Rydych chi yn: Archwilio'r Casgliadau > Sir William Reardon Smith (1856-1935)

Sir William Reardon Smith (1856-1935)

Gall y rhan fwyaf o amgueddfeydd ddiolch un cymwynaswr yn arbennig am newid eu byd; Syr William Reardon Smith oedd y gŵr hwnnw yn achos Amgueddfa Cymru.

Fel trysorydd (1925-28) a llywydd (1928-32) yr Amgueddfa, Syr William Reardon Smith fu'n gyfrifol am wyrdroi cyflwr echrydus coffrau'r Amgueddfa, a goruchwylio'r gwaith o gwblhau adain ddwyreiniol fawreddog Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy'n rhan annatod o ganolfan ddinesig unigryw Caerdydd.

Nid Cymro oedd Reardon Smith; cafodd ei eni i deulu morwrol ym mhentref glan môr Appledore ar arfordir gogledd Dyfnaint ar 7 Awst 1856.

Gwas llong

Pan oedd Syr William yn 3 oed, bu farw ei dad pan suddodd ei sgwner mewn storm ar y môr ger Porth Tywyn. Er gwaethaf hyn, daeth Reardon Smith yn was caban pan oedd yn dal i fod yn ei arddegau cynnar. Dechreuodd trwy weithio ar longau lleol oedd yn ymwneud â busnesau arfordirol ardal Môr Hafren. Aeth ymlaen wedyn i wasanaethu ar y llongau hwylio oedd yn cludo deunydd i adeiladu rheilffyrdd i UDA a mwyn copr i Chile.

Y Capten Reardon Smith

Ag yntau ond yn 22 oed, daeth yn gapten ar nifer o longau hwylio ac agerlongau, y mwyafrif ohonynt yn eiddo i'r cwmni llongau enwog o'r Alban, Hugh Hogarth of Glasgow. Symudodd i Gaerdydd gyda'i wraig a'i deulu ym 1900.

Ym 1905, sefydlodd gwmni i brynu a gweithredu agerlong newydd, y City of Cardiff. Dyma oedd ei wir alwedigaeth. Bu'r fenter yn llwyddiant ysgubol, ac erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ganddo naw agerlong cargo, oll yn allforio glo o'r de.

Er iddo golli sawl llong wrth law'r llongau tanfor yn ystod y Rhyfel, daliodd ati i ehangu ei lynges. Erbyn 1930, roedd Reardon Smith yn gyfrifol am dros 35 o longau.

Syr William

Gwnaed Syr William yn farwnig ym 1920, a throdd ei sylw mwyfwy at weithgareddau dyngarol. Sefydlodd Ysgol Forwrol Reardon Smith ym 1921. Pedair blynedd yn ddiweddarach, prynodd fad hwylio mawr, y Margherita, i'w ddefnyddio fel cwch hyfforddi ac fel bad hamdden i'w deulu.

Cyfrannodd yn hael at Ysbyty Brenhinol Caerdydd a hefyd at gost adeiladu ysbyty newydd yn Bideford. Gwaddolodd gadair athro yn adran ddaearyddiaeth Prifysgol Caer-wysg, sy'n dwyn ei enw hyd heddiw.

Ond Amgueddfa Genedlaethol Cymru oedd prif ffocws ei haelioni. Rhwng 1915 a 1935, cyfrannodd ef a'i wraig, y Fonesig Ellen, rhyw £150,000 at goffrau'r Amgueddfa.

Yn ogystal â'r rhoddion personol yma, gweithiodd yn ddiflino i godi arian o ffynonellau eraill. Er mwyn cydnabod ei gyfraniad, enwyd y ddarlithfa newydd a agorwyd yn adain ddwyreiniol yr Amgueddfa ym 1932 yn Ddarlithfa Reardon Smith.

Bu farw Syr William ar 23 Rhagfyr 1935 yn dilyn salwch byr. Mae'r byd yn cofio amdano nid yn unig am ei lwyddiant fel perchennog llongau ond hefyd am ei haelioni neilltuol. Dewisodd wario ei ffortiwn ar newid byd pobl eraill, ac am hynny, mae trigolion de Cymru a gorllewin Lloegr yn ddyledus iddo hyd heddiw.

Erthygl gan: David Jenkins.

Dyddiad yr erthygl: 15 Hydref 2009

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:
starstarstarstarstar

Delweddau:
starstarstarstarstar

Arddull a darllenadwyedd:
starstarstarstarstar