Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Lleisiau o'r Oesoedd Canol Cynnar (OC 400au - 1070au)

Lleisiau o'r Oesoedd Canol Cynnar (OC 400au - 1070au)

Rhagarweiniad

Arysgrif ar gofeb o'r 9fed ganrif o Forgannwg
Arysgrif Ladin ar gofeb o'r 9fed ganrif o Eglwys Sant Illtud, Morgannwg. Codwyd y groes gan Houelt (Hywel) ar gyfer ei dad Res (Rhys).

Clywyd nifer o leisiau gwahanol yng Nghymru yn ystod y canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Fe ymosododd pobl o wledydd eraill, daeth rhai yma i weithio a chafwyd cysylltiadau estynedig ag eraill drwy fasnach.

Recordiwyd y clipiau sain hyn yn 2007 ar gyfer oriel archeoleg newydd yn Amgueddfa Cymru Caerdydd. Mae'r atgynhyrchiadau hyn o leisiau coll yr oesoedd canol yn dangos faint o ryngweithio ieithyddol oedd yng Nghymru yn y cyfnodau cynnar hyn, ac hefyd yn rhoi cipolwg inni ar feddyliau a gweithredoedd y bobl oedd yn byw yma.

Hen Gymraeg:

Cymru yw'r unig ran o Ynysoedd Prydain lle mae fersiwn o iaith Frythonaidd wedi cael ei siarad yn ddi-dor hyd heddiw. Y Frythoneg oedd mamiaith y Gymraeg, y Gernyweg a'r Llydaweg, Fe ddatblygodd i fod yn Hen Gymraeg yn ystod y 500au a'r 600au.

Daw'r enghraifft o Hen Gymraeg a glywir yma o gyfres o englynion tair llinell a gofnodwyd yn ysgrifenedig yn yr 800au. Fe'u hadnabyddir fel cerddi'r Juvencus. Galarnad milwr unig a geir yn y darn yma. Unig gwmni'r milwr yw hurfilwr o Ewrop. Er eu bod wedi ymladd ochr yn ochr, mae'r cyfathrebu rhyngddynt yn gyfyngedig.

Credai'r Athro Ifor Williams fod y gair franc yn golygu 'milwr estron cyflogedig', gan ei gymharu â'r Wyddeleg francamais oedd yn dwyn yr un ystyr. Os oedd y gair yn cyfeirio at rywun oedd yn wreiddiol o ymerodraeth Siarlymaen, buasai'n siarad rhyw fath o iaith Gaelo-Romawns (neu os oedd yn hanu o ardaloedd dwyreiniol, iaith Ellmynig).

Trawsgrifiad o'r clip sain:

Niguorcosam nemheuaur    henoid
Mitelu nit gurmaur
Mi am [franc] dam ancalaur.

Nicanãniguardam nicusam    henoid
Cet iben med nouel
Mi amfranc dam anpatel.

Namercit mi nep    henoid
Is discirr micoueidid
Dou nam riceus unguetid.

Cyfieithiad i Gymraeg Fodern

1. Ni siaradaf hyd yn oed am awr heno,
Nid yw fy ngosgordd yn fawr,
Myfi a fy Ffranc, o amgylch ein crochan.

2. Ni fyddaf yn canu, chwerthin, na mwynhau heno
Er i ni yfed medd clir,
Myfi a fy Ffranc, o amgylch ein bowlen.

3. Na foed i neb ofyn imi am ddifyrrwch heno,
Cwmni crintachlyd wyf fi,
Gall dau arglwydd ymgomio: ond un sy'n siarad.

Mae'r darlleniad o Hen Gymraeg gan Peter Wynn Thomas

Lladin

Roedd y rhan fwyaf o bobl Brythonig-Rufeinig addysgedig yn ddwyieithog. Lladin oedd iaith y gyfraith, y llywodraeth, busnes a llenyddiaeth yn y Gymru Rufeinig. Cadwodd Lladin ei lle fel yr iaith ryngwladol o'r statws uchaf drwy'r canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Lladin oedd iaith testunau, litwrgi ac addysg Gristnogol.

Yn y clip sain clywir darlleniad o fersiwn y Fwlgat o Weddi'r Arglwydd gan Beatrice Fannon.

Trawsgrifiad o'r clip sain

PATER noster, qui es in caelis,
Sanctificetur nomen tuum.
Adveniat regnum tuum. Fiat voluntas tua, sicut in caelo et in terra.
Panem nostrum quotidianum da nobis hodie,
Et dimitte nobis debita nostra sicut et nos dimittimus debitoribus nostris.
Et ne nos inducas in tentationem, sed libera nos a malo.
Amen.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
Sancteiddier dy enw,
Deled dy deyrnas,
Gwneler dy ewyllys,
Megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd;
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol,
A maddau i ni ein dyledion,
Fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr;
Ac nac arwain ni i brofedigaeth,
Eithr gwared ni rhag drwg.
Amen.

Hen Wyddeleg

Mae'n debyg mai ymfudwyr o'r Iwerddon ddaeth â'r Wyddeleg i Gymru tra bod Prydain yn dal i fod yn dalaith Rufeinig. Roedd y Gwyddelod yn arbennig o niferus trwy orllewin Cymru.

Diflannodd Gwyddeleg llafar o Gymru yn ystod y 600au mae'n debyg, ond mae'r iaith wedi gadael ei hôl ar nifer o enwau lleoedd Cymru ac ar yr iaith Gymraeg.

Daw'r enghraifft hon o Hen Wyddeleg o'r gerdd Yr Ysgolhaig a'i Gath, a ysgrifennwyd ar lawysgrif yn Awstria yn yr 800au cynnar. Mae'r ysgolhaig yn myfyrio am ei fywyd; Pangur yw enw ei gath.

Troswyd y gerdd i'r Saesneg gan D. Greene ac F. O'Connor. Mae'r darlleniad o'r Hen Wyddeleg gan Diarmait Mac Giolla Chriost.

Trawsysgrif o'r clip sain:

Meisse ocus Pangur Bán,
Cechtar nathar fria shaindán;
Bíth a menma-sam fri seilgg
Mo menma céin im shaincheird.
Caraim-se foss, ferr cach cló,
Oc mo lebrán léir ingnu;
Ní foirmtech frimm Pangur Bán,
Caraid cesin a maccdán.

Ó ro biam, scél cen scís,
I n-ar tegdais ar n-oendís,
Táithiunn díchríchide clius
Ní fris tarddam ar n-áithius.

Cyfieithad i'r Gymraeg:

Rwyf innau a Pangur Gwyn wrth ein gwaith; ef a'i feddwl ar hela, fy meddwl innau ar fy nhasg.

Gwell nag unrhyw glod i mi yw ennyd dawel gyda'm llyfr, ar drywydd gwybodaeth; nid yw Pangur Gwyn yn eiddigeddus ohonof – mae'n caru ei grefft blentynnaidd ei hun.

Nid oes diflastod pan fyddwn adref ar ein pennau'n hunain – cawn firi di-ben draw – a chyfle i ni'n dau ymarfer ein medrau.

Hen Norseg

Norseg oedd iaith Scandinafaidd y Llychlynwyr. Roedd yn dra thebyg i Saesneg y cyfnod, ac fe gymhathodd y ddwy iaith yn ardaloedd Llychlynnaidd gogledd a dwyrain Lloegr. Ceir nifer o enwau lleoedd o darddiad Llychlynnaidd o amgylch arfordiroedd Cymru.

Ym 1081 trechwyd y Normaniaid gan fyddin gyfunol Gymreig a Norwyaidd ym mrwydr afon Menai. Yn y gerdd hon, mae'r bardd llys Llychlynnaidd Þorkell hamarskáld yn dathlu'r fuddugoliaeth, yn enwedig cyfraniad y brenin Norwyaidd Magnós berfœttr (Magnus Goesnoeth). Cyfansoddwyd y gerdd i'w datgan ar lafar tua OC 1100.

Darllenir y gerdd gan yr Athro John Hines, Prifysgol Caerdydd.

Trawsysgrif o'r clip sain

Dunði broddr á brynju.
Bragningr skaut af magni.
Sveigði allvaldr Egða
Alm. Stọkk blód á hjalma.
Strengs fló hagl í hringa,
Hné ferð, en lét verða
Họrða gramr í harðri
Hjarlsókn banat jarli.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Saeth yn taro cot-mael. A'r pennaeth yn saethu'n galed. Plygodd arweinydd grymus Agder ei fwa. Taenwyd gwaed dros yr helmedau. Hyrddiodd saethau'r bwâu i mewn i'r mael, syrthiodd y fintai, a lladdwyd yr iarll gan dywysog Hordaland mewn brwydr ffyrnig dros dir.

Hen Saesneg

Roedd yr Eingl-Sacsoniaid a ymgartrefodd yn Lloegr ar ôl diwedd rheolaeth y Rhufeiniaid yn siarad yr iaith Germanaidd, a wahanodd yn raddol oddi wrth ei berthnasau Ewropeaidd. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd gwelwyd cyrchoedd milwrol cyson o Loegr i Gymru ac i'r gwrthwyneb. Ond ffurfiwyd perthnasau mwy adeiladol, a rhannwyd diddordebau cyffredin ar hyd ffin hir Clawdd Offa.

Daw'r enghraifft hon o Hen Saesneg o Groniclau'r Eingl-Sacsoniaid (Llawysgrif Caerwrangon. Llyfrgell Brydeinig MS Cotton Tiberius Biv, ff. 3-86). Cofnod clerigwr ydyw o effaith cyrch Llychlynnaidd ar Gymru yn 915.

Mae'r darlleniad o'r Hen Saesneg gan yr Athro John Hines

Trawsysgrif o'r clip sain

Her on þissum geare wæs Wæringwic getimbrod; ond com mycel sciphere hider ofer suðan of Lioðwicum; ond twegen eorlas mid, Ohtor ond Hroald; ond foron þa west abuton þæt hi gedydon innan Sæfan muðan; ond hergodon on Norð Wealas aeghwær be þam staðum þær hi þonne onhagode; ond gefengon Cameleac bisceop on Iercingafelda; ond læddon hine mid him to scipe; ond þa alysde Eadweard cyning hine eft mid feowertigum pundum.

Cyfieithad i'r Gymraeg

Yma, yn y flwyddyn hon, adeiladwyd Warwick, a daeth byddin ysbeiliol draw ar long o'r de o Lydaw, a dau bennaeth, Ohtor a Hroald gyda nhw. Aethant o amgylch y gorllewin nes cyrraedd aber Hafren, gan ysbeilio ar hyd glannau Cymru, gan gipio Cameleac, esgob Ergyng, a mynd ag ef ar y llong gyda nhw; talodd y Brenin Edward pedwar deg punt i'w ryddhau.

Ffynhonnell: Michael Swanton 1996, The Anglo-Saxon Chronicle (London: Dent, J. M.).

Dyddiad yr erthygl: 15 Mawrth 2010

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar