Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Llwyau caru

Llwyau caru

Llwy garu

Llwyau caru yw'r enwocaf o blith arwyddion serch Cymru a chredir bod dynion a meibion wedi'u rhoi i'w cariadon o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen.

Peidiodd yr arfer yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ond parhawyd i'w cerfio mewn ardaloedd gwledig yn enwedig. Daeth yr arferiad o greu llwyau caru yn gelfyddyd ac yn aml fe'u cynhyrchwyd ar gyfer cystadlaethau gwaith pren ac Eisteddfodau.