Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Catrin o Ferain

[delwedd: Catrin o Ferain, 'Mam Cymru' (1534/5-1591)]

Mae bywyd Catrin o Ferain yn llawn dirgelwch. Roedd gan yr aeres gyfoethog hon o Sir Ddinbych waed Tuduraidd, ac roedd yn perthyn o bell i'r Frenhines Elisabeth I.

Ei hanes hi a'i gŵyr niferus oedd un o brif straeon rhamant y gogledd. Cafodd chwech o blant a thros dri deg o wyrion ac wyresau oedd i gyd yn rhan o deuluoedd cyfoethocaf y wlad. Yn sgil hyn cafodd y teitl 'Mam Cymru'.

Yn oes Catrin, roedd pobl yn priodi am arian, tir a phŵer, nid cariad. Fel aeres gyfoethog o dras frenhinol, ystyriwyd Catrin yn dipyn o fachiad! Priododd bedair gwaith gyda Chymry enwog, ac roedd yn perthyn i deuluoedd cyfoethocaf, pwysicaf y gogledd.

Byddai pobl gyfoethog yn aml yn cael rhywun i beintio eu portreadau er mwyn gwneud sioe fawr o'u cyfoeth a'u statws cymdeithasol. Ond yn yr oes grefyddol hon, roedd hi'r un mor bwysig ymddangos yn ddiymhongar o flaen Duw.

Priodolwyd y portread hwn i'r artist a swyddog llywodraethol Iseldiraidd Adriaen van Cronenburgh, a beintiodd sawl portread o uchelwyr Ffrisaidd. Mae ei waith yn dangos y dechneg peintio olew Iseldiraidd soffistigedig.

Archwiliwch y Llun

Cyffyrddwch ran o’r portread i ganfod yr hyn y mae portread Catrin yn ei ddatgelu amdani, ffasiynau’r oes, a thraddodiad portreadu’r unfed ganrif ar bymtheg.

Cefndir

Drwy ddefnyddio man gwastad du fel cefndir, mae'r artist wedi sicrhau nad oes unrhyw beth yn tynnu ein sylw oddi ar Catrin. Arni hi y dylid canolbwyntio, ac mae ei chroen golau ac aur cyfoethog ei gwisg yn sefyll allan yn erbyn y cefndir plaen.

Croen gwelw

Ystyriwyd bod croen gwelw Catrin yn arwydd o bendefigaeth a thynerwch – dim ond y tlodion oedd yn gweithio yn yr haul drwy'r dydd oedd â lliw haul. Cysylltwyd gwenu â ffyliaid, sy'n egluro wyneb diemosiwn Catrin.

Phenwisg

Yn draddodiadol, roedd menywod priod yn gorchuddio'u gwallt â phenwisg. Yn aml roedd y rhain wedi'u haddurno â gemau i dynnu sylw at y talcen, a ystyriwyd yn fan prydferth.

Jlysau

Gwisgwyd tlysau fel addurn, fel heddiw, ond roedd hefyd yn arwydd o gyfoeth, ac roedd rhai yn arwyddion o deyrngarwch a chariad.

Arysgrif

Mae'r arysgrif ysgafn hwn yn dweud 'Katherine Tudor of Beren'. Roedd arysgrifau o'r fath yn cael eu hychwanegu'n aml ar ôl i'r portread gael ei beintio, nid o reidrwydd gan yr artist.

Mae sawl fersiwn gwahanol o sillafiad Catrin. Roedd Catrin ei hun yn sillafu ei henw yn Katherin, Katryn ac yna Katheryn. Roedd hyn yn arfer gyffredin yn y cyfnod. Beren (neu Berain) oedd enw ei chartref yn Sir Ddinbych.

Ffrog felfed

Efallai bod ffrog felfed du hir Catrin yn edrych yn dywyll i ni, ond dyma oedd y ffasiwn diweddaraf yn Sbaen ym 1568.

Ystyriwyd gwisgoedd du yn ffurfiol, urddasol – ac yn ddrud iawn, gan fod llifyn du yn anodd ei gael. Mae ffrog Catrin wedi’i bywiogi â brodwaith cymhleth ar ei llewys a’i choler.

Llyfr gweddi

Yn ôl y chwedlau, blwch yw hwn sy'n cynnwys llwch ei hail ?r, Rhisiart Clwch. Ond roedd yn fyw ym 1568 pan beintiwyd hwn, ac roedd y cwpwl wedi priodi ychydig cyn hynny.

Mae'n fwy tebygol i fod yn llyfr gweddi y mae Catrin er mwyn ei phortreadu ei hun fel Cristion ffyddlon.

Gwregys gadwyn

Mae Catrin yn gwisgo gwregys gadwyn ffasiynol, gan ei ddolennu i fyny i ddangos i ni'r hyn sy'n ymddangos fel loced ar y gwaelod, ond gallai fod yn berbelen neu'n eiddo gwerthfawr arall.

Ysgrifennodd yr hynafiaethydd Thomas Pennant 'Clywais ei bod yn cadw gwallt ei hail ?r a'i hoff ?r yn y loced,' tra bod Haneswyr Celf wedi dweud bod y gadwyn o gwmpas ei gwasg yn symboleiddio ei hufudd-dod fel gwraig.

Benglogau

Yn ôl llên gwerin llofruddiodd Catrin lawer o'i chariadon. Ond nid un o benglogau y rhain yw hwn! Roedd y penglog yn brop cyfarwydd mewn portreadau cynnar. Fe'i gelwir yn ddyfais memento mori, gwrthrych sy'n cynrychioli tynged dyn. Mae'n gydnabyddiaeth i natur ddiflanedig bywyd, ac yn ddatganiad o ostyngeiddrwydd o flaen Duw.

Pan fu farw ail ŵr Cathryn dramor, dychwelodd i Sir Ddinbych gyda'r portread hwn, a bu'r llun yno am bron i bedwar can mlynedd.

Ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd, fe'i gwerthwyd a'i gludo i'r Iseldiroedd. Yno, fe'i gwerthwyd i gasglwr a ddaeth â'r gwaith nôl i Brydain. Yn y pen-draw fe'i prynwyd gan Gyfeillion Amgueddfa Genedlaethol Cymru a gyflwynodd y portread i ni ym 1957.

 

Cysylltiedig