Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Ffotograffau coll sy'n dangos darlun unigryw o gefn gwlad y gorllewin

Mae casgliad unigryw o ffotograffau o droad yr 20fed ganrif, a achubwyd o domen mewn gardd, yn gofnod prin o fywyd yng nghefn gwlad Ceredigion.

[delwedd: Tom Mathias (1866 - 1940)]

Tom Mathias (1866 - 1940)

Yn aml iawn mae lwc yn chwarae rhan fawr wrth ddarganfod caffaeliadau pwysig ar gyfer amgueddfeydd, ac roedd hyn yn wir ym 1990, pan ddarganfuwyd casgliad gwych o ffotograffau hanesyddol a ddaeth i feddiant yr Amgueddfa Genedlaethol.

Beth ond lwc all esbonio bod y ffotograffydd proffesiynol a phrofiadol, Maxi Davis, yn digwydd pasio heibio i'r tŷ wrth i'r bocys llawn negatifau gwydr yn cael eu taflu i waelod yr ardd? Beth arall ond lwc allai esbonio bod y negatifau wedi goroesi degawdau o esgeulustod o gael eu storio mewn cypyrddau cegin a siediau?

Roedd Aberdyfan, y tŷ o dan sylw, yn cael ei glirio yn dilyn marwolaeth y perchennog, Mr James Mathias. Ei dad, Tom Mathias, dynnodd y ffotograffau.

Casgliad gwych o ffotograffau

Oherwydd ei gariad at ffotograffiaeth hanesyddol fe achubodd Maxi Davis y negatifau, gan brintio'r rhai oedd mewn cyflwr digon da i'w defnyddio. Datgelodd hyn gasgliad gwych o ffotograffau o ardal Cilgerran a Dyffryn Teifi ar droad yr 20fed ganrif.

Thomas Mathias (1866-1940)

Roedd Tom Mathias yn ffotograffydd a addysgodd ei hun yn y grefft. Cofnododd fywyd bob dydd ei gymuned gyda chraffter ac eglurdeb technegol anghyffredin, hyd yn oed ymysg ffotograffwyr mwy adnabyddus a ddefnyddiai offer mwy soffistigedig o lawer. Fe'i ganed yng Nghilgerran ym 1866, yn fab i gapten llong. Ychydig a wyddwn am ei flynyddoedd cynnar a'r hyn a sbardunodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth. Ym 1897 priododd Louise Paquier, athrawes o'r Swistir oedd yn gweithio i deulu bonheddig y Cowers o Gastell Malgwyn.

Ymgartrefodd y pâr yn Aberdyfan a llwyddodd Tom Mathias i redeg ei fferm fechan yn ogystal â dilyn gyrfa fel ffotograffydd. Roedd ganddynt ddau o blant, James, a anwyd ym 1902, a Tilla, a anwyd ym 1898.

Er na gafodd ei hyfforddi'n ffurfiol, roedd yn ddigon hyderus i roi 'ffotograffydd' fel galwedigaeth ar ei dystysgrif priodas ym 1897. Hefyd fe'i rhestrwyd fel ffotograffydd yn y cyfeirlyfrau masnach rhwng 1901a 1920. Nid yw'n glir beth ddigwyddodd ym 1920, ond mae'n debyg na dynnwyd nifer o'r lluniau sydd wedi goroesi wedi'r dyddiad hwn.

Cofnodi Bywyd Cefn Gwlad

[delwedd: Cyryglwyr o Gilgerran]

William Johnson a John Morgan, cyryglwyr o Gilgerran, 1905.

Fel y mwyafrif o ffotograffwyr gwledig, enillodd Matthias ei fywoliaeth drwy gofnodi digwyddiadau teuluol pwysig, ac mae dros hanner y casgliad yn gyfuniad o luniau priodas, bedydd a grwpiau teuluol, sy'n dangos sut roedd ei arddull wreiddiol yn torri trwy ffurfioldeb ystumiau ei fodelau i gyfleu eu dynoliaeth a'u personoliaeth. Yn ôl y rhai oedd yn ei adnabod, roedd Mathias yn hynod o amyneddgar wrth baratoi i dynnu ei luniau, a gwelir ffrwyth ei amynedd diddiwedd yn fwyaf amlwg yn ei luniau anffurfiol hyfryd o blant.

Tynnodd Tom Mathias nifer o ffotograffau o fywyd bob dydd Cilgerran a'r fro, gan greu cofnod heb ei ail o fywyd cymdeithasol ac economaidd ei gymuned. Yn ogystal ag ymddiddori yn y digwyddiadau arbennig, fel dychweliad y gatrawd leol o Ryfel De Affrica, y tripiau Ysgol Sul a dathliadau'r pentref, byddai ei gamera'n cofnodi pethau di-nod a chyffredin bywyd hefyd.

Bywyd gwaith

Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o ffotograffau amhrisiadwy o fywyd gweithwyr y chwareli lleol a'r ffermydd cyfagos. Yn ogystal â thynnu lluniau o'r pysgotwyr yn eu cwryglau, tynnodd luniau o gowperiaid a chwiltwyr y pentref. Fodd bynnag, mae diddordeb Matthias mewn pobl gyffredin yn amlwg, ac amlygir hyn ym mhob un o'i luniau beth bynnag fo'r testun.

Nodwedd anarferol o'r casgliad ffotograffau hanesyddol hwn yw bod cofnod llawn o'r holl ddeunydd wedi goroesi. Yn ogystal ag achub y negatifau, cynhaliodd Maxi Davis a'i wraig Peggy gyfres o arddangosfeydd o'r ffotograffau yng Nghilgerran a'r pentrefi cyfagos. Trwy hyn, llwyddasant i gofnodi lleoliadau a dyddiadau bron pob un o'r ffotograffau, ac adnabod y mwyafrif o'r unigolyn sydd ynddynt!

Byddai'r casgliad hynod hwn wedi cael ei golli am byth, oni bai am yr amgylchiadau a drosglwyddodd y ffotograffau o domen gardd i gasgliad pwysig mewn amgueddfa, lle'u cedwir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

[delwedd: Stryd Fawr, Cilgerran, yn 1905.]

Stryd Fawr, Cilgerran, yn 1905.

Dyddiad yr erthygl: 22 Mawrth 2007

10 sylw

Kim West ar 3 Medi 2014, 13:55

Phone Box Museum, Wales, Cilgerran


From the outside there's nothing particularly special about this red phone box but, on the inside, it's an Aladdin's cave. The unassuming box sits at the junction of two roads in south Wales near Cilgerran and is filled with black and white photographs taken by Tom Mathias. The exhibition is changed every Easter. The late photographer captured charming snapshots of rural life at the turn of the century and his restored collection has now become Wales smallest museum.

Amgueddfa Cymru ar 16 Mai 2011, 16:17

Dear Ann Evans -
Thank you for your comment and interesting information. I have forward this onto our archivist at St. Fagans: National History Museum for consideration. We will get back to you as soon as possible.
Diolch / thank you
Graham Davies
Curator, Rhagor,
National Museum Wales - Amgueddfa Cymru

Ann Evans ar 16 Mai 2011, 16:10

I have a copy of a photograph taken by Tom Miathias. It is a very unusual photo of a school. The photographer was high up looking down over the school wall. All the pupils are standing in the yard.
I found the photo amongst papers left by my Aunt. She and her sister lived just outside Cenarth as children so maybe it was a school they attended. They would have been of school age in the 1920s.
I would be happy to let you see the photo if it would add anything to the collection.

Jude Harris ar 7 Mawrth 2011, 10:46

Has this very interesting collection been catalogued? I am looking for photographs of life in the Carmarthenshire villages south of Newcastle Emlyn.

Alison Pick ar 25 Ionawr 2011, 13:53

I was so excited when I saw this picture of Cilgerran High Street - my ancestors could be on it! My great-uncle, Thomas Griffiths, lived in Castle Square at this time, along with his wife and daughter (and possibly his father and son, although these two aren't on the 1911 census). It's amazing to see a scene that would have been so familiar to my relatives. Is it possible to identify the people on the picture? Is this collection of photos available to see?

Diana Maslin ar 10 Chwefror 2009, 09:54

My family were photographers and stonemasons in the Nevern/Newport/Cwn Gwuan area and in Fishguard & Haverfordwest. David Bowen owned studios in 1870s to early 1900s and Levi Ladd worked with him until opening his own studios in Tonypandy. Interested if anyone has any more information

Catrin Morris ar 21 Tachwedd 2008, 09:33

I stumbled across these photographs and instantly recognised the house that Tom Mathias lived in as my friend\'s house! It hasn\'t changed much and they still have one piece of furniture that was left in the house when they bought it from the Mathias family. They weren\'t found in a box as far as I know, my friend\'s family gave them to a local photographer to develop.

richard rees ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

fantastic to look at old pictures

Chrissie Brown ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

Many thanks for sharing these photos of Cilgerran. My gt-gt-grandfather James Bowen, a stonemason, was born here c1850, son of John Bowen and Elizabeth George. John was a quarryman at Cwmplysgog in 1881. Nice to see what it was like. I expect the castle was a great inspiration to the masons!

Andrea Sutcliffe ar 3 Tachwedd 2008, 12:14

Tom Mathias was my great-grandfather, on my mother's side (Nesta Griffiths Johnson, 1921-2008). Thank you for making these available on the Internet. Tom Mathias could have never guessed that his photos would one day be digitized and viewable all over the world!

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: