Capten Scott yn hwylio o Gaerdydd

SS Terra Nova

Robert Falcon Scott (1868-1912) oddeutu 1905
Robert Falcon Scott (1868-1912) oddeutu 1905

Ar 15 Mehefin 1910 gwaeddodd tyrfa fawr, gynhyrfus a swnllyd nerth eu pennau wrth i long dan bwysau llwyth trwm adael Basn y Rhath, yn nociau Caerdydd. Roedd yr SS Terra Nova yn mynd am y de - i'r Antarctig. Ar ei bwrdd roedd y Capten Robert Falcon Scott ac aelodau o'i Alldaith Brydeinig i'r Antarctig, a oedd yn anelu i fod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De.

Glo Cymreig

Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910
Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910

Roedd y Terra Nova wedi cyrraedd Caerdydd bum niwrnod ynghynt i baratoi ar gyfer ei thaith ac i lwytho tanwydd. Darparodd cwmnïau glo Cymru dri chan tunnell o Danwydd Patent y Goron a chan tunnell o lo stêm, ynghyd â phum can galwyn o olew peiriannau ac olew lampau - a hynny'n rhad ac am ddim. Y Cwmni Tunplat Cymreig o Lanelli ddarparodd yr holl offer coginio ar gyfer y daith, a phrynwyd sach gysgu Capten Robert Falcon Scott gydag arian a godwyd gan Ysgol y Sir yn Aberteifi. Yn ogystal â chymorth mewn da, codwyd £2,500 pellach yng Nghaerdydd, mwy nag yn unrhyw ddinas arall. Yn lleol, y noddwyr unigol mwyaf, a dau o gefnogwyr mwyaf brwd y fenter, oedd y perchnogion llong o Gaerdydd, Daniel Radcliffe a William J. Tatem. Chwaraeodd y ddau ran bwysig wrth godi arian a sicrhau arian nawdd o blith cymunedau busnes Cymru, a drwy ddarparu cyfleusterau doc ar gyfer y Terra Nova. Cymaint oedd y gefnogaeth i'r daith yng Nghymru fel y dynodwyd Caerdydd yn borthladd cartref y Terra Nova, ac i Ddoc Bute y dychwelodd ar ddiwedd yr alldaith ar 14 Mehefin 1913.

Pam Caerdydd?

Ar fwrdd y Terra Nova yng Nghaerdydd, 17 Mehefin 1913.
F.C. Bowring (blaen ar y chwith) a Daniel Radcliffe (blaen ar y dde) gyda'r Comander E.R.G.R. Evans (mewn het silc) ar fwrdd y Terra Nova yng Nghaerdydd, 17 Mehefin 1913.

Ym Mehefin 1909, cyfarfu William Davies, golygydd y Western Mail, a swyddog llynges ifanc, yr is-gapten E.R.G.R. Evans, a oedd yn trefnu ei alldaith ei hun i'r Antarctig. Roedd Davies yn awyddus iawn i gefnogi'r hyn a ystyriai yn Alldaith Antarctig Genedlaethol Gymreig - mae'n debygol mai brodor o Gaerdydd oedd tad-cu Davies - a chredai y byddai busnesau Caerdydd yn cefnogi menter o'r fath.

Yn fuan wedi hynny, clywodd Evans am alldaith arfaethedig Scott, ac ymunodd ag ef fel dirprwy, gan ddod a chefnogaeth golygydd y Western Mail, a'r posibilrwydd o noddwyr Cymreig, gydag ef. Roedd Davies yn allweddol nid yn unig o ran ennill cefnogaeth busnesau a chyhoedd Cymru ar gyfer alldaith Scott, ond hefyd drwy ddwyn perswâd ar ei gydwladwr, Canghellor y Trysorlys, David Lloyd George, i ddarparu grant llywodraeth o £20,000. Yn wir, heb ddylanwad Davies, cefnogaeth y Western Mail, a'r perchnogion llong Cymreig, ni fyddai Capten Scott wedi gadael mewn pryd i gyrraedd y Pegwn yn 1912.

Roedd yna Evans arall yng nghriw'r Terra Nova, sef Is-swyddog Edgar Evans o Rhosili, Gŵyr. Roedd wedi bod yn yr Antarctig gyda Scott ar alldaith y Discovery yn 1901-4, ac fe'i dewiswyd gan Scott i fod yn aelod o'i fintai ar alldaith 1910-12. Evans oedd y cyntaf i farw ar yr ymdaith yn ôl o Begwn y De.

Coffâd

Y Terra Nova yn gadael Caerdydd, 15 Mehefin 1910
Y Terra Nova yn gadael Caerdydd, 15 Mehefin 1910

I goffáu cysylltiadau Scott â Chaerdydd codwyd goleudy ym 1915 ym Mharc y Rhath a gosodwyd plac efydd ar risiau Neuadd y Ddinas ym 1916. Ym Mehefin 2003 datgelwyd cerflun coffaol ym Mae Caerdydd.

Erthygl gan: Tom Sharpe (Adran Ddaeareg) a David Jenkins (Adran Ddiwydiant)

Dyddiad yr erthygl: 9 Mehefin 2010

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar