Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

William James Tatem, Barwn 1af Glanely, 1868-1942

Mae'n debyg taw fel perchennog ceffylau rasio nodedig y cofiwn ni am Arglwydd Glanely heddiw, gyda'i geffylau yn ennill pob un o'r pum Clasur Prydeinig. Yn y diwydiant llongau y gwnaeth ei ffortiwn fodd bynnag, ac roedd yn hael yn ei gefnogaeth o achosion da yn ne Cymru, yn enwedig Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

[delwedd: William James Tatem, Barwn 1af Glanely o Sain Ffagan.]

William James Tatem, Barwn 1af Glanely o Sain Ffagan.

[delwedd: Exning, plasty'r Arglwydd Glanely yn Newmarket]

Exning, plasty'r Arglwydd Glanely yn Newmarket

[delwedd: Yr Arglwydd Glanely yn arwain Singapore, wedi ennill ras St Leger 1930; Gordon Richards oedd y joci]

Yr Arglwydd Glanely yn arwain Singapore, wedi ennill ras St Leger 1930; Gordon Richards oedd y joci

Nid Cymro oedd Tatem o gwbl; cafodd ei eni yn Appledore yng ngogledd Dyfnaint ym 1868, ac wedi marwolaeth ei dad yn ifanc, symudodd ei fam y teulu i Gaerdydd pan oedd Tatem yn ddeunaw. Ymunodd â chwmni llongau Anning Brothers fel clerc gan ddod i ddeall y busnes llongau yn drylwyr. Defnyddiodd y wybodaeth hon i fentro i'r busnes ar ei liwt ei hun ym 1897, ac roedd meistr un o'i longau hefyd yn frodor o Appledore, William Reardon Smith.

Fflyd fawr

Erbyn 1914 roedd Tatem wedi adeiladu fflyd sylweddol o un llong ar bymtheg. Cafodd ei urddo'n fachog ym 1916 ac ym 1918 cafodd ei ddyrchafu'n un o arglwyddi'r deyrnas gan ddwyn y teitl, Barwn Glanely o Sain Ffagan. Roedd yn berchennog llongau craff a werthodd ei fflyd am grocbris ym 1919 pan oedd ffyniant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei anterth, cyn dychwelyd i'r busnes gyda chwe llong newydd am fargen ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Diolch i hyn, bu blynyddoedd y dirwasgiad yn llawer haws iddo na'i gyfoedion.

'Sporting Bill'

Datblygodd ei ddiddordeb mewn rasio ceffylau ymhellach wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1919-20 prynodd dŷ gwych Exning yn Newmarket, a stablau cyfagos Lagrange. Daeth ei fuddugoliaeth fawr gyntaf yn Royal Ascot ym 1919 pan enillodd Grand Parade y Derby. Roedd y fuddugoliaeth hon yn ddadleuol ar y pryd, gan taw ef oedd yn berchen y ffefryn yn yr un ras, Dominion. Roedd Dominion ymhell ar ei hol hi pan basiodd Grand Parade y postyn yn gyntaf am bris o 33/1 — gyda arian Glanely i gyd ar hwnnw! Roedd yn ffigwr adnabyddus yn y rasys mawr i gyd a byddai pawb yn ei adnabod fel "sporting Bill".

Dyngarwch ac achosion da

Roedd yn hael ei gefnogaeth ariannol i Amgueddfa Cymru, ac enwyd Oriel Glanely yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ei ôl. Bu'n llywydd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ddwywaith, ym 1920-25 a 1934-42, ac ariannodd y gwaith o adeiladu labordai gwyddonol newydd.

Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen defnyddiodd ddwy o'i longau ei hun i gludo nifer fawr o ffoaduriaid o Wlad y Basg i dde Cymru, a sefydlodd elusen i'w cynorthwyo yn ddiweddarach.

Er iddo lwyddo mewn sawl maes, profodd sawl tristwch yn ei fywyd personol. Bu farw ei unig fab, Shandon yn chwe mlwydd oed ym 1905, a bu farw'r Arglwyddes o'i hanafiadau yn dilyn damwain car ym 1930. Cafodd yntau ei ladd mewn cyrch awyr ar Weston-Super-Mare ar 24 Mehefin 1942.

Erthygl gan: David Jenkins, Uwch Guradur Diwydiant

Dyddiad yr erthygl: 30 Tachwedd 2011

3 sylw

Dr David Jenkins ar 18 Mehefin 2014, 15:07

Thanks to Ryan Francis for his recent response. I'm pretty certain that Lord Glanely never had lands in Flintshire. One shipping magnate who did have an estate there was Sir Percy Bates, chairman of the famous Cunard Line.
If any records of the Exning estate have survived I would imagine that they might be in the Suffolk Record Office.
The shipping company established by Lord Glanely survives as an investment company run by the descendants of his nephew, George Gibson, and the family also maintains his interest in the turf.

Ryan Francis ar 17 Mehefin 2014, 20:32

My grandfather, Frederick Francis was head keeper for the Exning estate much of his life from the early 1900 to about 1964, prior to working at the Exning estate he was a game keeper in Flint, Wales, possibly working for Lord Granely. Fred was born a Suffolk boy in Barking, Suffolk. If there are any estate record giving his service details they would be most welcome.

Jack Eaton ar 30 Gorffennaf 2013, 12:52

Rightly, these notes emphasise Lord Glanely's love for the turf. However, perhaps his most famous horse, Colombo, who failed to win the Derby when only third behind Windsor Lad in 1934, having started as hot favourite at 11-8. He had previously won the Two Thousand Guineas at the prohibitive odds of 2-7.

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: