Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Perseus a'r Graiae: Archwilio'r Paentiad

[delwedd: Perseus a’r Graiae Syr Edward Burne-Jones (1833-1898)]

Perseus a’r Graiae Syr Edward Burne-Jones (1833-1898)
1877

Mae'r darn rhyfeddol hwn yn troedio'r ffin rhwng llun a cherflun, a dyma ganolbwynt un o weithiau traethiadol mwyaf uchelgeisiol Burne-Jones.

Ym 1875 comisiynodd yr AS ceidwadol ifanc Arthur Balfour (1848-1930), ddaeth yn Brif Weinidog yn ddiweddarach, gylch o weithiau traethiadol ar gyfer parlwr ei gartref yn Llundain. Dewisodd Burne-Jones chwedl yr arwr Groegaidd Perseus, gan rannu'r stori'n gyfres o ddeg golygfa – chwech paentiad olew a phedwar panel cerfwedd isel. Y bwriad oedd arddangos y deg mewn fframwaith gymhleth o sgroliau acanthws yn uchel ar waliau'r parlwr. Oeraidd oedd yr ymateb i'r gwaith pan gafodd ei arddangos ym 1878 fodd bynnag a chafodd gweddill y gyfres ei anghofio, gan adael y panel hwn fel yr unig esiampl.

Archwilio'r Paentiad

Defnyddiwch y dolenni isod i symud o amgylch y paentiad ac i ddysgu mwy am chwedl Perseus a'r Graiae a hanes cynhyrchu'r gwaith.

Perseus

Un o arwyr chwedlau Groeg oedd Perseus. Roedd yn hanner duw – mab y duw Zeus a Danaë, merch y brenin dynol Argos. Canolbwyntiodd Burne-Jones ar elfennau mwyaf cyfarwydd y chwedl – sut y chwiliodd yr arwr am y gorgon Medusa, gan ei lladd ac achub Andromeda brydferth.

Llygad y Graiae

Tair menyw fythol oedrannus oedd y Graiae, chwiorydd i'r gorgoniaid oedd yn rhannu un llygad ac un dant rhyngddynt. Gwelwn Perseus yn dal eu llygad rhwng ei fysedd. Wrth i'r menywod basio'r llygad o un i'r llall dyma Perseus yn ei dwyn, gan addo ei dychwelyd wedi iddyn nhw ddweud wrtho sut i ganfod Medusa.

Testun Lladin

Adroddir hanes Perseus yn y testun Lladin hir hwn. Cerfiwyd y llythrennau o fahogani cyn eu gorchuddio â geso a gild a'u pinio fesul un i'r panel derw. O edrych yn fanwl gallwn weld y llinellau sialc a dynnwyd yn wreiddiol fel canllaw i'r llythrennau. Defnyddiodd Burne-Jones ddetholiad o fersiwn farddonol o'r chwedl gan ei ffrind agos William Morris (Earthly Paradise, 1868-70).

Wynebau a dwylo wedi'u paentio.

Mae wynebau a dwylo'r ffigurau wedi cael eu paentio ag olew yn syth ar y panel derw a gallwn weld graen y coed drwy'r haen o baent. Gadawodd Burne-Jones weddill y panel heb ei baentio, gan greu cefndir moel i'r ddelwedd.

Gild Geso

Modelwyd cyrff, breichiau a dillad y ffigurau mewn geso cerfwedd isel. Gweithiodd Burne-Jones gyda'r arbenigwr geso Osmund Weeks i greu'r gwaith hynod hwn. Yn draddodiadol, glud croen cwningen a sialc gaiff ei ddefnyddio i greu geso. Byddi'n cael ei osod tra'n wlyb a'i gerfio'n ofalus wedi iddo sychu i greu ffurf a manylion eraill. Byddai'r geso yna'n cael ei baratoi cyn i'r dail aur ac arian gael eu gosod drwy ei baentio (coch dan y darnau aur a llwyd tywyll dan y darnau arian).

Themau