Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Celf yn yr Eidal 1500-1700: Y Dadeni

Celf yn yr Eidal 1500-1700: Y Dadeni

Cima da Congegliano (1459 - 1517), <em>Y Forwyn a'r Plentyn</em>
Cima da Congegliano (1459 - 1517), Y Forwyn a'r Plentyn, olew ar fwrdd, tua 1500, prynwyd, 1977, NMW A 240
Gweithdy Alessandro Botticelli (1447 - 1510), <em>Y Forwyn yn addoli'r Plentyn gyda'r Sant Ioan Ifanc</em>
Gweithdy Alessandro Botticelli (1447 - 1510), Y Forwyn yn addoli'r Plentyn gyda'r Sant Ioan Ifanc, olew ar fwrdd, cymynrodd gan Gwendoline Davies, 1952. NMW A 241
Amico Aspertini (c.1474 - 1552), <em>Y Forwyn a'r Plentyn rhwng y Santes Helena a Sant Ffransis</em>
Amico Aspertini (c.1474 - 1552), Y Forwyn a'r Plentyn rhwng y Santes Helena a Sant Ffransis, olew ar banel, prynwyd 1986, NMW A 239
Nicolas Poussin (1594 - 1665), <em>Darganfod Moses</em>
Nicolas Poussin (1594 - 1665), Darganfod Moses, 1651, olew ar gynfas, prynwyd, 1988 ar y cyd â'r Oriel Genedlaethol, Llundain, gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol / Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd. NMW A 1
Claude Gellée, Le Lorrain (1600 - 1682), <em>Tirlun gyda Sant Philip yn bedyddio'r Eunuch</em>
Claude Gellée, Le Lorrain (1600 - 1682), Tirlun gyda Sant Philip yn bedyddio'r Eunuch 1678, olew ar gynfas, prynwyd 1982 gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd. NMW A 4

O'r bedwaredd ganrif ar ddeg i'r unfed ganrif ar bymtheg, datblygodd ysgolheigion ac artistiaid yr Eidal ddiddordeb newydd yn niwylliannau hynafol Gwlad Groeg a Rhufain. Aeth penseiri ac artistiaid ati i ail-greu a gwella'r hen fyd drwy ddefnyddio arddull glasurol ar gyfer adeiladau, addurniadau, darluniau a cherfluniau. 'Y Dadeni' yw ein henw ni ar y cyfnod hwn.

Fflorens oedd canolbwynt y Dadeni yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif. Hi oedd canolfan ariannol Ewrop a dinas fwyaf llewyrchus yr Eidal. Gyda chefnogaeth y Medici a theuluoedd blaenllaw eraill, ffynnodd y celfyddydau. O dipyn i beth, lledaenodd y Dadeni i daleithiau dinesig eraill yr Eidal, i ddinasoedd mawr fel Fenis a Milan yn y gogledd, a dinasoedd llai fel Mantua ac Urbino.

O ddiwedd y bymthegfed ganrif ymlaen, bu artistiaid Fflorentaidd fel Leonardo, Michelangelo a Raphael yn gweithio i gyfres o Babau yn y Fatican yn Rhufain.

O ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, dechreuodd syniadau'r Dadeni ledaenu i weddill Ewrop, yn arbennig Ffrainc, yr Iseldiroedd a'r Almaen, ac yn ddiweddarach i Brydain. Byddai artistiaid yn teithio dramor i chwilio am waith a rhannu syniadau, a chynorthwyodd y dechnoleg argraffu newydd i ledaenu arddulliau'n gyflym.

Arddull a Symbolaeth

Celfyddyd Gwlad Groeg a Rhufain glasurol oedd prif ysbrydoliaeth artistiaid y Dadeni. Roeddent hefyd yn ceisio gwella arni, er enghraifft drwy berffeithio'r system newydd ar gyfer persbectif llinol. Mae portreadau peintiedig ac allorluniau, delwau wedi'u cerfio a'u castio, oll yn dangos modd yr artistiaid o astudio cerfluniau, gemau, darnau arian a medalau'r hen fyd. Defnyddiai'r penseiri nodweddion o hen adeiladau Rhufeinig — colofnau, bwâu, cromenni — mewn ffyrdd newydd ac anturus. Cynhyrchwyd amrywiaeth eang o wrthrychau bob dydd, o gadwynau i wydrau gwin, er mwyn creu naws glasurol ym mywydau'r cyfoethogion. A châi'r rhain eu haddurno â motiffau o ffynonellau hynafol.

Byddai elît addysgedig y Dadeni'n prynu gweithiau celf fel symbol o'r rhinweddau cymdeithasol a diwylliannol yr oeddent wedi eu hetifeddu o'r hen fyd. Byddent yn arddangos crefftwaith modern — crochenwaith maiolica, gwydr, darluniau, medalau a ffurfiau efydd — ochr yn ochr â hen bethau clasurol. Rhoddwyd gwerth mawr ar gyfeiriadau clasurol mewn testunau ac mewn addurniadau, yn ogystal â defnydd medrus o ddeunyddiau.

Yn ddiweddarach yn yr unfed ganrif ar bymtheg, datblygodd arddull o orliwio a elwir yn Ddarddulliaeth. O tua 1600 ymlaen, daeth arddull mwy dramatig ac emosiynol y Baróc i'r amlwg — oedd yn addas iawn i hyrwyddo themâu crefyddol y Gwrthddiwygiad Catholig.

Tirlunwyr y Gogledd yn Rhufain

Sbardunodd y Dadeni werthfawrogiad a diddordeb cynyddol ym myd natur. Defnyddiwyd tirluniau'n aml fel cefndir i beintiadau crefyddol. Yn raddol fe ddaeth peintio tirluniau yn fwy derbyniol fel celfyddyd yn ei rhinwedd ei hun yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn yr ail ganrif ar bymtheg, daeth tirluniau'n fwyfwy poblogaidd, er bod straeon clasurol neu Feiblaidd yn dal i fod yn y blaendir yn aml.

Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, heidiodd arlunwyr i Rufain o bob rhan o Ewrop. Cawsant eu denu yno gan brydferthwch ei chefn gwlad a'i hadfeilion clasurol. Yr arlunwyr hyn a ddatblygodd yr arddull a elwid yn dirluniaeth glasurol. Byddai'r arlunwyr Ffrengig, Claude Lorraine a Nicolas Poussin, yn darlunio natur yn llonydd a rhamantus, gan osod pob coeden a chraig yn ofalus i greu cyfanwaith delfrydol a chytbwys.

Sut ddaeth y gweithiau celf hyn i Gymru?

Gwyddom fod ambell i beintiad Ewropeaidd i'w gael yng nghartrefi Cymru yn hanner olaf yr ail ganrif ar bymtheg. Erbyn y 1770au roedd casglu gweithiau celf wedi ennill ei blwyf fel un o ddifyrion y bonedd. Byddai tirfeddianwyr o Gymru, fel Syr Watkin Williams-Wynn, yn prynu peintiadau Eidalaidd, Ffrengig ac Iseldiraidd o'r ail ganrif ar bymtheg. Byddent hefyd yn prynu hynafiaethau clasurol, ac yn comisiynu gwaith gan artistiaid tramor.

Yn sgil diwydiannu yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, crëwyd cyfoeth a chasglwyr celf newydd, gan gynnwys Gwendoline a Margaret Davies, sydd efallai'n fwy adnabyddus am eu casgliad o beintiadau Argraffiadol. Dechreuodd pobl ail-ymddiddori yn hen gelfyddyd y Dadeni.

Bydd rhai o'r peintiadau gan yr Hen Feistri yn Amgueddfa Cymru, yn hongian mewn plastai gwledig yng Nghymru ar un adeg. Casglwyr o Gymru gyflwynodd rhai eraill o'r gweithiau i'r Amgueddfa. Maent yn adrodd hanes difyr am y modd y mae cenedlaethau o bobl wedi gwerthfawrogi celf yng Nghymru.

Dyddiad yr erthygl: 28 Medi 2010

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar