Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Cyrhaeddiad Hirfaith yr Ysbrydwlithen

Cyrhaeddiad Hirfaith yr Ysbrydwlithen

Ysbrydwlithen aeddfed, tua 7cm o hyd.
Ysbrydwlithen aeddfed, tua 7cm o hyd.
Dannedd llafnaidd yr Ysbrydwlithen
Dannedd llafnaidd yr Ysbrydwlithen, pob un tua hanner milimedr o hyd. Mae'r rhain yn llawer hirach ac yn fwy miniog na dannedd rhywogaethau llysysol.
Llun agos o ben y wlithen.
Llun agos o ben y wlithen. Byddai'r llygaid, petasent yn bresennol, wedi'u lleoli ar flaenau'r ddau dentacl uchaf (hiraf).
Adroddiadau cywir am Ysbrydwlithod a dderbyniwyd ers hydref 2013.
Adroddiadau cywir am Ysbrydwlithod a dderbyniwyd ers hydref 2013.

Hawliodd yr Ysbrydwlithen ryfedd y penawdau yn 2008 pan gafodd ei disgrifio fel rhywogaeth newydd o ardd yng Nghaerdydd. Pan ddaethpwyd o hyd i’r sbesimenau cyntaf, ychydig iawn oedd yn hysbys am yr anifail hwn. Ers hynny, mae'r stori wedi cysylltu ein casgliadau a'n harbenigedd gydag aelodau craff o’r cyhoedd ym Mhrydain, rhwydweithiau cofnodi, tacsonomyddion eraill yn Ewrop, a'r cyfryngau. Dyma sut mae’r darlun yn datblygu.

Y rhywogaeth

Er mwyn pwysleisio ei natur frawychus, rhoesom yr enw gwyddonol Selenochlamys ysbryda i’r rhywogaeth, sy’n seiliedig ar y gair Cymraeg ‘ysbryd’. Enillodd yr enw cyffredin ‘Ysbrydwlithen’ ei blwyf o fewn dim. Roedd ei chysylltu â'r genws anghyfarwydd Selenochlamys yn dasg arbenigol oedd yn gofyn am ddyrannu a dadansoddi sawl sbesimen gan gynnwys ein holoteip. (Gyda llaw, mae’r gair Selenochlamys eisoes yn cyfuno’r geiriau Groegaidd am glogyn, a Selene, duwies y Lleuad, ond roedd ‘Ysbrydwlithen dan Glogyn y Lleuad’ yn swnio braidd yn felodramatig).

Mae'r Ysbrydwlithen yn rhyfedd mewn sawl ffordd. Mae'n eithriadol o anodd dod o hyd iddi, gan ei bod yn byw hyd at fetr dan y pridd, a phrin y bydd yn ymweld â'r wyneb. Anaml iawn y ceir niferoedd mawr ohonynt. Mae hyn yn ei gwneud yn wlithen anarferol o anodd chwilio amdani, yn enwedig yng ngerddi pobl eraill neu fannau eraill na ellir palu ynddynt.

Mae hefyd yn nodedig iawn. Ar ôl archwilio un ohonynt, mae’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno y bydd yn aros yn y cof (fel drychiolaeth, efallai?). Mae’r wlithen yn wyn fel rhyw ysbryd, a bron heb lygaid. Nid yw'n bwyta planhigion, ond mae’n lladd ac yn bwyta mwydod, a gall fynd i mewn i’w tyllau gan fod ei chorff yn gallu ymestyn yn hir iawn. Mae’n wahanol i'r rhan fwyaf o wlithod eraill gan fod ganddi dwll anadlu ym mhen pellaf ei chynffon, ac yn tynnu'n ôl fel bys maneg, mae’n ymddangos fel petai’n sugno ei phen ei hun tu chwith. Yn wahanol i rai gwlithod Prydeinig, gellir ei hadnabod o ffotograff da heb unrhyw drafferth. Mae'r lluniau yma’n dangos rhai rhywogaethau tebyg y mae pobl yn drysu rhyngddi hi a nhw yn aml.

Mae'r cyfuniad hwn o fod yn anodd ei gweld ac yn unigryw yn ei gwneud yn rhywogaeth berffaith ar gyfer project cofnodi cyhoeddus. Roedd angen i ni wybod mwy, nid yn unig oherwydd ein chwilfrydedd, ond oherwydd y gallai’r rhywogaeth fod yn fygythiad i boblogaethau pryfaid genwair. Roedd yn ymddangos iddi gael ei chyflwyno o dramor, hynny yw ei bod yn rhywogaeth estron neu anfrodorol, y gallai ei lledaeniad fod yn destun pryder. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Cefn Gwlad Cymru gynt (sy’n rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) am ariannu gwaith arolwg cynnar a rhannu gwybodaeth yn 2009, ac eraill sydd wedi lledaenu'r gair.

Cyfraniadau gan y cyhoedd

Ers 2008, mae ymatebion wedi dod i law gan dros 300 o bobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig (ac ambell un o dramor) ac wedi’u hateb. Roedd cyfran fawr yn achosion o gam-adnabod, ond roedd llawer yn gywir a bellach mae dros 25 o boblogaethau o Ysbrydwlithod yn hysbys. Ar ôl eu gwirio, mae'r cofnodion wedi cael eu cyflwyno i'r Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol trwy . Rydym yn diolch i'r holl ymatebwyr am eu hymdrechion, gan na fyddai braidd dim o'r poblogaethau wedi cael eu cofnodi hebddynt.

Fel y dengys y map, mae'r Ysbrydwlithen yn gyffredin yn ne-ddwyrain Cymru, ac i’w gweld yn yr holl brif gymoedd ac yn ninasoedd Caerdydd a Chasnewydd, ac mewn dau safle ym Mryste. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn brin neu'n absennol mewn rhai ardaloedd cyfagos (fel Abertawe) ac yn sicr nid yw i’w gweld ym mhobman yn y rhanbarth hwn. Daw mwyafrif llethol y cofnodion o erddi, rhandiroedd, neu ymylon ffyrdd a glannau afonydd mewn ardaloedd poblog. Mae hyn yn wir hefyd am un enghraifft annisgwyl, a gofnodwyd yn Wallingford, Swydd Rhydychen ym mis Mai 2013, a allai awgrymu lledaeniad tua'r dwyrain. Does dim dwywaith bod y rhywogaeth wedi hen sefydlu ym Mhrydain ac wedi goroesi gaeafau anarferol o oer, sych neu wlyb y pum mlynedd diwethaf.

Cyfraniadau gan arbenigwyr

Mae'r rhywogaeth hon wedi cael o leiaf 10 mlynedd i ledaenu o gwmpas Prydain, ond nid yw wedi cael ei gweld mewn mannau eraill yng Ngorllewin Ewrop hyd yma. Daw'r cofnodion cynharaf o Eglwys Gadeiriol Aberhonddu yn 2004 (mewn papur o 2009 gan dacsonomyddion yn gweithio yn yr Almaen) ac o Gaerffili yn 2006 (ar fforwm infertebratau sy’n anifeiliaid anwes). Roeddem yn disgwyl iddi fod wedi tarddu o Fynyddoedd Cawcasws Georgia a Rwsia neu o ogledd Twrci, lle mae Selenochlamys eraill i’w cael. Fodd bynnag, mae papur gan dacsonomydd yn Ukrain yn 2012 yn disgrifio sbesimen amgueddfa o S. ysbryda a gasglwyd yn y Crimea ym 1989. Mae hyn yn gwneud rhywfaint o synnwyr - mae nifer o folysgiaid endemig yn y Crimea, ac mae sawl rhywogaeth estron sydd ym Mhrydain erbyn hyn wedi eu disgrifio fel rhai o’r rhanbarth hwnnw’n wreiddiol. Mae gan y DU hanes o wrthdaro a masnach gyda’r Crimea (mae yna le o’r enw Sebastopol ger poblogaeth o wlithod yng Nghwmbrân!) sy’n gwneud y syniad iddi gael ei chyflwyno’n uniongyrchol ond yn ddamweiniol yn gredadwy.

Dadansoddwyd dilyniant DNA o chwech o enghreifftiau o'r Ysbrydwlithen, o Gaerdydd, Casnewydd, Bryste a Thalgarth fel rhan o'n hastudiaethau diweddar o Wlithod Prydain. Roedd y dilyniannau bron yn union yr un fath, gan gefnogi'r ddamcaniaeth nad yw'r rhywogaeth yn frodorol i'r DU.

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi gweld Ysbrydwlithen, gwnewch yn si┼Ár taw dyna beth yw hi mewn gwirionedd (Selenochlamys ysbryda). Gallwch chi wneud hyn drwy edrych ar y fantell a’r llygaid. Mae’r fantell (lle mae’r llinellau llwyd) yn edrych fel haen o groen gyda’r twll anadlu yn aml i’w weld drwyddo.

Mae gan yr Ysbrydwlithen hon fantell fach, gron ar ben ôl y corff. Nid oes smotiau llygaid ar ei deimlyddion (gwelwch y saeth).

Mae gan rywogaethau gwlithod gwyn neu olau eraill fantell fawr fel clogyn dros eu ‘hysgwyddau’ ar flaen y corff a smotiau llygaid du ar flaenau eu dau deimlydd.

Y ddau a welir yma yw’r Wlithen Rwyllog (Deroceras reticulatum) a’r Wlithen Fwydyn (Boettgerilla pallens). Mae’r ddwy rywogaeth yma yn gyffredin iawn mewn gerddi, felly does dim angen adrodd am y rhain wrthon ni.

Y cyfryngau

Cafodd ein hapêl eang help llaw diolch i statws yr Ysbrydwlithen fel tipyn o seren. Yn 2008, ymddangosodd ar y teledu ar BBC News a BBC Cymru, ar y radio ac mewn sawl papur newydd. Cafodd ei henwi ymhlith 10 uchaf y rhywogaethau newydd ar gyfer y flwyddyn 2009 gan yr US International Institute for Species Exploration. Mae wedi ymddangos mewn arddangosfeydd yng Nghaerdydd a Bryste, mewn cwestiynau arholiad mewn ysgolion hyd yn oed. Mae wedi ymddangos mewn nifer o lyfrau hefyd gan gynnwys Animal (Dorling Kindersley, 2011) ac, yn fwyaf diweddar, yn ein canllaw 2014 ni i rywogaethau gwlithod Prydain ac Iwerddon.

Os gwelwch chi hi

 

Er mwyn monitro unrhyw ledaeniad pellach neu gofnodi ymddygiad, rydym yn dal i fod am wybod am unrhyw Selenochlamys ysbryda a gaiff eu gweld, gyda sbesimen neu ffotograff yn brawf o hynny. Ceisiwch sicrhau nad y wlithen rwyllog Deroceras reticulatum yw hi, a ddangosir uchod. I roi gwybod am Ysbrydwlithen, e-bostiwch Ben Rowson.

Erthygl gan: Ben Rowson, Uwch Guradur: Molysgiaid.

Dyddiad yr erthygl: 11 Awst 2014

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar