Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Cwiltiau Amgueddfa Cymru

Mae casgliad cwiltiau a chlytwaith Amgueddfa Cymru yn cynnwys esiamplau o orchuddion gwely o’r ddeunawfed ganrif i’r ugeinfed ganrif, yn ogystal ag eitemau llai fel gorchuddion clustogau, leinin basgedi bedydd, peisiau o’r ddeunawfed ganrif a gŵn fedydd a wisgwyd gan Peter Morgan o Gelli Aur 1722.

[delwedd: Cwilt brethyn cyfan o Abergwawr a wnaed i gofnodi Jiwbili Aur Brenhines Fictoria ym 1887.]

Cwilt brethyn cyfan o Abergwawr a wnaed i gofnodi Jiwbili Aur Brenhines Fictoria ym 1887.

Mae casgliad cwiltiau'r Amgueddfa yn dyddio i'r 1930au. Er bod rhai esiamplau wedi cael eu rhoi i'r Amgueddfa ym 1914, ni wnaed unrhyw gasglu systematig cyn sefydlu'r Adran Diwylliant a Diwydiannau Gwerin ym 1932.

Gyda'r adfywiad cwiltio ar ddiwedd y 1920au a'r 30au, a gwaith yr ymchwilydd Mavis FitzRandolph dros y Bwrdd Diwydiannau Gwledig yng Nghymru, codwyd ymwybyddiaeth o'r newydd am safon a chrefft yr hen gwiltiau a chwrlidau clytwaith oedd i'w cael yn nhai Cymru. Caffaelwyd rhai o’r sbesimenau gorau yn y casgliad yn ystod y cyfnod hwn rhwng y ddau ryfel. Cwrlidau o ffabrig plaen yw’r mwyafrif o’r rhain, a'r unig addurn yn batrwm pwyth rhedeg wedi'i ddylunio fel arfer ar y ffrâm gwiltio gan wraig y tŷ neu'r cwiltiwr proffesiynol. Er bod traddodiad cwiltio brethyn cyfan cryf yng Nghymru, mae nifer o esiamplau clytwaith gwych wedi'u casglu o ffynonellau Cymreig hefyd. Mae cwiltiau o bob rhan o Gymru bron yn y casgliad, er taw yn siroedd gorllewinol Caerfyrddin a Cheredigion oedd y traddodiad ar ei gryfaf. Yng nghymoedd diwydiannol y de, fodd bynnag, y gwelwyd yr adfywiad cwiltio yn y dauddegau bron yn gyfangwbl.

Yn anffodus, daeth prinder deunyddiau a dogni'r rhyfel â chwiltio fel diwydiant cartref i ben i bob pwrpas yng Nghymru, ac roedd yr Amgueddfa ar y blaen ymysg y rhai oedd am adfywio’r diwydiant. Ym 1950-1 cynhaliodd yr Amgueddfa gynhadledd ac arddangosfa gwiltio. Er i'r diddordeb yn yr arddangosfa gyfoethogi’r casgliad, ni chafwyd gwir adfywiad yn y diwydiant cwiltio ei hun.

[delwedd: Cwrlid clytwaith a wnaed o 4,525 darn o frethyn unigol]

Cwrlid clytwaith a wnaed o 4,525 darn o frethyn unigol

Yn y 1970au y tyfodd y diddordeb presennol mewn cwiltio a chlytwaith, a hynny dan ddylanwad gref traddodiad bywiog yn yr Unol Daleithiau ac wedi ffurfio Urdd Cwiltwyr ym Mhrydain. Gwelwyd cwiltiau, a chlytwaith yn enwedig, yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fawr unwaith eto, er taw fel hamdden yn hytrach na diwydiant y cai’r grefft ei harfer. Bellach, mae cwiltwyr Prydain, a Chymru’n enwedig, yn troi fwyfwy at yr hen gwiltiau Cymreig am ysbrydoliaeth ac yn ceisio ailsefydlu’r traddodiad cwiltio Cymreig yn hytrach na dilyn y traddodiad clytwaith Americanaidd.

Mae'r cwiltiau syml ar y gwelyau yn adeiladau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn esiamplau celf gwerin o’r iawn ryw – eitemau a gynhyrchwyd gan wragedd tŷ Cymru i’w defnyddio a’u mwynhau.

Cliciwch ar y lluniau isod i weld detholiad o gwiltiau o gasgliadau’r Amgueddfa.

 

Gwybodaeth bellach

Yn llyfr Christine Stevens, Quilts a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ceir ateb i’r galw gan gwiltwyr heddiw am wybodaeth am y traddodiad y maent wrthi yn ei arddel. Mae hefyd yn borth i gasgliad mawr na ellir ei arddangos yn ei gyfanrwydd Am wybodaeth ar sut i archebu ffoniwch (029) 2057 3155 neu ebostiwch ni.

Related content:

  • ErthyglauGem yng nghoron y casgliad tecstilau

    16 Ebrill 2007

    [delwedd: The Tailor's Patchwork Coverlet]

    Mae gan Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru dros 15,000 o wahanol decstilau yn ei gofal. Uchafbwynt y casgliad enfawr hwn yw'r 'cwrlid' neu'r cwilt clytwaith. Cafodd ei greu ym 1842 gan James Williams, prif deiliwr o College Street, Wrecsam, mae'n cynnwys dros bedair mil a hanner o ddarnau o frethyn, ac fe gymerodd dros 10 mlynedd i'w gwblhau.