Rhagor - darganfod byd o gasgliadau

Ffasau glo a chopr W.E. Logan a'r map daearegol

[delwedd: William Logan, 1856]

William Logan, 1856

[delwedd: Gwaith y Forest ger Abertawe 1792 gan John 'Warwick' Smith (1749-1831). ]

Gwaith y Forest ger Abertawe 1792 gan John 'Warwick' Smith (1749-1831).

[delwedd: Lewis Weston Dillwyn (1778-1855) gen Syr George Hayter (1792-1871).]

Lewis Weston Dillwyn (1778-1855) gen Syr George Hayter (1792-1871).

[delwedd: Henry Thomas De la Beche (1796-1855), tua 1841, sefydlydd yr Arolwg Daearegol Prydeinig.]

Henry Thomas De la Beche (1796-1855), tua 1841, sefydlydd yr Arolwg Daearegol Prydeinig.

[delwedd: Argraffiad cyntaf a fap cyntaf y Geological Survey o ardal Abertawe, a fapiwyd gan W.E. Logan a Henry De la Beche, wedi'i liwio â llaw, cyhoeddwyd ym 1844]

Argraffiad cyntaf a fap cyntaf y Geological Survey o ardal Abertawe, a fapiwyd gan W.E. Logan a Henry De la Beche, wedi'i liwio â llaw, cyhoeddwyd ym 1844

[delwedd: Llythyr gan Logan at De la Beche, 20 Ebrill 1844]

Llythyr gan Logan at De la Beche, 20 Ebrill 1844: "Gweithiais fel caethwas drwy'r haf ar wlff Sant Lawrence, gan fyw bywyd dyn anwar mewn pabell agored, gan gysgu ar y traeth mewn blanced a sach gyda'm traed ger y tân, prin y byddwn yn tynnu fy nillad, byddwn yn bwyta porc hallt a bisgeti llong gan gael fy mhoenydio weithiau gan fosgitos"

[delwedd: Weloganite, mwyn carbonad prin o Montreal, a ddarganfuwyd ym 1967 a'i enwi ar ôl W.E. Logan.]

Weloganite, mwyn carbonad prin o Montreal, a ddarganfuwyd ym 1967 a'i enwi ar ôl W.E. Logan.

Roedd William Edmond Logan un o ddaearegwyr mawr y 19eg ganrif, ac yn cael ei gofio fel gwyddonydd pwysicaf Canada erioed. Yng Nghymru y dechreuodd ar ei yrfa ddaearegol.

Abertawe: Tref Gopr

Roedd tua hanner copr y byd yn cael ei gynhyrchu yn Abertawe erbyn canol y 19eg ganrif. Byddai mwynau yn dod o Gernyw, Iwerddon, Cuba a Chile i gael eu mwyndoddi gyda glo de Cymru.Yn Abertawe cai prisiau copr ar draws y byd eu pennu a chai'r dref ei hadnabod fel 'Copperopolis'.

Roedd pedwar ar ddeg o weithfeydd copr yn ardal Abertawe yn y 1830au, ac un o'r rhain oedd Gwaith Copr Upper Forest yn Nhreforys, agorodd ym 1752. Yma y dechreuodd William Edmond Logan (1798-1875) ar ei yrfa fel un o ddaearegwyr mawr y 19eg ganrif.

W.E. Logan (1798-1875)

Ganwyd William Edmond Logan ym Montreal ym 1798 i rieni a ymfudodd o'r Alban. Pan oedd yn 16, anfonwyd Logan i ysgol yng Nghaeredin a bu'n mynychu dosbarthiadau yn y brifysgol yna am gyfnod wedi hynny. Symudodd i Lundain ymhen blwyddyn ym 1817 i weithio ym musnes cyfrifo ei ewythr.

Rywbryd yn y 1820au, magodd Logan ddiddordeb mewn daeareg ganl gasglu cregyn ffosil ar ystad ei ewythr yn Suffolk, ac yn ddiweddarach, ar Ynys Sheppey yng Nghaint. Ym 1831, prynodd ewythr Logan gyfranddaliadau yng Ngwaith Copr Upper Forest yn Nhreforys, ac anfonodd ei nai I Abertawe i reoli cyfrifon y cwmni.

Abertawe: canolfan wyddoniaeth

Ffynnodd gwyddoniaeth yn Abertawe yn y 1830au a'r 1840au, yn bennaf o ganlyniad i arweiniad y naturiaethwr ac AS lleol, Lewis Weston Dillwyn (1778–1855). Ef oedd Llywydd cyntaf Sefydliad Athronyddol Abertawe a dyfodd ymhen ychydig flynyddoedd yn Sefydliad Brenhinol De Cymru. Roedd Logan hefyd yn un o'r sylfaenwyr a bu'n Ysgrifennydd Anrhydeddus a Churadur Daeareg Anrhydeddus y Sefydliad o 1836.

Glo a Chopr

Ym 1833, daeth Logan yn gyd reolwr Gwaith Copr Upper Forest. Oherwydd ei ddiddordeb mewn daeareg, ei waith pennaf oedd gofalu am y cyflenwad o fwyn copr a glo i'r gwaith. Y flwyddyn ganlynol, treuliodd sawl mis yn Ffrainc a Sbaen yn chwilio am ffynonellau mwyn copr newydd. Roedd yn frwd hefyd dros sefydlu cyflenwad dibynadwy o lo lleol, ac ym 1835 dechreuodd astudio'r ffasau glo lleol o amgylch Abertawe drwy gofnodi mannau brigo ar fapiau a thrawsluniau.

Yr arolwg daearegol yn dod i Abertawe

[delwedd: Trawslun fertigol o strata craig a ddarluniwydgan Logan ac a Gyhoeddwyd gan yr Arolwg Daearegol 845.]

Trawslun fertigol o strata craig a ddarluniwydgan Logan ac a Gyhoeddwyd gan yr Arolwg Daearegol 1845.

Ym 1835, derbyniodd Henry De la Beche (1796-1855), daearegwr o Lyme Regis yn Dorset, nawdd gan y llywodraeth i wneud arolwg daearegol o Gernyw. Dyma oedd man cychwyn yr Arolwg Daearegol Prydeinig. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn Rhagfyr 1837, symudodd De la Beche i Abertawe I ddechrau mapio creigiau Maes Glo De Cymru.

Daeth De la Beche i ymwneud â Sefydliad Athronyddol Abertawe drwy ei gyfaill Lewis Weston Dillwyn. Cyfarfu â Logan, a gwnaeth y mapiau o ffasau glo Abertawe gyrn argraff arno a nododd fod map Logan yn "gyflawniad pryd ferth [ac] o safon sydd ymhell uwchlaw'r hyn a welir gan ddaearegwyr fel arfer". Defnyddiodd De la Beche waith Logan ar fap swyddogol yr Arolwg Daearegol. Parhaodd Logan i fapio gyda'r Arolwg Daearegol yn ne Cymru hyd 1841.

Map daearegol o Abertawe

Cyhoeddwyd map cyntaf yr Arolwg Daearegol o ardal Abertawe ym 1844, wedi'i seilio ar fap topograffig yr Arolwg Ordnans o 1830 ar raddfa o un fodfedd i un filltir. Mae'n dangos yr ardal o Cynffig yn y dwyrain i Gydweli yn y gorllewin. Cydnabyddir taw W.E.Logan a Sir Henry De la Beche gyflawnodd y mapio daearegol.

Argraffiad cyntaf a fap cyntaf y Geological Survey o ardal Abertawe, a fapiwyd gan W.E. Logan a Henry De la Beche, wedi'i liwio â llaw, cyhoeddwyd ym 1844

Logan yng Nghanada

Wedi meithrin ei sgiliau daearegol ar greigiau glo Abertawe, ymgeisiodd Logan ym 1841 am swydd Cyfarwyddwr Arolwg Daearegol cyntaf Canada. Cefnogodd nifer o ddaearegwyr blaenllaw Prydain ei gais, yn cynnwys Henry De la Beche, a cafodd ei benodi yn Ebrill 1842.

Erbyn 1849 roedd Logan, a phedwar gweithiwr wedi mapio'r ardal rhwng Afon Sant Lawrence a'r Llynnoedd Mawr, wedi gweithio ar ddyddodion glo Nova Scotia ac wedi can rod mwyn copr i'r dwyrain a Montreal.

Ym 1863, cyhoeddodd Logan a'i staff yr astudiaeth fawr gyntaf o ddaeareg Canada. Mae'n cael ei hystyried yn binacl cyhoeddi gwyddonol Canada'r 19eg ganrif. Cyhoeddwyd mapiau ym 1865 a 1869 yn dilyn y gwaith hwn.

Logan yn dychwelyd i Gymru

Byddai Logan yn teithio ar draws yr Iwerydd yn ami; fe wnaeth y daith dros 30 o weithiau i gyd.

Cafodd ei urddo'n farchog ym 1856, y person cyntaf i gael ei eni yng Nghanada i dderbyn yr anrhydedd. Cafodd ei anrhydeddu hefyd gall Ffrainc, y Gymdeithas Frenhinol, y Gymdeithas Ddaearegol, Prifysgol Bishop yn Quebec a Prifysgol McGill ym Montreal, yn ogystal â dinasyddion Toronto a Montreal.

Er i Logan ymddeol yn swyddogol ym 1869, fe barhaodd i wneud gwaith maes yn yr haf o amgylch Montreal a byddai'n treulio ei aeafau yn nhŷ ei chwaer yng ngorllewin Cymru.

Bu farw yno ym Mehefin 1875 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent eglwys Cilgerran yn Sir Benfro.

Heddiw, mae William Edmond Logan yn cael ei gofio fel gwyddonydd pwysicaf Canada erioed, ac yng Nghymru y dechreuodd ar ei yrfa ddaearegol.

Erthygl gan: Tom Sharpe, Adran Daeareg

[delwedd: Castell Malgwyn, Llechryd, cartref chwaer Logan, Elizabeth. Image: T. Sharpe]

Castell Malgwyn, Llechryd, cartref chwaer Logan, Elizabeth. Image: T. Sharpe

[delwedd: Bedd Logan yn mynwent Saint Llawddog yng Nghilgerran, Sir Benfro. Image: T. Sharpe]

Bedd Logan yn mynwent Saint Llawddog yng Nghilgerran, Sir Benfro. Image: T. Sharpe

Dyddiad yr erthygl: 7 Chwefror 2012

0 sylw

Gadael sylw


Gwerthuswch yr erthygl

Cynnwys:     

Delweddau:     

Arddull a darllenadwyedd: