Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Rhyfeddod Euraidd! Trilobit ffosil prin wedi'i gadw'n berffaith.

[delwedd: Ffosil euraidd yr Amgueddfa o Chwarel Martin, Talaith Efrog Newydd. Mae'r trilobit mwyaf tua 3cm o hyd]

Ffosil euraidd yr Amgueddfa o Chwarel Martin, Talaith Efrog Newydd. Mae'r trilobit mwyaf tua 3cm o hyd

[delwedd: Mae sbesimen Triarthrus eatoni bach yn gorwedd ger yr un mwyaf. Roedd trilobitau o wahanol oed yn cael eu ffosileiddio gyda'i gilydd ac mae'n rhaid eu bod yn byw yn yr un lle. Dim ond larfau sydd ar goll.]

Mae sbesimen Triarthrus eatoni bach yn gorwedd ger yr un mwyaf. Roedd trilobitau o wahanol oed yn cael eu ffosileiddio gyda'i gilydd ac mae'n rhaid eu bod yn byw yn yr un lle. Dim ond larfau sydd ar goll.

[delwedd: Pâr o gyrn main a llawer o goesau wedi'u cadw'n berffaith]

Pâr o gyrn main a llawer o goesau wedi'u cadw'n berffaith

[delwedd: Adluniad C. E. Beecher o Triarthrus eatoni ym 1893 yn seiliedig ar ffosilau o'i Wely Trilobit]

Adluniad C. E. Beecher o Triarthrus eatoni ym 1893 yn seiliedig ar ffosilau o'i Wely Trilobit. Mae dwy gangen i'r coesau, coes gerdded fewnol a thagell allanol gyda ffilamentau mân

Mae trilobitau'n gyffredin mewn creigiau yng Nghymru, ond mae'r sbesimen prin hwn yn wahanol i eraill yn ein casgliad. Mae'r coesau wedi'u cadw o dan yr argragen a phâr o gyrn main ('teimlyddion') ar y pen. Mae'r nodweddion lliw aur hyn yn gwbl glir yn erbyn cefndir siâl du. Mae ffosilau eithriadol fel hyn yn rhoi blas gwirioneddol i ni ar y ffordd yr oedd trilobitau'n symud, yn bwydo ac yn synhwyro'r byd o'u cwmpas.

Roedd gan bob trilobit goesau a chyrn pan yn fyw, ond roedd y rhain yn gymharol feddal ac yn pydru fel arfer cyn iddynt ffosileiddio. Dim ond rhannau o sgerbwd allanol neu argragen yw'r rhan fwyaf o ffosilau trilobit ac nid ydynt yn dweud llawer wrthym am rannau mwy meddal y corff.

Pam mae'r trilobit yn euraidd?

Mae'r lliw euraidd oherwydd bod yr anifail wedi'i ffosileiddio mewn pyrit, sydd hefyd yn cael ei alw'n byrit haearn, neu Aur Ffyliaid. Peth prin iawn yw gweld rhannau corff meddal wedi'u ffosileiddio, a dim ond mewn un neu ddau o lefydd yn y byd y gwelir hyn. Daw'r ffosil hwn o greigiau o'r cyfnod Ordoficaidd (tua 455 miliwn o flynyddoedd yn ôl) o Dalaith Efrog Newydd yn UDA. Mae ffosilau corff meddal mewn pyrit i'w gweld hefyd yn llechen llawer ifancach Hunsrück yn yr Almaen – o'r cyfnod Defonaidd cynnar (tua 390 miliwn o flynyddoedd yn ôl).

Mwyn sylffad haearn (FeS2) yw pyrit, a gall ffurfio mewn lefelau ocsigen isel lle ceir llawer o haearn. Mae'n debyg bod y trilobitau wedi'u hysgubo gan dirlithrad dan y dŵr a'u claddu mewn mwd yn nyfnderoedd y môr.

Byddai'r mwd wedi bod yn llawn sylffadau a haearn toddedig, ond heb fawr ddim ocsigen. Byddai bacteria lleihau sylffad wedi helpu i bydru'r trilobitau, gan ryddhau sylffidau. Cyfunodd y sylffidau gyda'r haearn toddedig i ffurfio pyrit, a ddisodlodd neu a orchuddiodd feinweoedd y trilobitau wrth iddynt bydru.

Gwely Trilobit Beecher

Rydym yn gwybod am drilobitau pyritig o Wely Trilobit enwog Beecher yn Nhalaith Efrog Newydd ers canrif a mwy. Darganfuwyd y gwely gan y casglwr ffosilau amatur William S. Valiant ym 1892, ond mae wedi'i enwi ar ôl Charles Emerson Beecher, academydd o Brifysgol Yale a welodd ganfyddiadau trilobit anhygoel Valiant. Prydlesodd Beecher y tir rhwng 1893 ac 1895, a chloddiodd am gymaint o ffosilau ag y gallai, tan iddo gredu nad oedd unrhyw beth arall ar ôl i'w ganfod. Ysgrifennodd sawl papur gwyddonol am y trilobitau cyn iddo'n farw'n sydyn ym 1904. Canfuwyd y trilobitau mewn un haen denau (4cm) o graig, a osodwyd yn ei lle tua 455 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yn ystod y cyfnod Ordoficaidd.

Cafodd y Gwely Trilobit ei ailddarganfod ym 1984 ac ers hynny, mae mwy o welyâu yn cynnwys trilobitau euraidd wedi'u canfod yn Nhalaith Efrog Newydd. Yn 2004, dechreuodd casglwr amatur chwilio tua 50 milltir i ffwrdd, cyn dod o hyd i haen o graig o'r un cyfnod yn cynnwys trilobitau. Daw ein sbesimen o'r chwarel newydd hon, a elwir bellach yn Chwarel Martin ar ôl ei darganfyddwr. Mae nifer o ffosilau pwysig wedi'u canfod yn Chwarel Martin a'u hastudio gan yr Athro Derek Briggs o Amgueddfa Peabody Yale a'i gydweithwyr.

Tyfu i Fyny

Mae gan ein sbesimen (Triarthrus eatoni) ail drilobit bach iawn wrth ymyl yr un mwy. Roedd trilobitau yn tyfu o larfa i oedolyn trwy fwrw croen sawl gwaith. Wrth heneiddio, roeddynt yn cael gwared ar eu hen sgerbydau allanol yn gyson i dyfu'n fwy. Mae Triarthrus o faint amrywiol iawn wedi'u canfod yn y Gwely Trilobit, ond ni chanfuwyd dim o'i gyfnod larfal cynharaf. Roedd yn amlwg bod trilobitau o wahanol oed yn cyd-fyw, ond mae'n rhaid bod y larfau wedi byw yn rhywle arall. Efallai eu bod yn arnofio o gwmpas fel plancton yn y golofn ddŵr, tra bod rhai iau mwy ac oedolion yn byw ar wely'r môr.

Erthygl gan: Lucy McCobb, Uwch Curadur Palaeontoleg

Dyddiad yr erthygl: 2 Awst 2013

3 sylw

John Mason ar 31 Ionawr 2014, 11:18

Hi Sue -

I've also found that pyrite decay is temperature-sensitive, so storage in a fridge will help slow the problem down a lot.

Cindy Howells (Geology Collections Manager, National Museum of Wales) ar 23 Medi 2013, 09:10

Hi Sue,
The pyrite that you have had problems with is probably from much younger fossils - Jurassic ammonites etc. These trilobite fossils are preserved in a more stable form of pyrite and they don't seem to be at all sensitive to damp environments. We do keep it in a prtective box, just to be sure though.
Some pyritised fossils will decay no matter what, but others are more stable. As a general rule though, keep them very dry, in a dry room (not on a windowsill or bathroom). They react strongly to changes in humidity, so ideally they might be in a sealed plastic box with a sachet of silica gel beside them. This will absorb moisture and can be refreshed once a month or so by drying it out on a radiator.

Sue Harris ar 18 Medi 2013, 20:32

This sounds great but how are you going to keep the pyrite from disintegrating? I have had many fossils and tried ways to stop the process happening with not much success.

Gadael sylw


Geirfa

Infertebratau
Anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Trillabedog
Arthropod morol sydd erbyn hyn wedi darfod sy'n perthyn o bell i farchgrancod gyda nifer o goesau cymalog a chorff wedi'i rannu'n dair adran ar ei hyd.

Ordoficaidd
Cyfnod amser daearegol 488-443 miliwn o flynyddoedd yn ôl

Arthropod
Anifail di-asgwrn-cefn ag argragen allanol galed a llawer o goesau cymalog, e.e. pryfed, crancod.

Bacteria lleihau sylffad
Bacteria sy'n ymddatod defnydd organig pan nad oes ocsigen yn bresennol, gan gynhyrchu sylffidau yn isgynnyrch.

Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: