Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Y Ddresel Gymunedol: Wal graffiti Sefydliad Roxe

I gyd-fynd â'r thema Cerdd a gynhaliwyd ar bob safle Amgueddfa Cymru dros 2009, comisiynodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru grŵp o'r enw Sefydliad Roxe www.roxe.org.uk i greu wal graffiti.

Wedi gwneud gwaith ymchwil gyda'r casgliadau, fe gynllunwyd pedair panel ganddynt oedd yn sillafu'r gair CERDD, gyda phob llythyren yn cynnwys offeryn cerdd — gitâr, allweddell, sacsoffôn, spîcars a thelyn. Arddangoswyd y gwaith celf tu allan i Oriel 1 drwy gydol 2009, ac mae nawr yn y casgliadau.

Fe'u gwahoddwyd hefyd i arddangos gwrthrychau yn y Ddresel Gymunedol. Dyma rai o'r gwrthrychau a arddangoswyd, ynghyd â detholiad o gyfweliadau gyda'u cyfarwyddwr, Lou Lockwood, a'r artistiaid, a ddymunodd aros yn ddi-enw.

Cliciwch ar y delweddau isod i'w gweld yn fwy manwl.

New

Themau

Eich Hanes