Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Graham Sutherland: Adnabod yr Artist

Graham Sutherland: Adnabod yr Artist

Graham Sutherland c.1940
Graham Sutherland c.1940 © Ystad Graham Sutherland
Pastoral, 1930 (NWM A 4042)
SUTHERLAND, Graham
Pastoral, 1930 (NWM A 4042)
© Ystad Graham Sutherland
Welsh Landscape, 1936 (NWM A 4403)
SUTHERLAND, Graham
Welsh Landscape, 1936 (NWM A 4403) © Ystad Graham Sutherland
Feeding a Furnace, 1942 (NWM A 4628)
SUTHERLAND, Graham
Feeding a Furnace, 1942 (NWM A 4628) © Ystad Graham Sutherland
SUTHERLAND, Graham <em>Di-deitl, Ffurf fel Ton</em>, 1976 (NMW A 2271)
SUTHERLAND, Graham
Di-deitl, Ffurf fel Ton, 1976 (NMW A 2271) © Ystad Graham Sutherland

Disgrifiwyd Graham Sutherland fel 'arlunydd gorau ei genhedlaeth'. Cafodd y llefydd lle bu Sutherland yn gweithio ddylanwad mawr ar ei waith: o dirwedd wledig Caint i fryniau a chymoedd gorllewin Cymru a gwres a golau de-ddwyrain Ffrainc.

Sutherland fel printiwr yn Goldsmiths yng nghanol y 1920au. Mae coed a choedwigoedd yn thema gyson yng ngwaith Sutherland, o'r golygfeydd cefn gwlad hiraethus yn ei waith cynnar, i'r coed moel ac afluniaidd yn ei luniau diweddarach. Mae coed yn ymdebygu i greaduriaid yn aml, a gallant fynegi emosiwn a theimlad corfforol.

Sutherland yn Sir Benfro

Ymwelodd â Sir Benfro am y tro cyntaf ym 1934, gan ddweud wedyn mai yno 'y dechreuodd ddysgu paentio'. Roedd yn cofio cael ei gyfareddu gan 'eithin cam ar ymyl clogwyn... y blodau a'r pantiau llaith... y cymoedd gwyrdd dwfn a'r bryniau crwn a'r holl ffurfiant syml a chymhleth'.

Yn Sir Benfro, darganfu Sutherland dirwedd yn llawn 'hynodrwydd bendigedig' ond teimlai hefyd ei fod ef yn 'rhan annatod o'r ddaear' fel yr oedd ei nodweddion yn rhan ohono ef.

Ymwelodd Sutherland â gweithiau dur yng Nghaerdydd ac Abertawe ym 1941 a 1942. Fel sy'n wir am ei luniau cynharach o goed a thirluniau, roedd Sutherland yn cyffelybu gwaith y ffowndri i greaduriaid byw. Ysgrifennodd: 'fel y mae'r llaw yn bwydo'r geg, felly plymiai rhofiau hir i mewn i agoriad y ffwrnais i'w bwydo, ac wrth dywallt haearn tawdd i mewn i'r lletwadau mawr, roedd y cynhwysyddion metel yn ymddangos fel petai ganddynt gegau mawr cramennog.'

Wrth ddisgrifio ei brofiad cyntaf o dde Ffrainc ym 1947, dywedodd Sutherland: 'Fe ddes i adnabod Cézanne go iawn ar ôl gweld Provence am y tro cyntaf, ac yn sydyn iawn roedd paentiad Van Gogh yn fy nghyffroi o'r newydd'. Cafodd ei annog i ymweld â'r ardal yn wreiddiol gan ffrindiau fel Francis Bacon.

Roedd Sutherland wrth ei fodd ar unwaith gyda'r hinsawdd heulog a phlanhigion ac anifeiliaid diddorol yr ardal. Ym 1956 prynodd ef a'i wraig villa modernaidd a gynlluniwyd gan y pensaer o Iwerddon, Eileen Gray. Treuliodd Sutherland lawer o'r flwyddyn yn byw yn y tŷ hwn, ar ochr bryn ger tref arfordirol Menton, weddill ei oes.

Yn Ffrainc, darganfu Sutherland amrywiaeth o ffurfiau newydd i'w ysbrydoli. Aeth ati i astudio, dadansoddi ac aildrefnu ffurfiau palmwydd, gowrd, indrawn a gwreiddiau. Câi'r pethau hyn eu portreadu fwyfwy fel creaduriaid neu ffigyrau wedi'u dal mewn proses o fetamorffosis. Mae dail palmwydd yn awgrymu haul, gwres a natur estron de Ffrainc. Ar ôl caledi a thristwch blynyddoedd y rhyfel, mae'n rhaid eu bod wedi ymddangos yn egsotig. Fodd bynnag, y mae mwy iddynt na dim ond cyrchfan gwyliau. Mae ymylon llym iawn y dail yn atgoffa rhywun o natur bigog astudiaethau drain cynharach Sutherland. Maent yn awgrymu'r posibilrwydd bod pleser a phoen yn cyd-fodoli.

SUTHERLAND, Graham <em>Study of a Palm Frond</em>, 1947 (NWM A 4101)
SUTHERLAND, Graham
Study of a Palm Frond, 1947(NWM A 4101)

Ym 1967 dychwelodd Sutherland i orllewin Cymru am y tro cyntaf ers dros 30 o flynyddoedd. Ddegawd bron yn ddiweddarach, ac yntau wedi bod yn gweithio'n rheolaidd yn yr ardal unwaith eto, eglurodd ei fod wedi gwneud 'camgymeriad mawr' am iddo gredu na allai'r lle gynnig rhagor o ysbrydoliaeth iddo. Yn groes i'w ddisgwyliadau roedd eto wedi ymgolli yn yr awyrgylch rhyfeddol — sy'n dawel ac eto'n llawn cyffro hefyd.

Roedd Sutherland yn awyddus i adael casgliad i Gymru am iddo 'dderbyn cymaint gan y wlad hon, hoffwn roi rhywbeth yn ôl'.

Ym 1976 sefydlodd Oriel Graham Sutherland yng Nghastell Picton a oedd yn gartref i'r rhan fwyaf o'r casgliad hwn nes iddo gael ei drosglwyddo Amgueddfa Cymru ym 1995.

Trefnwyd yr erthygl hon gan Rachel Flynn fel rhan o Ddyfarniad Doethuriaeth ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Bryste a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Gweld rhestr o weithiau Graham Sutherland ar Celf Arlein

Dyddiad yr erthygl: 14 Mai 2012

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar