Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Maen magl a photel gwrach

Wedi eich brathu gan gi cynddeiriog neu eich rheibio gan wrach?

[delwedd: Swyn ar bapur yn erbyn rheibio, o Langurig, Maldwyn]

Swyn ar bapur yn erbyn rheibio, o Langurig, Maldwyn

Pe bai ci cynddeiriog yn eich brathu chi neu wrach yn rhoi melltith arnoch chi, fyddech chi'n gwybod beth i'w wneud? Mor ddiweddar â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, roedd yn arfer cyffredin mewn rhai mannau yng Nghymru i bobl ddefnyddio gwahanol fathau o swynion a swynbethau i'w hiachau neu i'w diogelu yn erbyn ystrywiau gwrachod. Gallai'r rhain fod ar ffurf geiriau tebyg i weddi a fyddai'n cael eu hadrodd neu eu hysgrifennu ar ddarn o bapur cyn ei guddio'n ddiogel. Yn ôl y gred roedd gwrthrychau fel esgidiau neu gerrig hefyd yn dod â lwc.

Maen magl

[delwedd: Glain Nadredd, o Ben-tyrch, Morgannwg]

Glain Nadredd, o Ben-tyrch, Morgannwg

Y swynbeth carreg enwocaf yng Nghymru oedd y maen magl neu'r glain nadredd. Ym 1695 disgrifiodd Edward Lhuyd y rhain fel Cerrig y Drudion - sef cerrig y Derwyddon. Y gred oedd y byddent yn cael eu creu wrth i nadroedd roi eu pennau at ei gilydd, gan ffurfio rhyw fath o swigen o amgylch pen un ohonynt. Mae'r 'swigen' hon yn debyg i gylch gwydr fel yr un a gafwyd yn Nhwyn-y-tila, Caerllion, a chredir ei bod yn dod â lwc i bwy bynnag sy'n dod o hyd iddi. Credid hefyd ei bod yn feddyginiaeth ar gyfer afiechydon y llygad a byddai galw mawr amdani yn aml. Mae'r term maen, wrth gwrs, yn enw arall ar garreg a hen air yw magl am anhwylder ar y llygad, fel llefrithen. Roedd modd dabio'r dŵr a ddefnyddiwyd i wlychu'r garreg ar y man sâl, ond roedd y driniaeth a ddefnyddid amlaf yn golygu rholio neu rwbio'r garreg dros yr amrant. Arferai pobl ddefnyddio'r ymadrodd 'fel y glaim', a oedd yn llythrennol yn golygu 'fel y garreg', i olygu iach dros ben.

Gwella'r gynddaredd

[delwedd: Carreg y Gynddaredd, o Henllan, Ceredigion]

Carreg y Gynddaredd, o Henllan, Ceredigion

Amrywiad ar y maen magl yw'r llaethfaen, a oedd — yn ôl y sôn — yn gallu gwella'r gynddaredd. Yn ei gyfrol Folk-Lore of West and Mid Wales, soniodd Jonathan Ceredig Davies am laethfaen a oedd 'very much in request' oherwydd y gred ei bod yn gwella pobl a gafodd eu brathu gan gi cynddeiriog, a oedd yn broblem gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Boed pwerau'r garreg yn rhai iachaol neu'n rhai ataliol, y gred oedd bod y bobl a ddefnyddiai'r garreg yn ddiogel rhag y gynddaredd. Soniodd Iolo Morgannwg iddo weld carreg fel hon yn Sir Benfro ym 1802, pan gyfarfu â dyn a oedd yn cerdded y wlad â charreg o'r fath gydag ef. Byddai'n crafu darn o'r garreg yn bowdwr y gellid ei doddi mewn diod, a'i werthu am bum swllt yr owns fel meddyginiaeth yn erbyn y gynddaredd.

Potyn a photel gwrach

Math gwbl wahanol o swynbeth yw potel gwrach. Edrychwch er enghraifft ar y jwg crochenwaith Bwcle yma o'r ddeunawfed ganrif — potel gwrach yw hon. Fe'i cafwyd wedi ei chladdu wrth wraidd hen ywen ger ffermdy Allt-y-Rhiw ger Llansilin, ym Mhowys. Yr hyn sy'n ddiddorol ynglŷn â'r jwg yw bod ei chwarter yn llawn o blwm, sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio mewn rhyw ffordd warchodol, neu fel ffordd o ddal neu amgáu ysbryd trafferthus mewn modd tebyg i'r esgidiau cuddiedig sydd yn ein casgliad. Gyda chredoau ynglŷn â dewiniaeth roedd y weithred o gau gwrthrych mewn potel neu botyn yn aml yn arwydd o fod wedi twyllo'r ysbryd aflan. Byddai'n cael ei ddefnyddio felly fel swynbeth gwarcheidiol. Mae llawer i stori am ysbrydion trafferthus yn cael eu 'diddymu' fel hyn, fel ysbryd 'Lady Jeffreys' a gafodd ei pherswadio i fynd i mewn i botel. Yna rhoddwyd corcyn yn y botel, ei selio a'i thaflu i'r pwll o dan y Bont Fer yn Llanidloes.

'Crinjars' neu ddynion hysbys

[delwedd: Mr Evan Griffiths, crinjar o Langurig, sir Drefaldwyn, 1928]

Mr Evan Griffiths, crinjar o Langurig, sir Drefaldwyn, 1928

Medrai pobl a gafodd eu witsio hefyd ddilyn eu defodau eu hunain yn erbyn dewiniaeth trwy osod pethau miniog fel drain a phinnau mewn potel. Fel arfer byddent yn llenwi'r botel wedyn gyda lleisw'r dioddefwr cyn ei selio a'i berwi ar y tân neu ei chladdu o dan garreg yr aelwyd. Y gred oedd y byddai hyn yn poenydio'r wrach nes iddi ddangos pwy oedd hi, a thrwy wneud hynny godi'r swyn. Roedd y botel yn cynrychioli pledren y wrach, ac felly credid bod y pethau miniog yn achosi llawer o boen iddi. Gallech hefyd brynu swyn gan ddyn hysbys — sef dyn doeth. Roedd y bobl hyn yn gyffredin iawn yng Nghymru ar un adeg, ac ymhlith eu doniau roedd gwrthweithio dewiniaeth, gwella pobl ac anifeiliaid, astroleg, dweud ffortiwn, a dod o hyd i eiddo coll. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif roedd enw mawr i Langurig oherwydd ei dynion hysbys. Byddai swynau yn erbyn dewiniaeth yn cael eu hysgrifennu ar ddarn o bapur, a gâi ei rolio'n ofalus a'i selio mewn potel. Gosodwyd hon wedyn o dan yr aelwyd neu ei chuddio yn un o brif drawstiau'r tŷ er mwyn gwarchod rhag dewiniaeth ac unrhyw ddrwgweithredwyr. Os digwydd i chi ddod o hyd i un o'r swynbethau hyn, cofiwch ei drin yn yr un ffordd â'r dillad cuddiedig. Tynnwch ffotograffau ohono a chofnodi manylion yr union fan y daethoch o hyd iddo, a chysylltu â'ch amgueddfa leol. A beth bynnag y gwnewch chi, peidiwch ag agor y botel!

Dyddiad yr erthygl: 16 Mehefin 2011

1 sylw

anna ar 8 Hydref 2011, 00:25

But what is a snakestone composed of?

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: