Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

James Pyke Thompson (1846-1897)

[delwedd: Fair Rosamund - Dante Gabriel Rossetti (1861)]

Mae 'Fair Rosamund' (Dante Gabriel Rossetti, 1861) yn ymddangos yma y tu ôl i falwstrad ym maenor brenhinol Woodstock. Roedd y model, Fanny Cornforth, yn modelu'n gyson ar gyfer Rossetti, ac wedi marwolaeth ei wraig, Elizabeth Siddall yn 1862, aeth yn wraig cadw tŷ iddo. 1861. Olew ar gynfas.

[delwedd: James Pyke Thompson, 1846-1897]

James Pyke Thompson, 1846-1897

[delwedd: Llun artist o felin gyntaf Spillers yng Nghaerdydd, a ddinistriwyd gan dân ym 1882]

Llun artist o felin gyntaf Spillers yng Nghaerdydd, a ddinistriwyd gan dân ym 1882

Roedd James Pyke Thompson yn un o gymwynaswyr pennaf Amgueddfa Cymru. Cymynodd ei gasgliad celf i'r Amgueddfa, a rhoi symiau mawr o arian i sicrhau datblygiad Amgueddfa Cymru.

Ganwyd James Pyke Thompson yn Bridgwater yng Ngwlad yr Haf. Roedd yn perthyn i Samuel Browne, oedd yn bartner yng nghwmni melino Spillers, a sefydlwyd gan Joel Spiller yn Bridgwater ym 1829.

Gwelodd diwydiant melino'r DU newidiadau mawr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Daeth melinau mawr wedi'u pweru gan stêm i gymryd lle'r hen felinau dŵr a gwynt gwledig, ac fe'u hadeiladwyd yn y porthladdoedd mawr i brosesu'r cyfaint cynyddol o rawn oedd yn cael ei fewnforio i fwydo'r boblogaeth.

Spillers yng Nghaerdydd

Agorodd Spillers felin o'r fath yng Nghaerdydd ym 1854.

Yn dilyn marwolaeth gynnar Joel Spiller y flwyddyn cynt ac ymddeoliad Samuel Browne, daeth y busnes i feddiant y teulu Thompson.

Ym 1864 y dechreuodd James Pyke Thompson reoli Spillers yng Nghaerdydd ar y cyd â'i dad. Ymgartrefodd mewn tŷ crand ym Mhenarth o'r enw Redlands, a byddai yntau a'i wraig Sarah yn chwarae rôl flaenllaw yn eglwys Undebol West Grove.

Casglwr celf brwd

Cyn ymuno â'r cwmni, treuliodd Pyke Thompson flwyddyn ym Mharis, lle datblygodd ei ddiddordeb mewn celf gain. Roedd ei gasgliad yn cynnwys paentiad hynod yr artist cyn-Raphaelaidd, Dante Gabriel Rossetti, Rosamund Deg (a brynwyd gan yr artist am £72-9-0d ym 1885), wyth print ar hugain gan Turner, dros saith deg o luniau dyfrlliw gan artistiaid Prydeinig amrywiol a chasgliad coeth o borslen Caerwrangon, Chelsea, Nantgarw ac Abertawe.

Roedd Pyke Thompson am i'r cyhoedd rannu ei gasgliad. Ym 1887 adeiladodd oriel ar dir ei gartref a'i galw yn Dŷ Turner. Fe agorodd ar 27 Mehefin 1888, ac roedd ar agor ar brynhawniau Sul, pwnc llosg ar y pryd. Roedd Pyke Thompson wedi dadlau ers amser y dylai amgueddfeydd ac orielau cyhoeddus agor ar y Sul, gan ei fod o'r farn y byddai cyfleon o'r fath yn "...dyrchafu meddyliau dyn ac yn cyffwrdd eu calonnau."

Bu farw Pyke Thompson yn Sevenoaks, Swydd Gaint, ar 17 Chwefror 1897 ac ym 1921, daeth Tŷ Turner dan reolaeth yr Amgueddfa Genedlaethol. Yn ei ewyllys, cymynodd ei gasgliad celf, oedd erbyn hynny yn cynnwys llun dyfrlliw mawr gan Turner o Briordy Ewenni, a swm o £3,000 i Amgueddfa Caerdydd; trosglwyddwyd y rhain yn ddiweddarach i'r Amgueddfa Genedlaethol Newydd.

Caiff ei haelioni ei gydnabod yn enw Oriel Pyke Thompson yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lle mae detholiad o'i gasgliad porslen yn dal i gael ei ddangos heddiw. Mae gweithiau eraill o'i gasgliad yn cael eu dangos yn orielau celf yr Amgueddfa hefyd.

Erthygl gan: David Jenkins, Uwch Guradur Diwydiant ac Oliver Fairclough, Ceidwad Celf.

Dyddiad yr erthygl: 1 Rhagfyr 2011

2 sylw

Graham Davies ar 1 Rhagfyr 2014, 10:11

Dear Reiner,
Thank you for your comment, we have amended the article to take into account your information.
Thank you for your interest in Amgueddfa Cymru
Graham Davies
Online Curator

Rainer Wolcke ar 26 Tachwedd 2014, 09:31

just a minor correction: Joel Spiller died 8 June 1853 in Bridgwater shortly after a minor accident in Cardiff while inspecting the construction of the Cardiff mill. The company was later run by Spiller's nephews the Allens and the Thompsons (Charles was Samuel Browne's son-in-law, I think) neither Spiller nor Samuel Browne apparently had any sons.

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: