Gêm olaf Parc y Strade

Yma o Hyd

Stradey Park

Ar 24 Hydref 2008 chwaraewyd y gêm olaf o rygbi ym Mharc y Strade, Llanelli. Roedd y stadiwm dan ei sang i ffarwelio â chant a naw ar hugain o flynyddoedd o hanes. Roedd y gêm ei hun, yn erbyn Bryste yng nghwpan yr EDF, bron yn angof wrth i bobl hel atgofion am y dyddiau gynt ac am hoff chwaraewyr. Roedd Ian Smith, o Amgueddfa Cymru yno i gofnodi'r golygfeydd emosiynol mewn lluniau a geiriau ar gyfer cenedlaethau i ddod. Dyma stori'r noson honno.

Am chwarter wedi chwech ar 24 Hydref 2008 roedden ni'n teithio ar hyd ffordd yr arfordir tua Llanelli. Roedden ni newydd basio'r gylchfan 'wigwam' â'r haul yn isel yn yr awyr a'r golau'n llafnu drwy'r cymylau ac yn llamu oddi ar y môr i'r gorllewin. Roedden ni ar ein ffordd i'r Strade...am y tro olaf.

Roedd byddin ysgarlad yn ymlwybro i'r hen faes. Roedd Parc y Strade yn fwy na maes chwarae. Roedd yn fan cyfarfod; lle arbennig yn llawn campau arwrol; arena fodern lle bu gladiatoriaid yn brwydro bob penwythnos; lle i alaru lle ymgasglodd pawb i ffarwelio ag un o feibion hoff Cymru; lle fu'n llenwi bywydau pobl ac yn orffwysfa derfynol i rai gafodd eu gweddillion wedi'u gwasgaru ar y gwair.

Mae'n rhyfedd sut y gall lle dreiddio i'ch henaid.
Byddwch chi wedi mynd yno'n blentyn gyda Mam neu Dad.
Wedi tyfu i fyny yno gyda'ch ffrindiau.
Wedi mynd â'ch plant a'ch wyrion yno, lle mae dieithriaid yn gwneud ffrindiau ac yn chwerthin, canu, gweiddi a chrio gyda'u gilydd.

Arogl y gwair gwlyb, y cwrw wedi'i ollwng, y byrgyrs a'r winwns, y cotiau glaw a'r cotiau gwlân yn wlyb diferu. Y wal o sŵn; y clegar a'r sgyrsiau; y canu, y cyrn a'r tanoi croch fydd neb byth yn ei ddeall. Craffu drwy ddagrau ar nosweithiau gwyntog ar lynnoedd o olau gwyrdd. Y dorf wedi'i gwasgu yn gwthio a hyrddio i weld yn well ond eto'n gysurus yng ngwres y dyrfa ar brynhawniau rhewllyd gaeaf.

Mae'r hiraeth sy'n cronni am hyn yn anhygoel. Allwch chi byth ei esbonio i rywun sydd erioed wedi ei deimlo.

Byddai'r frwydr i gyrraedd y babell gwrw yn waeth nag unrhyw sgarmes ar y cae. Allwch chi byth fwynhau gêm yn iawn heb ddiod yn eich llaw, fel tlws lwc dda neu flanced babi, po dynnaf yw'ch gafael arno, y gorau fydd chwarae'r tîm!

Roedden ni yn y Strade bellach, y llifoleuadau'n dallu a'n troi nos yn ddydd a phob lliw yn llachar a chlir. Mor o goch yn torri ar ynys werdd. Stiwardiaid yn eu crwyn banana yn gwarchod rhag i draed diofal adel eu hôl yn y tir cysegredig.

Yna dechreuodd y seremoni. Derbyniodd gorymdaith o enwau cyfarwydd gymeradwyaeth a bonllefau'r dorf wrth i ni gofio brwydrau a fu. Wrth i'r cof gael ei brocio, agorwyd sgyrsiau am ddyddiau a ffrindiau'r oesoedd gynt.

Craciodd y tanoi'n sydyn, a taniodd y tensiwn gan ymestyn i'n cyffwrdd. Ffurfiodd y plant osgordd ger y twnnel gan chwifio'u baneri, pob wyneb hapus yn wên o fan hyn i draeth Cefn Sidan. Cyhoeddwyd enwau dewrion Bryste, gwrthwynebwyr y noson, wrth iddyn nhw gamu i'r cae. I gyfeiliant gwawdio chwareus a chwibanu, dyma nhw'n ymgasglu yng nghanol y cae heb ddeall yn iawn beth oedd o'u blaenau.

Dechreuodd yn dawel i ddechrau, prin y gallem ei glywed dros y sŵn byddaro. Wrth i'r gerddoriaeth godi ymunodd pawb a bloeddio Yma o Hyd, anthem deilwng i'r Strade, ac i Gymru gyfan.

Goleuodd y tanau anferth wynebau'r dorf a rhedodd y tîm allan i fonllefau byddarol.

Ymgasglodd Bryste yng nghanol y cae heb deall yn iawn beth oedd o'u blaenau.

Ail oedd y rygbi'r noson honno, er bod pawb yn hynod falch bod y Scarlets wedi ennill eu gêm olaf yno. Roedd yr ornest drosodd erbyn hanner amser ac roedden ni i gyd yn edrych ymlaen at glywed llais swynol Caryl Parry Jones yn canu West is Best yn ystod yr egwyl. Cododd lefel yr emosiwn unwaith eto, ac wrth i'r ail hanner ddechrau roedd y rhan fwyaf o 'wylwyr' yn hel atgofion ac yn adrodd eu hoff straeon am y Strade. Diflannodd deugain munud mewn eiliadau. Dyma'r timoedd yn ysgwyd llaw a Bryste yn fonheddig iawn yn aros ar y cae am y finale fawr — bellach yn deall beth oedd o'u blaenau.

Daeth dau gôr mawreddog i'r cae, Côr Meibion Llanelli a Chôr y Scarlets a ganodd Sospan Fach a Hen Wlad fy Nhadau. Roedden ni i gyd yn crynu bellach, a balchder yn llenwi ein calonnau.

Daeth y canu i ben â deigryn ym mhob llygad, a diffoddwyd y goleuadau wrth i'r siarad droi at y dyfodol ym Mharc y Scarlets. Aeth pawb o'm cwmpas yn dawel, yn ail-fyw eu hoff foment o'r Strade maen siŵr.

Dechreuodd rhai pobl adael, ond cyhoeddodd y tanoi bod yr arddangosfa tân gwyllt ar fin dechrau!

Cyneuwyd fizzers ar y cae i ddechrau, gyda lliw gwyn llachar yn newid cyn hir yn ffrwydriadau ysgarlad oedd yn llenwi awyr oer y nos. Taranau i fwrw allan unrhyw ysbrydion o'r Strade?

Roedd ffrwydriadau ym mhobman bellach, a'r wawr goch yn adlewyrchu yn wyneb pob plentyn wrth iddyn nhw syllu i'r awyr mewn rhyfeddod. Cerddodd y corau o'r cae i gymeradwyaeth dwymgalon wrth i'r clecian ddistewi a'r wawr goch ddiflannu. Yna, cerddodd y tîm o amgylch y Strade gan gydnabod eu cefnogwyr selog, gyda'n capten, Simon Easterby yn cario ei faban yn ei freichiau.

Daeth popeth i ben. Doedd neb am adael mewn gwirionedd ond roedd pawb yn gwybod yn y bôn bod yn rhaid i bopeth yn dod i ben, ac y bydd can mlynedd ym Mharc y Scarlets yn creu cymaint o atgofion â'r hen stadiwm.

Dyddiad yr erthygl: 19 Ebrill 2011

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar