys’
    Benthyciad o’r Saesneg conjurer yw crinjar, ffurf nas nodir gan GPC. Y ffurf safonol yn Gymraeg yw consuriwr ond ceir llu o wahanol ffurfiau ar lafar, e.e. conjerwr, conjer, cwnjer, cwnsher, cynjer a cwnsherwr. Am fanylion pellach, ac am y dyn hysbys yn gyffredinol, gweler Evan Isaac: Coelion Cymru (1938); T Gwynn Jones: Welsh Folklore and Folk Customs (1930); Kate Bosse Griffiths: Byd y Dyn Hysbys (1977).

    trigo ‘marw’
    Nodwedd ddeheuol (a geir i’r De i afonydd Dyfrdwy a Mawddach) yw gwahaniaethu’n eirfaol rhwng trengi dyn ac anifail: marw y bydd dyn tra bo anifail yn trigo. Mae’n debyg bod y cyferbyniad hwn i’w gael un adeg mewn ardaloedd mwy gogleddol hefyd, ond erbyn hyn anami y clywir trigo gyda’r ystyr hon yn y Gogledd. Ystyr arall i trigo, a geir mewn rhannau o’r Canolbarth, yw ‘rhynnu’, sef - ar ei waethaf - ‘rhewi i farwolaeth’. Ymddengys mai yn yr iaith ffurfiol yn unig y mae i trigo yr ystyr ‘preswylio, byw’ - sef y gwrthwyneb i’r ystyr dafodieithol!

    rip-rap ‘y naill ar ôl y llall’
    Sylwer ar y berthynas rhwng aelodau’r pâr atseiniol hwn: dim ond y llafariad sy’n newid. Parau eraill sy’n dilyn yr un patrwm yw: chwit-chwat ‘anwadal’, e.e. Hen un wit-wat yw e, dim dal o gwbwl arno. drib-drab ‘bob yn damaid’, e.e. Man nw’n dod yn drib-drab, lib-lab ‘di-baid’, e.e. Sharad yn lib-lab.

    coelio ‘credu’
    Gair gogleddol; amrywiadau llafar eraill yw cweilio a cwylio. Lluniwyd y berfenw o’r enw coel ‘cred’, gair a geir mewn ymadroddion fel coel gwrach [o’i heistedd] (old wives’ tale), rhoi coel ar rywbeth ‘credu’ yn ogystal ag mewn cyfansoddeiriau fel coelbren a coelcerth.

    mam wen ‘Ilysfam’
    Ymadrodd gogleddol. Ceir yr ystyr hon i ‘gwyn’ gydag aelodau eraill o’r teulu hefyd: tad gwyn, mab gwyn, merch wen, ond ymddengys na cheir *brawd gwyn na*chwaer wen. Y ffurfiau deheuol yw llysfam, llystad, llysfab, a llysferch.

    eise ‘âi’

    moyn ‘ymofyn, ôl’

    Gair nodweddiadol ddeheuol a geir yn helaeth i’r de i Ddyfi ac Efyrnwy; yn y Gogledd nâl yw’r gair arferol, a cheir hwn yn ogystal â’r amrywiad ôl hefyd mewn rhannau helaeth o’r De.

    bisi ‘prysur’
    Fel y nodwyd o dan y Nodweddion Cyffredinol uchod, un o eiriau’r De yw bisi neu bishi. Ond ni olyga hynny mai yn y Gogledd yn unig y ceir prysur yn y tafodieithoedd: mae’r gair yn gwbl fyw mewn rhannau helaeth o’r De hefyd, ac eithrio bod iddo ystyr wahanol. ‘Difrifol’ yw ystyr y De, ac felly pe bai deheuwr yn gofyn Odych chi’n brysur? neu’n dweud bod golwg brysur ar rywun, fe olygai rywbeth hollol wahanol i’r hyn a fyddai ym meddwl gogleddwr yn yngan yr un geiriau. Ystyr y De sydd yng ngeiriau’r gân:

      Y deryn pur a’r adain las Bydd imi’n was dibrydar; O brysur brysia at y ferch Lle rhoes i’m serch yn gynnar.

    llidiart ‘clwyd, gât’
    Gair a geir drwy rhannau helaeth o’r Gogledd; gweler y map uchod.

    ffalt ‘buarth fferm’
    Benthycair o’r Hen Saesneg, cynsail y ffurf Saesneg gyfredol fold, yw hwn. Mae dwy ffurf bosibl yn y Gymraeg: ffalt (sydd yn gyfyngedig i’r Canolbarth), a ffald (a geir mewn rhannau helaeth o’r De). Yn ogystal â dwy ffurf, mae i’r gair ddwy ystyr hefyd. ‘Buarth fferm’ ydyw yn y Canolbarth, gogledd Ceredigion a’r De-orllewin eithaf; yn y De-ddwyrain, fodd bynnag, ‘corlan’ a olygir.

    Dyddiad yr erthygl: 10 Mai 2010

    0 sylw

    Gadael sylw


Themau

Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: